Cefnogwch eich dysgwyr i ddatblygu modelau meddyliol a dyfnhau eu dealltwriaeth o atomau ac ïonau
Cyfres o adnoddau yw Datblygu dealltwriaeth, sy’n annog y dysgwyr i gysylltu eu ffordd o feddwl ar y lefelau macrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd.
-
Lawrlwythwch
Taflen waith raddol i helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu modelau meddyliol o atomau ac ïonau. Gydag eiconau i ddangos lefelau cysyniadol pob cwestiwn.
Gweld a lawrlwytho rhagor o daflenni gwaith Datblygu dealltwriaeth
Amcanion dysgu
- Cwblhau diagramau llinell rif i ddangos pam nad oes gan atom wefr gyffredinol neu pam mae gan ïon y wefr a ddangosir.
- Gwahaniaethu rhwng atom ac ïon pan roddir gwybodaeth rifiadol am nifer y protonau a’r electronau.
- Llunio diagramau ffurfwedd electronau ar gyfer atomau ac ïonau.
- Disgrifio sut mae atom yn troi’n ïon.
- Adnabod atom neu ïon ar sail nifer y protonau a’r electronau.
Nod yr adnodd hwn yw datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o atomau ac ïonau. Mae’r cwestiynau’n annog y dysgwyr i gymharu niferoedd y protonau a’r electronau er mwyn cyfrifo’r wefr. O ganlyniad, dylai’r dysgwyr ddatblygu modelau meddyliol mwy cadarn i gefnogi eu ffyrdd o feddwl am y pwnc hwn.
- Pryd i ddefnyddio’r adnodd? Defnyddiwch y daflen waith ar ôl yr addysgu cychwynnol neu’r drafodaeth gychwynnol ar y pwnc hwn i ddatblygu syniadau ymhellach. Gallwch hefyd ei defnyddio fel gweithgaredd adolygu.
- Maint y grŵp? Mae’n addas ar gyfer gwaith annibynnol yn y dosbarth neu gartref. Neu defnyddiwch y cwestiynau ar gyfer trafodaethau grŵp neu ddosbarth.
- Pa mor hir? 15–30 munud
Triongl Johnstone
Model o’r tair lefel gysyniadol wahanol mewn cemeg yw triongl Johnstone: macrosgopig, symbolaidd ac is-ficrosgopig. Gallwch ddefnyddio triongl Johnstone i feithrin dealltwriaeth gadarn o syniadau cemegol ymhlith eich dysgwyr.
Cyflwynwch driongl Johnstone i’r dysgwyr gyda’n taflen waith Atomau ac ïonau: triongl Johnstone sy’n arwain y dysgwyr i feddwl am atomau copr ac ïonau copr ar lefel facrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd ar ôl arsylwi arddangosiad o ddadleoli metel.
Darllen pellach
Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:
- Develop deeper understanding with models
- Improve students’ understanding with Johnstone’s triangle
- Practical ideas for using Johnstone’s triangle
Mae llyfr Norman Reid, The Johnstone Triangle: The Key to Understanding Chemistry yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein.
Triongl Johnstone a’r adnodd hwn
Mae’r eiconau ar yr ymylon yn dangos pa lefel o ddealltwriaeth y mae pob cwestiwn yn ei datblygu i helpu i annog y dysgwyr i feddwl.
- Macrosgopig: beth allwn ni ei weld. Meddyliwch am y priodweddau y gallwn eu harsylwi, eu mesur a’u cofnodi.
- Is-ficrosgopig: llai nag y gallwn ei weld. Meddyliwch am y lefel ronynnol neu atomig.
- Symbolaidd: cynrychioliadau. Meddyliwch sut rydym yn cynrychioli syniadau cemegol gan gynnwys symbolau a diagramau.
Mae’r lefelau’n gysylltiedig â’i gilydd: er enghraifft, mae’r dysgwyr angen cynrychioliad gweledol o’r lefel is-ficrosgopig er mwyn datblygu modelau meddyliol o’r lefel gronynnau neu’r lefel atomig. Ein dull gweithredu yw defnyddio eiconau ar gyfer y cwestiynau yn seiliedig ar yr hyn y dylai’r dysgwyr fod yn meddwl amdano.
Mae’n bosibl y bydd y cwestiynau wedi’u labelu â dau eicon neu â phob un o’r tri eicon, sy’n dangos y bydd y dysgwyr yn meddwl ar fwy nag un lefel. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhannau unigol o’r cwestiwn yn gofyn i’r dysgwyr feddwl am ddim ond un neu ddwy lefel benodol ar y tro.
Cefnogaeth
Mae’r daflen waith hon yn un raddol, felly mae’r cwestiynau cynharach yn fwy hygyrch. Mae’r gweithgaredd yn dod yn fwy heriol wrth i’r cwestiynau fynd yn eu blaenau. Gallwch roi esboniadau ychwanegol ar gyfer y cwestiynau mwy heriol. Os ydych yn cwblhau’r daflen waith fel gweithgaredd yn y dosbarth, mae’n well oedi o bryd i’w gilydd a gwneud yn siŵr bod pawb yn deall, gan fod y cwestiynau’n adeiladu ar sail y cwestiwn blaenorol yn aml.
Mae’n ddefnyddiol i’r dysgwyr arsylwi priodweddau macrosgopig drostynt eu hunain. Gallech rannu enghreifftiau o sylweddau o gwmpas yr ystafell ddosbarth, cynnal adwaith cemegol ymarferol yn y dosbarth, neu roi arddangosiad athro o’r priodweddau.
Rhowch fodelau ffisegol i’r dysgwyr eu defnyddio a’u trin, fel plastisin, neu defnyddiwch adnodd Build an atom simulation PHET.
Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar unrhyw ddysgwyr sy’n dal yn ddihyder yn defnyddio’r cynrychioliad symbolaidd gofynnol, er enghraifft drwy rannu ac egluro diagram neu efelychiad sy’n gallu dangos symudiad y gronynnau.
Atebion a chanllawiau
Mae chwe chwestiwn aml-ran yn y daflen waith i fyfyrwyr. Mae’r cwestiwn cyntaf yn cefnogi’r dysgwyr i gysylltu eu dealltwriaeth o ronynnau is-atomig positif a negatif (dealltwriaeth is-ficrosgopig) â’r ddealltwriaeth fathemategol o adio rhifau positif a negatif gan ddefnyddio cymorth gweledol llinell rif. Mae cwestiwn 2 yn datblygu hyder y dysgwyr i ganfod gwefr gyffredinol cyfuniad o brotonau a niwtronau.
Mae cwestiynau 3, 4 a 5 yn datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o sut i gynrychioli adeiledd electronig atom ac ïon (symbolaidd) gan ddefnyddio’r rhif atomig o’r tabl cyfnodol (dealltwriaeth is-ficrosgopig). Mae’r cwestiwn olaf yn datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o sut i ddefnyddio cyfuniad o wybodaeth am nifer y protonau a diagram adeiledd electronau (dealltwriaeth symbolaidd) i adnabod atom neu ïon (dealltwriaeth is-ficrosgopig).
Downloads
Datblygu dealltwriaeth o atomau ac ïonau: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.32 mbDatblygu dealltwriaeth o atomau ac ïonau: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.32 mbDatblygu dealltwriaeth o atomau ac ïonau: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.58 mbDatblygu dealltwriaeth o atomau ac ïonau: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.56 mb












No comments yet