Gall y niwclysau egsotig hyn helpu ymchwilwyr i ddeall sut cafodd elfennau trwm eu ffurfio yn nyddiau cynnar y bydysawd

Yn eich dosbarth

Lawrlwythwch grynodeb un sleid o’r erthygl hon i’w defnyddio yn eich ystafell ddosbarth (ppt neu pdf)

A nuclide map

Ffynhonnell: National Nuclear Data Center, gwybodaeth wedi’i thynnu o gronfa ddata NuDat 2

Y tabl o niwclidau – gwrthran tabl cyfnodol yr elfennau

Mae tîm o Japan wedi darganfod 73 o isotopau newydd elfennau fel haearn, arian ac ïodin. Mae’r tîm yn defnyddio’r gair ‘niwclid’, sy’n golygu rhywbeth tebyg iawn i’r gair ‘isotop’. Fodd bynnag, rhaid i bob isotop ddod o’r un elfen, tra bo niwclidau’n dod o unrhyw elfen.

Mae 3,000 o niwclidau hysbys ac mae gwyddonwyr yn credu y gallai fod 4,000 arall ar ôl i’w darganfod. Cafodd y niwclidau eu darganfod drwy danio paladrau wraniwm-238 tuag at darged beryliwm. Mae pob un ohonynt yn ymbelydrol, a dim ond ychydig filieiliadau yw eu hanner oes.

Cafodd 73 new isotopes discovered ei gyhoeddi gyntaf yn Chemistry World.

 

Downloads