Anogwch y dysgwyr i feddwl yn gydweithredol gyda thasgau siarad a gwrando
Bydd trafodaethau grŵp effeithiol yn rhoi cyfle i’r dysgwyr feithrin cyd-ddealltwriaeth o adeiledd a bondio drwy fynegi syniadau sy’n cael eu datblygu a’u herio’n adeiladol yn y grŵp.
-
Lawrlwythwch
Sleidiau ar gyfer yr ystafell ddosbarth gyda phum pont eiriau, pum camsyniad ‘trwsio’r bont’ a’r holl wybodaeth ategol sydd ei hangen arnoch ar gyfer gweithgareddau sgwrsio sydd wedi’u strwythuro’n dda.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Adnoddau sgwrs strwythuredig
Amcanion dysgu
- Defnyddio disgrifiadau o fondiau cofalent, ïonig a metelig i gyfiawnhau gwahanol briodweddau ffisegol adeileddau cofalent, ïonig a metelig.
- Datblygu sgiliau siarad a gwrando drwy ddefnyddio’r sylfeini sgwrs strwythuredig i helpu i reoli trafodaeth eich grŵp.
- Meithrin cyd-ddealltwriaeth o’r adeiledd a’r bondio yn y gwahanol fathau o garbon, gan wahaniaethu rhwng adeileddau syml ac enfawr ar sail gwybodaeth am briodweddau ffisegol.
- Gwerthuso pa mor llwyddiannus yw pont eiriau eich grŵp drwy ei chymharu â’r enghreifftiau eraill.
Cyflwyniad
Fel unrhyw weithgaredd dysgu, mae angen cynllunio’r diben, y cynnwys, y dull gweithredu, yr amseru a’r myfyrio er mwyn cael trafodaeth effeithiol. Gosodwch dasg pont eiriau i’r dysgwyr i ddarparu sgaffaldiau sy’n eu galluogi i gyrraedd lefel uwch o ddealltwriaeth ar y cyd nag y gallent ei chyflawni ar eu pen eu hunain a heb gymorth y sgaffaldiau. Rhannwch y dysgwyr yn grwpiau o dri, gyda rolau wedi’u diffinio. Eu tasg fydd codi pont eiriau gysyniadol o’r dechrau i’r diwedd, gyda ffaith a rhai geiriau i’w defnyddio fel estyll.
Cafodd pontydd geiriau eu cyflwyno’n wreiddiol yn ein herthygl Sgyrsiau adeiladol gyda thriawdau sgwrsio.
Cydrannau’r adnodd
Mae’r sleidiau i fyfyrwyr yn cynnwys tair adran:
- Gwybodaeth ategol – amcanion dysgu, enghraifft ymarferol, rheolau siarad a gwrando, rolau a chwestiynau metawybyddol.
- Pontydd geiriau – pum pont eiriau i’r dysgwyr eu hadeiladu mewn grwpiau, yn ogystal ag atebion enghreifftiol.
- Trwsio’r bont – pum camsyniad (sy’n gysylltiedig â’r pontydd geiriau) i’r dysgwyr eu trafod mewn grwpiau, ynghyd ag atebion enghreifftiol.
Sut mae defnyddio pontydd geiriau
Paratoi ar gyfer y dasg
- Cyflwynwch bwrpas y dasg – sef cynnal sgyrsiau strwythuredig am gemeg, sy’n helpu pawb i ddysgu.
- Cyflwynwch y syniad o reolau sylfaenol wrth siarad a gwrando (sleid 4).
- Gwahoddwch sylwadau a diweddariadau a gwnewch yn siŵr bod y dysgwyr yn gallu gweld y rheolau drwy gydol y broses.
- Rhannwch y dosbarth yn grwpiau o dri lle bydd un dysgwr yn chwarae rôl A (pensaer), un yn chwarae rôl B (adeiladwr pontydd) ac un yn chwarae rôl C (peiriannydd sifil). Rhowch allbrint o sleid 5, sy’n cyflwyno’r rolau, i bob grŵp.
- Trafodwch/dangoswch y sleid ‘Adeiladu pontydd geiriau’ (sleid 6). Rhowch allbrint o’r sleid dechrau brawddegau i bob grŵp (sleid 7).
- Tafluniwch bont eiriau ar y bwrdd gwyn. Rhowch gopi wedi’i argraffu o’r bont eiriau i bob grŵp os yw hynny’n ddefnyddiol.
Modelu sgwrs strwythuredig
- Modelwch sgwrs pont eiriau yn gyntaf, cyn gofyn i’r dysgwyr ddechrau. Gallwch ddefnyddio’r enghraifft ymarferol sydd ar sleid 9.
