Cefnogwch eich dysgwyr i ddatblygu modelau meddyliol a dyfnhau eu dealltwriaeth o adeiledd yr atom

Mae’r daflen waith hon yn rhan o gyfres adnoddau triongl Johnstone, sydd wedi’i dylunio i helpu’r dysgwyr i symud rhwng gwahanol lefelau cysyniadol o feddwl mewn pynciau cemeg allweddol.

Amcanion dysgu

  1. Defnyddio rhif atomig a rhif màs i gyfrifo nifer y gronynnau is-atomig gwahanol mewn un atom.
  2. Labelu gwahanol rannau atom fel y cânt eu cynrychioli gan ddefnyddio’r model atomig.
  3. Defnyddio diagram adeiledd atomig i ddehongli diagram bondio metelig.
  4. Defnyddio modelau priodol o’r atom i greu esboniadau.

Nod yr adnodd hwn yw datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o adeiledd yr atom. Mae’r cwestiynau’n annog y dysgwyr i feddwl am wahanol gynrychioliadau o adeiledd atomig a beth mae’r cynrychioliadau hynny’n ei olygu ar y lefel is-ficrosgopig. O ganlyniad, dylai’r dysgwyr ddatblygu modelau meddyliol mwy cadarn i gefnogi eu ffyrdd o feddwl am y pwnc hwn.

  • Pryd i’w defnyddio? Defnyddiwch y daflen waith ar ôl yr addysgu cychwynnol neu’r drafodaeth gychwynnol ar y pwnc hwn i ddatblygu syniadau ymhellach. Gallwch hefyd ei defnyddio fel gweithgaredd adolygu.
  • Maint y grŵp? Mae’n addas ar gyfer gwaith annibynnol yn y dosbarth neu gartref. Neu defnyddiwch y cwestiynau ar gyfer trafodaethau grŵp neu ddosbarth.
  • Pa mor hir? 15–30 munud

Triongl Johnstone

Model o dair lefel gysyniadol wahanol mewn cemeg yw triongl Johnstone: macrosgopig, symbolaidd ac is-ficrosgopig. Gallwch ddefnyddio triongl Johnstone i feithrin dealltwriaeth gadarn o syniadau cemegol ymhlith eich dysgwyr.

Cyflwynwch driongl Johnstone i’r dysgwyr gyda’n taflen waith Adeiledd atomig lithiwm: triongl Johnstone, sy’n arwain y dysgwyr i feddwl am y gronynnau is-atomig sy’n ffurfio atom Lithiwm.

Darllen pellach 

Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:

Mae Llyfr Norman Reid The Johnstone Triangle:The Key to Understanding Chemistry, yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein.

Triongl Johnstone a’r adnodd hwn

Mae’r eiconau ar yr ymylon yn dangos pa lefel o ddealltwriaeth y mae pob cwestiwn yn ei datblygu i helpu i annog y dysgwyr i feddwl.

  • Macrosgopig: beth allwn ni ei weld. Meddyliwch am y priodweddau y gallwn eu harsylwi, eu mesur a’u cofnodi.
  • Is-ficrosgopig: yn llai nag y gallwn ei weld. Meddyliwch am y lefel ronynnol neu atomig.
  • Symbolaidd: cynrychioliadau. Meddyliwch sut rydym yn cynrychioli syniadau cemegol gan gynnwys symbolau a diagramau.

Mae’r lefelau’n gysylltiedig â’i gilydd, er enghraifft, mae angen i’r dysgwyr gael cynrychioliad gweledol o’r lefel is-ficrosgopig er mwyn datblygu modelau meddyliol o’r lefel ronynnol neu’r lefel atomig. Ein dull gweithredu yw defnyddio eiconau ar gyfer y cwestiynau yn seiliedig ar yr hyn y dylai’r dysgwyr fod yn meddwl amdano.

Mae’n bosibl y bydd y cwestiynau wedi’u labelu â dau eicon neu â phob un o’r tri eicon, sy’n dangos y bydd y dysgwyr yn meddwl ar fwy nag un lefel. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhannau unigol o’r cwestiwn yn gofyn i’r dysgwyr feddwl am un neu ddwy lefel benodol ar y tro.

Cefnogaeth

Mae’r daflen waith hon yn un raddol, felly mae’r cwestiynau cynharach yn fwy hygyrch. Mae’r gweithgaredd yn dod yn fwy heriol wrth i’r cwestiynau fynd yn eu blaenau. Gallwch roi esboniadau ychwanegol ar gyfer y cwestiynau mwy heriol. Os ydych yn cwblhau’r daflen waith fel gweithgaredd yn y dosbarth, mae’n well oedi o bryd i’w gilydd a gwneud yn siŵr bod pawb yn deall, gan fod y cwestiynau’n adeiladu ar sail y cwestiwn blaenorol yn aml.

Mae’n ddefnyddiol i’r dysgwyr arsylwi priodweddau macrosgopig drostynt eu hunain. Gallech chi rannu enghreifftiau o sylweddau o gwmpas yr ystafell ddosbarth, cynnal adwaith cemegol ymarferol yn y dosbarth, neu roi arddangosiad gan athro o’r nodweddion.

Rhowch fodelau ffisegol i’r dysgwyr eu defnyddio a’u trin, fel cit Molymod™ neu gownteri.

Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar unrhyw ddysgwyr sy’n dal yn ddihyder yn defnyddio’r cynrychioliad symbolaidd gofynnol, er enghraifft, rhannu ac egluro diagram neu efelychiad sy’n gallu dangos ymsymudiad y gronynnau.

Atebion a chanllawiau

Mae tri chwestiwn aml-ran yn y daflen waith i fyfyrwyr. Mae’r cwestiwn cyntaf yn cyfnerthu dealltwriaeth y dysgwyr o’r gwahanol fathau o bob gronyn is-atomig a sut y gellir cyfrifo nifer pob un o’r rhain gan ddefnyddio’r rhif atomig a’r rhif màs. Mae cwestiwn dau yn datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o’r cysylltiad rhwng gwefr gronynnau unigol, gwefr gyffredinol y niwclews a’r atom cyfan (dealltwriaeth is-ficrosgopig) a’r math o rym rhwng y niwclews a’r electronau.

Mae cwestiwn 3 yn datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o sut y gall heliwm gael ei gynrychioli gan y model gronynnau a’r model atomig (dealltwriaeth symbolaidd) ac mae’n gofyn iddynt ystyried pa fodel sy’n rhoi’r esboniad gorau (dealltwriaeth is-ficrosgopig) o briodweddau ffisegol heliwm (dealltwriaeth facrosgopig), gan annog y myfyrwyr i ystyried cryfderau pob model a phwysigrwydd defnyddio’r model mwyaf priodol i egluro ffenomen benodol.