Gallwch atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd am y gyfres adweithedd metelau ac adweithiau dadleoli syml gyda’r gêm hon
This resource is also available in English
Get the English language version.
Mae’r adnodd hwn yn cyd-fynd â’r erthygl How chemistry keeps trains on track, sy’n rhoi cyd-destun o’r byd go iawn ar gyfer adweithiau dadleoli a ddefnyddir i weldio traciau, a hefyd Sut mae addysgu adweithiau dadleoli i ddysgwyr 11–14 oed sydd â mwy o weithgareddau, awgrymiadau a syniadau i helpu myfyrwyr i fynd i’r afael â’r gyfres adweithedd.
-
Lawrlwythwch
Lawrlwythwch y nodiadau i athrawon, gan gynnwys y cardiau snap y gellir eu hargraffu a stribedi’r gyfres adweithedd, fel MS Word neu PDF.
Lawrlwythwch y cyflwyniad gyda’r grid asesu ffurfiannol fel MS Powerpoint neu PDF.
Amcanion dysgu
- Nodi’r metel mwyaf adweithiol gan ddefnyddio’r gyfres adweithedd.
- Nodi a fyddai adwaith yn digwydd rhwng dau sylwedd gan ddefnyddio’r gyfres adweithedd.
- Ysgrifennu hafaliadau geiriau ar gyfer adweithiau dadleoli syml.
Yn yr ystod oedran 11–14 oed, mae angen i fyfyrwyr ddeall y gellir gosod metelau yn nhrefn adweithedd ac y bydd metel mwy adweithiol yn disodli metel llai adweithiol o’i gyfansoddyn. Mae angen iddynt hefyd sylweddoli bod carbon a hydrogen wedi eu cynnwys yn y gyfres adweithedd. Dylent ddysgu sut i ddefnyddio’r gyfres adweithedd i ragfynegi adweithiau posibl.
Snap adwaith dadleoli
Paratoi
- Argraffwch dudalennau 3 a 6 ar gerdyn (lamineiddiwch ef os dymunwch) a thorrwch y cardiau unigol allan. Dyma un ‘pecyn’.
- Bydd angen un pecyn arnoch ar gyfer pob pâr o ddysgwyr. Bydd defnyddio cerdyn lliw gwahanol ar gyfer pob set yn helpu o ran clirio a chadw’r pecynnau gyda’i gilydd.
Chwarae
- Chwaraewch mewn parau (neu drioedd - gall un chwaraewr fod yn ddyfarnwr).
- Cymysgwch a deliwch y cardiau wyneb i lawr.
- Bydd pob chwaraewr wedyn yn rhoi cerdyn wyneb i fyny. Os nad ydynt yr un fath:
- Dau fetel: gwaeddwch enw’r metel mwyaf adweithiol.
- Dau gyfansoddyn: gwaeddwch ‘cymysgedd’.
- Metel a chyfansoddyn: gwaeddwch ‘adwaith’ os yw’r metel yn fwy adweithiol na’r metel yn y cyfansoddyn. Gwaeddwch ‘dim adwaith’ os yw’r gwrthwyneb yn wir.
- Mae’r un cyntaf i waeddi’r ateb cywir yn codi’r ddau gerdyn. Yr enillydd yw’r un cyntaf i gael yr holl gardiau neu’r sawl sy’n dal y nifer fwyaf o gardiau pan fydd amser wedi dod i ben.
Stribedi cyfres adweithedd
Gall dysgwyr ddefnyddio’r stribedi cyfres adweithedd (gweler tudalen 7 y nodiadau i athrawon) wrth chwarae’r snap adwaith dadleoli neu wrth lenwi’r grid asesu ffurfiannol.
Grid asesu ffurfiannol
Bydd angen i ddysgwyr gael byrddau gwyn unigol i ysgrifennu eu hafaliadau geiriau. Dangoswch y grid o’r cyflwyniad neu argraffwch ef a’i roi ar y bwrdd.
Rhowch nodyn gludiog mewn cell. Bydd y dysgwyr wedyn yn ysgrifennu’r hafaliad geiriau ar eu byrddau gwyn. Gallwch wneud hyn un adwaith ar y tro, neu asesu wrth i chi fynd yn eich blaen, gan roi nifer o nodiadau gludiog wrth i’r dysgwyr cyflymaf gwblhau’r hafaliadau.
Golygwch y metelau/cyfansoddion metel ar y sleid i newid yr adweithiau posibl.
Rhagor o adnoddau
- Rhowch gyfle i’r dysgwyr arsylwi’r adweithiau dadleoli ar raddfa micro gyda’r arbrawf hwn neu gyda’r fersiwn arall hwn gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau integredig.
- Y ffordd orau o ddangos yr adwaith dadleoli trawiadol rhwng arian nitrad a magnesiwm yw drwy arddangosiad fideo.
- Symudwch ymlaen tuag at waith dysgu 14–16 oed gyda’r fideo a’r adnoddau hyn sy’n dangos adweithiau dadleoli’r halogenau.
- Archwiliwch sut mae Emma, sy’n dechnegydd labordy biodrwytholchi, yn defnyddio ei gwybodaeth am adweithedd metelau i echdynnu metelau gwerthfawr o gynhyrchion gwastraff electronig.
Downloads
Snap adwaith dadleoli nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.21 mbSnap adwaith dadleoli grid asesu ffurfiannol
Presentation | PDF, Size 1.24 mbSnap adwaith dadleoli nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.49 mbSnap adwaith dadleoli grid asesu ffurfiannol
Presentation | PowerPoint, Size 2.23 mb





No comments yet