Defnyddio triongl Johnstone i gyflwyno cyfrifiadau o fasau adweithio
Bydd y dysgwyr yn ystyried sut mae tun a thun ocsid yn edrych yn wahanol. Byddant yn dangos eu bod yn deall sut mae cynrychioli echdyniad tun o’r cyfansoddyn yn symbolaidd, cyn mynd i’r afael â chyfrifiadau sy’n cynnwys màs, màs fformiwla cymharol a molau.
-
Lawrlwythwch
Defnyddiwch y daflen waith hon i fyfyrwyr i gyflwyno cyfrifiadau o fasau adweithio a’u cysylltu ag arsylwadau a dealltwriaeth y dysgwyr ar dair lefel gysyniadol wahanol.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Adnoddau triongl Johnstone
Amcanion dysgu
- Enwi adweithyddion a chynhyrchion o’u disgrifiad.
- Cyfrifo màs fformiwla cymharol ar sail fformiwla benodol a masau atomig cymharol.
- Cyfrifo màs cynnyrch ar sail màs adweithydd.
Sut mae defnyddio triongl Johnstone
Defnyddiwch driongl Johnstone i ddatblygu ffordd y dysgwyr o feddwl am grynodiad hydoddiannau ar dair lefel gysyniadol wahanol:
- Macrosgopig: beth allwn ni ei weld. Meddyliwch am y priodweddau y gallwn eu harsylwi, eu mesur a’u cofnodi.
- Is-ficrosgopig: llai nag y gallwn ei weld. Meddyliwch am y lefel ronynnol neu atomig.
- Symbolaidd: cynrychioliadau. Meddyliwch sut rydym yn cynrychioli syniadau cemegol gan gynnwys symbolau a diagramau.
Er mwyn i’r dysgwyr wella eu hymwybyddiaeth o bwnc, mae angen iddynt ei ddeall ar y tair lefel.
Wrth gyflwyno pwnc, peidiwch â cheisio cyflwyno’r holl lefelau o feddwl ar unwaith. Bydd hyn yn gorlwytho’r cof gweithredol. Yn hytrach, cwblhewch y triongl dros gyfres o wersi, gan ddechrau gyda’r lefel facrosgopig ac wedyn cyflwyno lefelau eraill, yn eu tro, ar ôl sicrhau bod pethau’n iawn.
Mae’r holl lefelau’n gysylltiedig â’i gilydd, er enghraifft, mae angen i’r dysgwyr gael cynrychioliad gweledol o’r is-ficrosgopig er mwyn datblygu modelau meddyliol o’r lefel ronynnol neu’r lefel atomig
Darllen pellach
Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:
- Develop deeper understanding with models
- Improve students’ understanding with Johnstone’s triangle
- Practical ideas for using Johnstone’s triangle
Mae llyfr Norman Reid The Johnstone Triangle: the key to understanding chemistry yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein.
Sgaffaldio
Mae’n bwysig rhannu fframwaith y triongl â’r dysgwyr cyn ei ddefnyddio. Dywedwch wrthynt pam eich bod eisiau iddynt ddefnyddio’r triongl a sut bydd yn eu helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth. Defnyddiwch ddull ‘rydw i’n rhoi cynnig arni, rydych chi’n rhoi cynnig arni’ wrth gyflwyno triongl Johnstone am y tro cyntaf.
Y camau nesaf
Er mwyn datblygu rhagor ar ffordd y dysgwyr o feddwl ym mhob rhan o driongl Johnstone, rhowch gynnig ar ein taflen waith Datblygu dealltwriaeth o gymarebau adweithio (masau). Mae hyn yn cynnwys eiconau ar yr ymylon sy’n cyfeirio at y lefel gysyniadol o feddwl sydd ei hangen i ateb y cwestiynau.
Downloads
Echdynnu tun o dun ocsid (triongl Johnstone): taflen myfyriwr
PDF, Size 0.37 mbEchdynnu tun o dun ocsid (triongl Johnstone): nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.35 mbEchdynnu tun o dun ocsid (triongl Johnstone): taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.58 mbEchdynnu tun o dun ocsid (triongl Johnstone): nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.56 mb









No comments yet