Archwiliwch ein casgliad llythrennedd mewn addysgu gwyddoniaeth
Edrychwch ar ein hadnoddau cymorth llythrennedd diweddaraf ynghyd â’n casgliad gofalus o erthyglau a gweithgareddau sy’n barod ar gyfer yr ystafell ddosbarth i’ch helpu i wreiddio llythrennedd yn y gwersi sydd gennych eisoes.
GWELD Y CASGLIADY drefn a awgrymir
- Rhowch 30 eiliad i’r dysgwyr edrych yn dawel ar ffaith y bont eiriau a chynllunio sut y gallent ddefnyddio’r geiriau sy’n cael eu darparu i fynd o’r dechrau i’r diwedd.
- Rhowch ddau funud i’r dysgwyr – yn eu gwahanol rolau – drafod y ffordd orau o ddefnyddio’r holl eiriau sydd wedi cael eu darparu i adeiladu’r bont. Atgoffwch nhw i ddefnyddio’r ffaith a ddarparwyd i helpu i gysylltu’r dechrau â’r diwedd.
- Dewiswch rai grwpiau i rannu eu ‘pont’ gyda’r dosbarth (mae hyn yn rhan o rôl C) a gofynnwch i’r dosbarth am adborth cyn rhoi’r ateb enghreifftiol a chywiro unrhyw gamsyniadau. Gallwch ganiatáu tua phum munud ar gyfer hyn. Mae’r cam hwn yn hanfodol er mwyn osgoi sefyllfaoedd lle nad yw camsyniadau’n cael eu herio.
- Gofynnwch i’r dysgwyr ym mhob grŵp gyfnewid rolau fel bod A yn troi’n B, B yn C, ac C yn A. Trafodwch y sleid cyfarwyddiadau ‘Trwsio’r bont’ (sleid 12) ac yna dangoswch y sleid ‘Trwsio’r bont’ berthnasol ar gyfer y bont eiriau rydych chi’n canolbwyntio arni. Rhowch 30 eiliad i’r grwpiau feddwl yn dawel cyn gofyn iddynt ymgymryd â’u rolau newydd.
- Rhowch ddau funud i’r dysgwyr drafod beth sydd o’i le, neu beth sydd angen ei wneud, â’r datganiad ‘Trwsio’r bont’ a cheisio’i gywiro neu ei gwblhau.
- Dewiswch rai grwpiau i rannu eu cywiriad ‘Trwsio’r bont’ gyda’r dosbarth (unwaith eto, mae hyn yn rhan o rôl dysgwr C) a gofynnwch i’r dosbarth am adborth cyn rhoi’r ateb enghreifftiol (caniatewch tua phum munud).
- Gofynnwch i’r dysgwyr ym mhob grŵp gyfnewid rolau eto (dylent fod yn ymgymryd â’r drydedd rôl y tro hwn) cyn darparu’r bont eiriau nesaf ac ailadrodd y broses.
- Dewch â’r sgwrs strwythuredig i ben drwy wahodd atebion i’r cwestiynau ar y sleid myfyrio. Rhowch flaenoriaeth i gyfraniadau gan unrhyw ddysgwyr nad ydynt wedi cyflwyno gerbron y dosbarth eto.
Awgrymiadau ar gyfer llwyddo
- Mae’n bosibl y bydd sgwrsio strwythuredig yn gysyniad newydd i chi a’ch dysgwyr. Mae’n cymryd amser ac ymarfer rheolaidd i’r grwpiau weithio’n effeithiol fel tîm, ond mae’n werth yr ymdrech.
- Anogwch y dysgwyr i roi adborth i’w gilydd yn ystod y gweithgaredd hwn. Mae hyn yn hanfodol er mwyn iddynt ddatblygu eu sgiliau siarad a gwrando yn y cyd-destun cemeg hwn. Mae dilyn y drefn a awgrymir uchod yn rhoi cyfleoedd i gyd-ddysgwyr a’r athro roi adborth.
- Anogwch y dysgwyr i roi adborth yn ystod y trafodaethau gyda chwestiynau fel: ‘Ym mha ffordd ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r hyn y mae X newydd ei ddweud?’
- Rhowch gymorth ychwanegol drwy wrando a rhoi adborth ar drafodaethau cychwynnol y grwpiau.
- Tafluniwch amserydd ar y bwrdd gwyn i sicrhau bod y dysgwyr yn canolbwyntio ar y dasg ac yn cadw at y terfyn amser.
