Heriwch y dysgwyr i gymhwyso sgiliau datrys problemau i broblem rhesymeg ar ffurf grid, sy’n dibynnu ar wybodaeth gemegol am ïonau, gwefr a grwpiau’r tabl cyfnodol
Mae’r adnodd hwn yn cyd-fynd â’r erthygl yn Education in Chemistry, Highly charged.
Amcanion dysgu:
- Adnabod disgrifiadau o ïonau yn seiliedig ar wefr a rhif grŵp.
- Lluniadu diagramau ffurfwedd electronau ar gyfer ïonau.
Cyflwyniad
Gosododd athro dasg gwaith cartref i luniadu ffurfweddau electronau ar gyfer gwahanol ïonau. Anghofiodd chwech o’r myfyrwyr a gyflwynodd eu taflenni gwaith cartref nodi eu henwau. Nid yw’r myfyrwyr yn cofio pa ïon roeddent wedi ei luniadu, ond maent yn gallu cofio rhai o nodweddion yr ïonau hynny. Mae’r athro wedi labelu pob un o’r taflenni gwaith cartref dienw â llythyren rhwng A ac F.
Cyfarwyddiadau i ddysgwyr

Defnyddiwch y cliwiau i ddatrys y pos rhesymeg i ddarganfod pa fyfyriwr gyflwynodd pa ïon ar gyfer y gwaith cartref.
Ni ddylech fod angen tabl cyfnodol i’ch helpu i ddatrys y rhan fwyaf o’r pos rhesymeg. Dylech ddefnyddio eich gwybodaeth am rifau grŵp a gwefrau ïonau.
Cyfarwyddiadau i athrawon
Mae’r pos rhesymeg yn ffordd hwyliog a heriol o wirio dealltwriaeth o’r amcanion dysgu. Fodd bynnag, mae’n bosibl na fydd rhai dysgwyr wedi gweld y math hwn o bos o’r blaen. Bydd gweithio mewn grwpiau bach neu gwblhau’r pos fel dosbarth cyfan yn galluogi’r dysgwyr i gael gafael ar y daflen waith ddilynol lle gallant ymarfer lluniadu ïonau.
Mae fersiwn o’r pos rhesymeg sydd â dim ond dau gategori wedi ei darparu hefyd i gynorthwyo dysgwyr sy’n ei chael hi’n anodd defnyddio’r fformat hwn. Mae’n profi’r un wybodaeth wyddonol.
Bydd gosod terfyn amser ar gyfer rhannu’r grid wedi ei lenwi â’r holl ddysgwyr yn helpu i gadw’r wers i symud ac yn ffordd o osgoi rhwystredigaeth ynghylch methu cwblhau’r pos.
Awgrymiadau
Anogwch eich dysgwyr i roi cynnig ar y pos, hyd yn oed os nad ydynt wedi rhoi cynnig ar unrhyw beth fel hyn o’r blaen, drwy roi’r awgrymiadau a ganlyn:
- Nid oes yn rhaid i chi fynd drwy’r holl gliwiau yn eu trefn.
- Chwiliwch am gliw y gallwch ei ddatrys yn hawdd os ydych chi’n sownd.
- Anwybyddwch gliw os nad ydych chi’n gwybod beth i’w wneud, a gallwch ddod yn ôl ato yn nes ymlaen.
- Ar ôl i chi gwblhau’r holl gliwiau, ewch drwyddynt o’r dechrau eto. Mae’n bosibl y bydd gwybodaeth newydd ar gael i chi ar yr ail gynnig.
- Os ydych chi wedi rhoi tic yn un o’r adrannau, ydych chi’n gwybod unrhyw beth arall am yr eitemau yn y rhes neu’r golofn honno y gallwch ei drosglwyddo i adran arall o’r grid?
Downloads
Pos rhesymeg ïonau: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.26 mbPos rhesymeg ïonau: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.42 mbPos rhesymeg ïonau: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.55 mbPos rhesymeg ïonau: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.83 mb




No comments yet