Helpwch eich dysgwyr i ddatblygu modelau meddyliol a dyfnhau eu dealltwriaeth
Mae’r daflen waith hon yn rhan o gyfres adnoddau triongl Johnstone, sydd wedi’i dylunio i helpu’r dysgwyr i symud rhwng gwahanol lefelau cysyniadol o feddwl mewn pynciau cemeg allweddol.
-
Lawrlwythwch
Taflen waith triongl Johnstone, ar gyfer yr ystod oedran 14–16
Defnyddiwch y daflen waith hon i fyfyrwyr i gyflwyno bondio ïonig ar dair lefel gysyniadol wahanol yn seiliedig ar arsylwadau’r dysgwyr.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Adnoddau triongl Johnstone
Amcanion dysgu
- Disgrifio cyfansoddyn ïonig ar sail arsylwadau.
- Defnyddio modelau symbolaidd i gynrychioli cyfansoddyn ïonig.
- Egluro sut mae’r bondio mewn cyfansoddyn ïonig yn berthnasol i’r priodweddau gallwch chi eu harsylwi.
Sut mae defnyddio triongl Johnstone

Defnyddiwch driongl Johnstone i ddatblygu ffordd y dysgwyr o feddwl am gysyniadau gwyddonol ar dair lefel gysyniadol wahanol:
- Macrosgopig: beth allwn ni ei weld. Meddyliwch am y priodweddau y gallwn eu harsylwi, eu mesur a’u cofnodi.
- Is-ficrosgopig: llai nag y gallwn ei weld. Meddyliwch am lefel gronyn neu atom.
- Symbolaidd: cynrychioliadau. Meddyliwch sut rydym yn cynrychioli syniadau cemegol gan gynnwys symbolau a diagramau.
Er mwyn i’r dysgwyr wella eu hymwybyddiaeth o bwnc, mae angen iddynt ei ddeall ar y tair lefel.
Wrth gyflwyno pwnc, peidiwch â cheisio cyflwyno’r holl lefelau o feddwl ar unwaith. Bydd hyn yn gorlwytho’r cof gweithredol. Yn hytrach, cwblhewch y triongl dros gyfres o wersi, gan ddechrau gyda’r lefel facrosgopig ac wedyn cyflwyno lefelau eraill, yn eu tro, ar ôl sicrhau bod pethau’n iawn.
Mae’r holl lefelau’n gysylltiedig â’i gilydd. Er enghraifft, mae angen i’r dysgwyr gael cynrychioliad gweledol o’r lefel is-ficrosgopig er mwyn datblygu modelau meddyliol o’r lefel ronynnol neu’r lefel atomig.
Darllen pellach
Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:
- Develop deeper understanding with models
- Improve students’ understanding with Johnstone’s triangle
- Practical ideas for using Johnstone’s triangle
Mae llyfr Norman Reid, The Johnstone Triangle: The Key to Understanding Chemistry yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein.
Sgaffaldio
Mae’n bwysig rhannu fframwaith y triongl â’r dysgwyr cyn ei ddefnyddio. Dywedwch wrthynt pam eich bod eisiau iddynt ddefnyddio’r triongl a sut bydd yn eu helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth. Defnyddiwch ddull ‘rydw i’n rhoi cynnig arni, rydyn ni’n rhoi cynnig arni, rydych chi’n rhoi cynnig arni’ wrth gyflwyno triongl Johnstone am y tro cyntaf.
Y camau nesaf
Er mwyn datblygu rhagor ar ffordd y dysgwyr o feddwl ym mhob rhan o driongl Johnstone, rhowch gynnig ar ein taflen waith Datblygu dealltwriaeth o fondio ïonig. Mae’r rhain yn cynnwys eiconau ar yr ymylon sy’n cyfeirio at y lefel gysyniadol o feddwl sydd ei hangen i ateb y cwestiwn.
Downloads
Bondio ïonig Triongl Johnstone: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.23 mbBondio ïonig Triongl Johnstone: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.32 mbBondio ïonig Triongl Johnstone: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.62 mbBondio ïonig Triongl Johnstone: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.66 mb









No comments yet