- Drwy gydol y gweithgaredd, anogwch y dysgwyr i ystyried y cwestiynau metawybyddol ar sleid 8 – darparwch allbrintiau o’r sleid hon, os yw hynny’n ddefnyddiol. Edrychwch eto ar y sleid fel rhan o’r myfyrio ar ddiwedd y wers os oes angen.
Addasiadau
Rhagor o gymorth
- Defnyddiwch un bont eiriau ar y tro a rhowch bwyslais ar gyflwyno’r rheolau siarad a gwrando. Os dilynwch yr amseroedd uchod, dylai cylch pob pont eiriau gymryd tua 15 munud.
- Anogwch y dysgwyr sy’n anghyfforddus yn rhoi adborth i’r dosbarth i ddweud hynny wrthych er mwyn i chi allu gwneud yn siŵr nad nhw fydd yn rhoi adborth gyntaf.
- Yn hytrach na bod y person sy’n gwneud rôl C yn cyflwyno i’r dosbarth bob amser, gallech ddewis enw ar hap neu ddefnyddio olwyn i ddewis pwy sy’n cyflwyno pont eiriau eu triawd. Gallwch baratoi’r rhain ymlaen llaw drwy lunio rhestr o enwau’r dysgwyr.
- Gyda dysgwyr llai hyderus a allai gael trafferth ymwneud â’r sgwrs strwythuredig, rhowch gopi o eirfa hygyrch y pwnc hwn (rsc.li/496HPSP) er mwyn iddynt allu cyfeirio at unrhyw eiriau anghyfarwydd.
Llai o gymorth
- Neilltuwch gyfran fwy o’r wers i’r drafodaeth a rhowch nifer o bontydd geiriau i’r gwahanol grwpiau.
- Paratowch stondinau ar gyfer pob pont eiriau a gofynnwch i’r grwpiau symud o amgylch yr ystafell nes bod pob grŵp wedi cwblhau cylch o bontydd geiriau a phroblemau ‘Trwsio’r bont’. Mae pump ohonynt wedi’u cynnwys yn yr adnodd ar gyfer y pwnc hwn.
- Defnyddiwch unrhyw bontydd geiriau wedi’u hargraffu i adolygu, neu i ddelweddu’r cysylltiadau rhwng pynciau gwahanol sy’n rhannu cysyniadau cyffredin. Gofynnwch i’r dysgwyr eu trefnu ar ffurf map pynciau.
Metawybyddiaeth
Mae’r adnodd hwn yn helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol mewn tri maes allweddol.
Cynllunio
Anogwch y dysgwyr i ofyn y cwestiynau canlynol iddyn nhw eu hunain yn ystod y 30 eiliad o amser meddwl tawel:
- Ydw i wedi gweld tasg fel hon o’r blaen? Beth fydd ei angen arnaf i gwblhau’r dasg hon a sut ydw i am ei gwneud? Beth sy’n mynd i fod yn heriol? Beth ydw i’n ei wybod eisoes a fydd yn fy helpu yma?
Monitro
Mae trafod yn rhoi cyfle i herio gwybodaeth bersonol ac archwilio dealltwriaeth drwy egluro a chyfiawnhau syniadau. Ewch o amgylch y triawdau yn ystod eu trafodaethau dau funud ac anogwch y dysgwyr i ofyn iddyn nhw eu hunain:
- Ydym ni’n defnyddio’r ffaith i gysylltu’r holl eiriau er mwyn symud o’r dechrau i’r diwedd? Ydym ni’n aros o fewn ein rolau A, B, ac C? Oes angen i ni newid unrhyw beth er mwyn cwblhau’r dasg?
Gwerthuso
Anogwch y dysgwyr i fyfyrio gyda’r cwestiynau hyn:
- Sut ydych chi’n teimlo am y dasg hon? Pam? Pa mor dda oeddech chi ac eraill am gadw at y rheolau sylfaenol? Sut hwyl gawsoch chi ar bob un o’r rolau yn y triawd? Beth aeth yn dda a beth oedd yn heriol? Beth ydych chi wedi’i ddysgu wrth wneud y gweithgaredd hwn y gallwch ei roi ar waith y tro nesaf y byddwch yn siarad am gemeg?
Downloads
Adeiledd a bondio sgwrs strwythuredig: sleidiau gwers
Presentation | PDF, Size 0.89 mbAdeiledd a bondio sgwrs strwythuredig: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.21 mbAdeiledd a bondio sgwrs strwythuredig: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.46 mbAdeiledd a bondio sgwrs strwythuredig: sleidiau gwers
Presentation | PowerPoint, Size 1.11 mb









No comments yet