Cefnogwch eich dysgwyr i ddatblygu modelau meddyliol a dyfnhau eu dealltwriaeth o grynodiad a màs

Cyfres o adnoddau yw Datblygu dealltwriaeth, sy’n annog y dysgwyr i gysylltu eu ffordd o feddwl ar y lefelau macrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd.

Amcanion dysgu

  1. Cysylltu màs yr hydoddyn sydd wedi hydoddi mewn cyfeintiau cyfartal o ddŵr â chrynodiadau cymharol yr hydoddiannau sy’n cael eu ffurfio.
  2. Dehongli a gwerthuso diagramau gronynnau o hydoddiannau mwy a llai crynodedig.
  3. Pennu crynodiad hydoddiant mewn unedau g/dm3.
  4. Cyfrifo crynodiad hydoddiant mewn unedau g/dm3 ar sail màs hydoddyn mewn g a chyfaint dŵr mewn cm3.
  5. Cyfrifo màs yr hydoddyn mewn cyfaint a chrynodiad penodol o hydoddiant.

Sut mae defnyddio’r adnodd hwn

Nod yr adnodd hwn yw datblygu dealltwriaeth ansoddol a meintiol y dysgwyr o grynodiad; helpu’r dysgwyr i ddatblygu modelau meddyliol o hydoddiannau o wahanol grynodiadau a fynegir mewn g/dm3. Yn y daflen waith hon ar grynodiad a màs, mae’r dysgwyr yn cael eu hannog i feddwl am grynodiad yn arsylwadol ac yn feintiol, yn ogystal â sut gellir cynrychioli hyn drwy ddefnyddio diagramau gronynnau. O ganlyniad, dylai’r dysgwyr ddatblygu modelau meddyliol mwy cadarn i gefnogi eu dealltwriaeth o’r pwnc hwn.

  • Pryd i’w defnyddio? Defnyddiwch y daflen waith ar ôl yr addysgu cychwynnol neu’r drafodaeth gychwynnol ar y pwnc hwn i ddatblygu syniadau ymhellach. Gallwch hefyd ei defnyddio fel gweithgaredd adolygu.
  • Maint y grŵp? Mae’n addas ar gyfer gwaith annibynnol yn y dosbarth neu gartref. Neu defnyddiwch y cwestiynau ar gyfer trafodaethau grŵp neu ddosbarth.
  • Pa mor hir?  15–30 munud

Triongl Johnstone

Model o dair lefel gysyniadol wahanol mewn cemeg yw triongl Johnstone: macrosgopig, symbolaidd ac is-ficrosgopig. Gallwch ddefnyddio triongl Johnstone i feithrin dealltwriaeth gadarn o syniadau cemegol ymhlith eich dysgwyr.

Cyflwynwch driongl Johnstone i’r dysgwyr gyda’n Concentration of sodium hydroxide Johnstone’s triangle worksheet sy’n arwain y dysgwyr i edrych ar ffyrdd gwahanol o gynrychioli a disgrifio hydoddiant sodiwm hydrocsid (NaOH) ar lefelau macrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd.

Darllen pellach

Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:

Mae llyfr Norman Reid The Johnstone Triangle: the key to understanding chemistry yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein.

Cefnogaeth

Mae’r daflen waith hon yn un raddol, felly mae’r cwestiynau cynharach yn fwy hygyrch. Mae’r gweithgaredd yn dod yn fwy heriol wrth i’r cwestiynau fynd yn eu blaenau. Gallwch roi esboniadau ychwanegol ar gyfer y cwestiynau mwy heriol. Os ydych yn cwblhau’r daflen waith fel gweithgaredd yn y dosbarth, mae’n well oedi o bryd i’w gilydd a gwneud yn siŵr bod pawb yn deall, gan fod y cwestiynau’n adeiladu ar sail y cwestiwn blaenorol yn aml.

Mae’n ddefnyddiol i’r dysgwyr arsylwi priodweddau macrosgopig drostynt eu hunain. Gallech chi rannu enghreifftiau o un môl o sylwedd o gwmpas yr ystafell ddosbarth, cynnal adwaith cemegol ymarferol yn y dosbarth, neu roi arddangosiad athro o’r priodweddau.

Rhowch fodelau ffisegol i’r dysgwyr eu defnyddio a’u trin, fel cit Molymod™ neu gownteri.

Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar unrhyw ddysgwyr sy’n dal yn ddihyder yn defnyddio’r cynrychioliad symbolaidd gofynnol, er enghraifft, rhannu ac egluro diagram neu efelychiad sy’n gallu dangos ymsymudiad y gronynnau.

Atebion a chanllawiau

Mae pum cwestiwn aml-ran yn y daflen waith i fyfyrwyr. Mae’r atebion yn y canllawiau i athrawon.

Mae cwestiwn 1 helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r gwahaniaeth yn edrychiad hydoddiannau lliw sydd â gwahanol grynodiadau, a’r cysylltiad â màs hydoddyn wedi hydoddi (dealltwriaeth facrosgopig). Mae’r cwestiwn hwn yn tybio bod y dysgwyr yn gyfarwydd ag ystyr y termau hydoddyn a hydoddiant.

Mae cwestiwn 2 yn datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o ddefnyddio diagramau (dealltwriaeth symbolaidd) i gymharu’r nifer o ronynnau hydoddyn (dealltwriaeth is-ficrosgopig) mewn hydoddiannau sydd â gwahanol grynodiadau.

Yng nghwestiwn 3, mae’r dysgwyr yn edrych ar sut mae mesur crynodiad mewn g/dm3 (dealltwriaeth facrosgopig). Mae’r cwestiwn hwn yn atgoffa’r dysgwyr bod 1 dm3 yr un faint â 1000 cm3 ond mae’n tybio eu bod yn adnabod dm3 fel uned.

Mae cwestiwn 4 yn datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o sut mae cyfrifo crynodiad mewn g/dm3 o fàs hydoddyn (mewn g) a chyfaint dŵr mewn cm3 (dealltwriaeth facroscopic).

Mae cwestiwn 5 yn helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o sut mae cyfrifo màs hydoddyn mewn cyfaint penodol o hydoddiant sydd â chrynodiad diffiniedig (dealltwriaeth facroscopic).