Cefnogwch y dysgwyr i adalw gwybodaeth am yr adeiledd a bondio mewn gwahanol fathau o garbon

Mae’r adnodd hwn yn rhan o’n cymorth ar gyfer llythrennedd mewn addysgu gwyddoniaeth, sydd wedi’i ddylunio i wreiddio llythrennedd yn eich cwricwlwm a datblygu sgiliau’r dysgwyr o ran darllen, ysgrifennu a siarad am wyddoniaeth, a’u dealltwriaeth o iaith wyddonol.

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwchs

    Lawrlwythwch y stribedi strwythur (y mae pump ohonynt wedi eu hargraffu ar bob tudalen), i helpu’r dysgwyr i ddod o hyd i wybodaeth neu ei hadalw ac ysgrifennu’n annibynnol.

    Mae atebion enghreifftiol ar gael yn y canllawiau i athrawon.

Amcanion dysgu

  1. Disgrifio’r bondio mewn gwahanol alotropau carbon.
  2. Egluro sut mae adeiledd a bondiau alotropau carbon yn arwain at eu priodweddau gwahanol.

Cyflwyniad

Carbon yw un o’r elfennau mwyaf amlbwrpas yn y tabl cyfnodol. Mae’n un o ‘elfennau bywyd’ sy’n bresennol ym mhopeth byw. Mae carbon mor arbennig fel bod ganddo gangen gyfan o gemeg sydd wedi’i neilltuo ar ei gyfer, sef cemeg organig.

Yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn edrych ar adeiledd a bondiau carbon fel elfen lle mae’n ffurfio adeileddau macrofoleciwlaidd gwahanol. Mae gwahanol ffurfiau adeileddol o’r un elfen yn cael eu galw’n alotropau.

Sut mae defnyddio stribedi strwythur

Math o sgaffald yw stribedi strwythur, a gallwch eu defnyddio i helpu’r dysgwyr i adalw gwybodaeth yn annibynnol. Defnyddiwch nhw i gael trosolwg ar ddechrau’r pwnc, i ysgogi gwybodaeth flaenorol, neu i grynhoi’r dysgu ar ddiwedd pwnc addysgu. I gael rhagor o syniadau am sut mae defnyddio stribedi strwythur gyda’ch dysgwyr, edrychwch ar 5 ffordd o ddefnyddio stribedi strwythur yn effeithiol

Mae gan y stribedi strwythur adrannau sy’n cynnwys awgrymiadau, ac mae eu maint yn awgrymu faint mae’n rhaid i’r dysgwyr ei ysgrifennu. Bydd y dysgwyr yn gludo’r stribedi ar ymyl llyfr gwaith ac yn ysgrifennu eu hatebion wrth ymyl yr adrannau, mewn brawddegau llawn. Ar ôl i’r dysgwyr orffen defnyddio’r stribed strwythur, dylai fod ganddynt set o dudalennau A4 yn llawn nodiadau ac enghreifftiau.

Mae pum stribed ar dudalen a bydd angen eu torri i’r maint cywir ar ôl eu hargraffu. Maent ar ail dudalen y daflen i fyfyrwyr.

Sgaffaldio

Mae’n bosibl y bydd angen sgaffaldiau ychwanegol i helpu’r dysgwyr i ateb y cwestiynau. Gallech gynnwys rhestr o eiriau allweddol neu ychwanegu awgrymiadau at y stribed strwythur.

Wrth i’r dysgwyr fagu hyder, mae’n bosibl y byddant yn gallu ateb y cwestiwn heb y stribed strwythur neu roi cynnig ar y cwestiwn yn gyntaf ac yna defnyddio’r stribed strwythur i hunanasesu a gwella eu hateb.

Metawybyddiaeth

Mae’r gweithgaredd hwn yn helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol yn y tri maes allweddol:

  • Cynllunio: mae’r stribedi’n darparu sgaffaldiau i gynllunio’r ymateb ysgrifenedig. Bydd y dysgwyr yn penderfynu o ble i gasglu gwybodaeth (er enghraifft, gwerslyfrau, eu nodiadau eu hunain, gwefannau adolygu). Gofynnwch i’r dysgwyr: a yw’r ffynhonnell wybodaeth rydych chi’n ei defnyddio yn ddibynadwy?
  • Monitro: mae’r cwestiynau yn y stribed strwythur yn rhoi awgrymiadau i’r dysgwyr ac maent yn gallu gwirio eu hateb yn erbyn yr awgrymiadau. Gofynnwch i’r dysgwyr: ydych chi wedi rhoi sylw i’r holl gwestiynau yn y lle gwag sydd wedi’i ddarparu? Oes angen i chi newid unrhyw beth er mwyn cwblhau’r dasg?
  • Gwerthuso: gall y dysgwyr hunanasesu neu ofyn i gyd-ddysgwr wirio eu gwaith yn erbyn yr atebion. Gofynnwch i’r dysgwyr: wnaethoch chi gyflawni’r hyn roeddech chi’n bwriadu ei gyflawni? Beth gallech chi ei wneud yn wahanol y tro nesaf?

Geiriau allweddol

Alotrop, atom, bond, cofalent, dargludedd, dadleoledig, dellten, diemwnt, ffurfwedd electronau, ffwleren, graffen, graffit, gronyn isatomig, macrofoleciwl, moleciwl, rhyngfoleciwlaidd.

Cwestiwn dilynol

Bydd y dysgwyr yn ateb y cwestiwn hwn ar ôl rhoi cynnig ar y stribed strwythur. Mae’r stribed strwythur yn ysgogi’r wybodaeth ofynnol, y gall y dysgwyr ei defnyddio wedyn i ateb y cwestiwn hwn.

Mae ebillion dril sydd wedi’u gwneud o ddiemwnt yn cael eu defnyddio mewn sawl maes, gan gynnwys drilio porslen, carreg a choncrit.

(a) Nodwch pa un o briodweddau diemwnt sy’n golygu ei fod yn ddefnyddiol at y diben hwn.

(b) Eglurwch sut mae adeiledd a bondio diemwnt yn arwain at y briodwedd hon.

Atebion

Mae atebion posibl ar gyfer y gweithgaredd stribed strwythur yn y nodiadau i athrawon y gellir eu lawrlwytho.

Atebion i’r cwestiwn dilynol

(a) Caledwch

(b) Mae diemwnt yn adeiledd/dellten/macrofoleciwl enfawr. Mae ganddo bedwar bond cofalent cryf fesul atom.

Mae’r ateb a roddir yma yn ymateb cryno iawn sydd wedi’i ysgrifennu gyda geiriau allweddol. Mae’n annhebygol y bydd y dysgwyr yn ysgrifennu ymateb mor fyr a phwrpasol ar eu hymgais gyntaf ond gellir defnyddio hyn fel cyfle da i ddysgu. Anogwch y dysgwyr i ddefnyddio llai o eiriau, a geiriau gwell, mewn ymgeisiau dilynol.