Cefnogwch y dysgwyr i adalw gwybodaeth am y model o’r atom a gronynnau is-atomig
Mae’r adnodd hwn yn rhan o’n cefnogaeth ar gyfer llythrennedd mewn addysgu gwyddoniaeth, sydd wedi’i dylunio i wreiddio llythrennedd yn eich cwricwlwm a datblygu sgiliau’r dysgwyr o ran darllen, ysgrifennu a siarad am wyddoniaeth, a’u dealltwriaeth o iaith wyddonol.
-
Lawrlwythwch
Lawrlwythwch y stribedi strwythur, sydd â phump ohonynt wedi’u hargraffu ar bob tudalen, a chefnogwch y dysgwyr i ddod o hyd i wybodaeth neu ei hadalw ac i ysgrifennu’n annibynnol.
Mae atebion enghreifftiol ar gael yn y canllawiau i athrawon.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Stribedi strwythur
Amcanion dysgu
- Disgrifio’r model o’r atom sy’n cael ei dderbyn ar hyn o bryd.
- Pennu nifer y gronynnau is-atomig mewn atom niwtral.
- Cofio priodweddau pob gronyn is-atomig.
Cyflwyniad
Adeiledd atomig yw un o’r pynciau pwysicaf mewn cemeg. Mae llawer o bynciau eraill yn dibynnu ar ddeall adeiledd yr atom a phriodweddau’r gronynnau is-atomig.
Sut mae defnyddio stribedi strwythur
Math o sgaffald yw stribedi strwythur, a gallwch eu defnyddio i gefnogi’r dysgwyr i adalw gwybodaeth yn annibynnol. Defnyddiwch nhw i gael trosolwg ar ddechrau’r pwnc, i ysgogi gwybodaeth flaenorol, neu i grynhoi’r dysgu ar ddiwedd pwnc addysgu. I gael rhagor o syniadau am sut mae defnyddio stribedi strwythur gyda’ch dysgwyr, edrychwch ar 5 ffordd o ddefnyddio stribedi strwythur yn effeithiol
Mae gan y stribedi strwythur adrannau sy’n cynnwys awgrymiadau, ac mae eu maint yn awgrymu faint y mae’n rhaid i’r dysgwyr ei ysgrifennu. Bydd y dysgwyr yn gludo’r stribedi ar ymyl llyfr gwaith ac yn ysgrifennu eu hatebion wrth ymyl yr adrannau, mewn brawddegau llawn. Ar ôl i’r dysgwyr orffen defnyddio’r stribed strwythur, dylai fod ganddynt set o dudalennau A4 yn llawn nodiadau ac enghreifftiau.
Mae’r stribedi’n cael eu hargraffu â phump ohonynt ar dudalen a bydd angen eu torri i’r maint cywir. Maent ar ail dudalen y daflen i fyfyrwyr.
Sgaffaldio
Er mwyn rhoi rhagor o gefnogaeth i’r dysgwyr i ateb y cwestiynau, gallwch gynnwys rhestr o eiriau allweddol neu ychwanegu awgrymiadau at y stribed strwythur.
Wrth i’r dysgwyr fagu hyder, mae’n bosibl y byddant yn gallu ateb y cwestiwn heb y stribed strwythur neu roi cynnig ar y cwestiwn yn gyntaf ac yna defnyddio’r stribed strwythur i wella neu i hunanasesu eu hateb.
Geiriau allweddol
atom, mater, proton, electron, niwtron, niwclews, orbitio/orbit, rhif atomig, rhif màs, ïon, isotop
Metawybyddiaeth
Mae’r gweithgaredd hwn yn cefnogi’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol mewn tri maes allweddol.
- Cynllunio: mae’r stribedi’n darparu sgaffaldiau i gynllunio’r ymateb ysgrifenedig. Bydd y dysgwyr yn penderfynu o ble i gasglu gwybodaeth (gwerslyfrau, eu nodiadau eu hunain, gwefannau adolygu). Gofynnwch i’r dysgwyr: ydy’r ffynhonnell wybodaeth rydych chi’n ei defnyddio yn ddibynadwy?
- Monitro: mae’r cwestiynau yn y stribed strwythur yn rhoi awgrymiadau i’r dysgwyr ac maent yn gallu gwirio eu hateb yn erbyn yr awgrymiadau. Gofynnwch i’r dysgwyr: ydych chi wedi rhoi sylw i’r holl gwestiynau yn y lle gwag sydd wedi’i ddarparu? Oes angen i chi newid unrhyw beth er mwyn cwblhau’r dasg?
- Gwerthuso: gall y dysgwyr hunanasesu neu ofyn i gyd-ddysgwr wirio eu gwaith yn erbyn yr atebion. Gofynnwch i’r dysgwyr: wnaethoch chi gyflawni’r hyn yr oeddech chi’n bwriadu ei gyflawni? Beth gallech chi ei wneud yn wahanol y tro nesaf?
Cwestiwn dilynol
Dylai’r dysgwyr ateb y cwestiwn hwn ar ôl iddynt roi cynnig ar y stribed strwythur. Mae’r stribed strwythur yn ysgogi’r wybodaeth ofynnol y gall y dysgwyr ei defnyddio wedyn i ateb y cwestiwn.
Eglurwch, gan gyfeirio at ronynnau is-atomig, pam mae gan atom potasiwm wefr niwtral gyffredinol.
Atebion
Rhoddir atebion posibl ar gyfer y gweithgaredd stribed strwythur yn y nodiadau i athrawon y gellir eu lawrlwytho (MS Word | PDF).
Ateb i’r cwestiwn dilynol
Rhif atomig potasiwm yw 19. Mae ganddo 19 proton â gwefr bositif ac 19 electron â gwefr negatif. Felly, mae gwefrau’r gronynnau is-atomig yn diddymu ei gilydd ac mae gwefr gyffredinol yr atom yn niwtral.
Downloads
Adeiledd yr atom Stribed strwythur: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.14 mbAdeiledd yr atom Stribed strwythur: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.18 mbAdeiledd yr atom Stribed strwythur: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.45 mbAdeiledd yr atom Stribed strwythur: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.46 mb









No comments yet