Mae’r Haul yn rhoi’r cyd-destun er mwyn i’r dysgwyr ddefnyddio eu gwybodaeth am adeiledd atomig

Yr Haul yw ein seren. Mae’r rhan fwyaf o sêr yn ein galaeth, gan gynnwys yr Haul, yn 74% hydrogen a 24% heliwm, ac mae’r 2% arall yn cynnwys elfennau eraill fel carbon, nitrogen ac ocsigen.

Gwybodaeth am yr adnodd hwn

Mae’r adnodd Ymestyn a herio hwn yn mynd â’r dysgwyr y tu hwnt i’r cwricwlwm ac yn gofyn iddynt ddefnyddio eu gwybodaeth am adeiledd atomig yng nghyd-destun yr Haul. Mae defnyddio gwybodaeth mewn gwahanol gyd-destunau yn meithrin eu hyder a’u gallu i wynebu cwestiynau arholiad. Mae’r adnodd yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau amlddewis, ateb byr ac ateb hir sy’n ymdrin â’r pynciau canlynol:

  • isotopau hydrogen
  • colli electronau a chyfuno niwclysau
  • adweithiau ymasiad a dŵr trwm
  • ffurfio elfennau trymach (uwch yn unig).

Mae cwestiynau cyfrifo wedi’u cynnwys i roi cyfleoedd i ymarfer sgiliau mathemategol o fewn y pwnc hwn. Mae’r taflenni gwaith ar gael ar lefel sylfaen a lefel uwch ac fel fersiynau y gellir eu golygu’n llawn, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddewis y cwestiynau sydd fwyaf perthnasol i wers benodol.