Cefnogwch eich dysgwyr i ddatblygu modelau meddyliol a dyfnhau eu dealltwriaeth o adeiledd a bondio metelig

Mae’r daflen waith hon wedi’i llunio i helpu’r dysgwyr i symud rhwng gwahanol lefelau cysyniadol o feddwl am fondio metelig.

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Taflen waith datblygu dealltwriaeth, ar gyfer yr ystod oedran 14–16

    Taflen waith raddol i helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu modelau meddyliol o adeiledd a bondio metelig. Gydag eiconau i ddangos lefelau cysyniadol pob cwestiwn. Mae atebion a chanllawiau yn y nodiadau i athrawon.

Amcanion dysgu

  1. Defnyddio model priodol i egluro priodweddau metel neu aloi.
  2. Egluro pam mae gan ïon positif wefr.
  3. Defnyddio diagram adeiledd atomig i ddehongli diagram bondio metelig.
  4. Disgrifio natur bondio metelig.
  5. Gwerthuso model bondio metelig.

Sut mae defnyddio’r adnodd hwn

Nod yr adnodd hwn yw datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o fondiau ac adeiledd metelau. Mae’r cwestiynau’n annog y dysgwyr i feddwl am wahanol gynrychioliadau o adeiledd metelig ac ïonau metelig a beth mae’r cynrychioliadau hynny’n ei olygu ar y lefel is-ficrosgopig. O ganlyniad, dylai’r dysgwyr ddatblygu modelau meddyliol mwy cadarn i helpu eu ffyrdd o feddwl am y pwnc hwn.

  • Pryd i ddefnyddio’r adnodd? Defnyddiwch y daflen waith ar ôl yr addysgu cychwynnol neu’r drafodaeth gychwynnol ar y pwnc hwn i ddatblygu syniadau ymhellach. Gallwch hefyd ei defnyddio fel gweithgaredd adolygu.
  • Maint y grŵp? Mae’n addas ar gyfer gwaith annibynnol yn y dosbarth neu gartref. Neu defnyddiwch y cwestiynau ar gyfer trafodaethau grŵp neu ddosbarth.
  • Pa mor hir? 15–30 munud

Triongl Johnstone

Model o’r tair lefel gysyniadol wahanol mewn cemeg yw triongl Johnstone: macrosgopig, symbolaidd ac is-ficrosgopig. Gallwch ddefnyddio triongl Johnstone i feithrin dealltwriaeth gadarn o syniadau cemegol ymhlith eich dysgwyr.

Cyflwynwch driongl Johnstone i’r dysgwyr gyda’n Taflen waith bondiau metelig: triongl Johnstone sy’n arwain y dysgwyr i feddwl am briodweddau copr a’r ffyrdd amrywiol mae’n cael ei ddefnyddio bob dydd ar lefel facrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd.

Darllen pellach 

Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:

Mae llyfr Norman Reid, The Johnstone triangle: the key to understanding chemistry yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein.

Triongl Johnstone a’r adnodd hwn

Mae’r eiconau ar yr ymylon yn dangos pa lefel o ddealltwriaeth mae pob cwestiwn yn ei datblygu i helpu i annog y dysgwyr i feddwl.

  • Macrosgopig: beth allwn ni ei weld. Meddyliwch am y priodweddau y gallwn eu harsylwi, eu mesur a’u cofnodi.
  • Is-ficrosgopig: llai nag y gallwn ei weld. Meddyliwch am lefel gronyn neu atom.
  • Symbolaidd: cynrychioliadau. Meddyliwch sut rydym yn cynrychioli syniadau cemegol gan gynnwys symbolau a diagramau.

Mae’r lefelau’n gysylltiedig â’i gilydd, er enghraifft, mae angen i’r dysgwyr gael cynrychioliad gweledol o’r lefel is-ficrosgopig er mwyn datblygu modelau meddyliol o’r lefel ronynnol neu’r lefel atomig. Ein dull gweithredu yw defnyddio eiconau ar gyfer y cwestiynau yn seiliedig ar yr hyn y dylai’r dysgwyr fod yn meddwl amdano.

Mae’n bosibl y bydd y cwestiynau wedi’u labelu â dau eicon neu â phob un o’r tri eicon, sy’n dangos y bydd y dysgwyr yn meddwl ar fwy nag un lefel. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhannau unigol o’r cwestiwn yn gofyn i’r dysgwyr feddwl am ddim ond un neu ddwy lefel benodol ar y tro.

Cymorth

Mae’r daflen waith hon yn un raddol, felly mae’r cwestiynau cynharach yn fwy hygyrch. Mae’r gweithgaredd yn dod yn fwy heriol wrth i’r cwestiynau fynd yn eu blaenau. Gallwch roi esboniadau ychwanegol ar gyfer y cwestiynau mwy heriol. Os ydych yn cwblhau’r daflen waith fel gweithgaredd yn y dosbarth, mae’n well oedi o bryd i’w gilydd a gwneud yn siŵr bod pawb yn deall, gan fod y cwestiynau’n adeiladu ar sail y cwestiwn blaenorol yn aml.

Mae’n ddefnyddiol i’r dysgwyr arsylwi priodweddau macrosgopig drostynt eu hunain. Gallech rannu enghreifftiau o sylweddau o gwmpas yr ystafell ddosbarth, cynnal adwaith cemegol ymarferol yn y dosbarth, neu roi arddangosiad gan athro o’r priodweddau.

Rhowch fodelau ffisegol i’r dysgwyr eu defnyddio a’u trin, fel cit Molymod™ neu gownteri.

Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar unrhyw ddysgwyr sy’n dal yn ddihyder yn defnyddio’r cynrychioliad symbolaidd gofynnol, er enghraifft drwy rannu ac egluro diagram neu efelychiad sy’n gallu dangos symudiad y gronynnau.

Atebion a chanllawiau

Mae chwe chwestiwn aml-ran yn y daflen waith i fyfyrwyr. Mae’r cwestiwn cyntaf yn helpu’r dysgwyr i egluro priodweddau macrosgopig copr gyda model is-ficrosgopig priodol. Mae cwestiwn dau yn helpu’r dysgwyr i egluro priodweddau macrosgopig yr aloi pres gyda model is-ficrosgopig priodol.

Mae cwestiynau 3, 4 a 5 yn gofyn i’r dysgwyr ystyried diagramau ffurfwedd electronau – y dylent fod yn gyfarwydd â nhw’n barod – a defnyddio’r rhain gyda metelau ac ïonau metel. Mae’r trydydd cwestiwn yn helpu’r dysgwyr i ddefnyddio diagram ffurfwedd electronau i egluro pam mae gan ïon sodiwm wefr. Yng nghwestiwn 4, mae angen i’r dysgwyr i gysylltu diagram ffurfwedd electronau â diagram nodweddiadol o fodel ar gyfer adeiledd metel i helpu i ddatblygu dealltwriaeth o’r model. Mae cwestiwn 5 yn defnyddio alwminiwm fel enghraifft arall i helpu’r dysgwyr i barhau i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r hyn sy’n cael ei gynrychioli gan ddiagram o adeiledd metelig.

Mae’r cwestiwn olaf yn herio’r dysgwyr i ddefnyddio ac i werthuso gwahanol fersiwn o ddiagram adeiledd metelig.