Cefnogwch eich dysgwyr i ddatblygu modelau meddyliol a dyfnhau eu dealltwriaeth o atomau ac isotopau

Cyfres o adnoddau yw Datblygu dealltwriaeth, sy’n annog y dysgwyr i gysylltu eu ffordd o feddwl ar y lefelau macrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd.

Amcanion dysgu

  1. Cofio’r mathau o ronyn is-atomig, eu lleoliad mewn atom a sut i bennu nifer pob un ohonynt gan ddefnyddio’r rhif atomig a’r rhif màs. Gwahaniaethu rhwng atom ac ïon pan roddir gwybodaeth rifiadol am nifer y protonau a’r electronau.
  2. Pennu nifer y protonau, y niwtronau a’r electronau mewn atom gan ddefnyddio’r symbol atomig.
  3. Adnabod yr hyn sy’n debyg a’r hyn sy’n wahanol yn nifer y protonau, y niwtronau a’r electronau rhwng atomau a’u hïonau a gwahanol isotopau.
  4. Pennu’r symbol atomig ar gyfer gwahanol isotopau gan ddefnyddio gwybodaeth am nifer y protonau a’r niwtronau.

Nod yr adnodd hwn yw datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o isotopau a sut maent yn cael eu cynrychioli. Mae’r cwestiynau’n annog y dysgwyr i feddwl am yr hyn sy’n debyg a’r hyn sy’n wahanol yn nifer y gwahanol ronynnau is-atomig mewn amrywiaeth o atomau, ïonau ac isotopau. O ganlyniad, dylai’r dysgwyr ddatblygu modelau meddyliol mwy cadarn i gefnogi eu ffyrdd o feddwl am y pwnc hwn.

  • Pryd i’w defnyddio? Defnyddiwch y daflen waith ar ôl yr addysgu cychwynnol neu’r drafodaeth gychwynnol ar y pwnc hwn i ddatblygu syniadau ymhellach. Gallwch hefyd ei defnyddio fel gweithgaredd adolygu.
  • Maint y grŵp? Mae’n addas ar gyfer gwaith annibynnol yn y dosbarth neu gartref. Neu defnyddiwch y cwestiynau ar gyfer trafodaethau grŵp neu ddosbarth.
  • Pa mor hir? 15–30 munud

Triongl Johnstone

Model o’r tair lefel gysyniadol wahanol mewn cemeg yw triongl Johnstone: macrosgopig, symbolaidd ac is-ficrosgopig. Gallwch ddefnyddio triongl Johnstone i feithrin dealltwriaeth gadarn o syniadau cemegol ymhlith eich dysgwyr.

Cyflwynwch driongl Johnstone i’r dysgwyr gyda’n taflen waith Atomau ac isotopau hydrogen: triongl Johnstone, sy’n arwain y dysgwyr i feddwl am y gwahaniaeth rhwng hydrogen a’r isotop diwteriwm, gan gynnwys cymharu ‘dŵr trwm’ â chiwbiau iâ arferol, ar lefel facrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd.

Darllen pellach

Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn:

Mae llyfr Norman Reid The Johnstone Triangle: The Key to Understanding Chemistry yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein. online.

Triongl Johnstone a’r adnodd hwn

Mae’r eiconau ar yr ymylon yn dangos pa lefel o ddealltwriaeth y mae pob cwestiwn yn ei datblygu i helpu i annog y dysgwyr i feddwl.

  • Macrosgopig: beth allwn ni ei weld. Meddyliwch am y priodweddau y gallwn eu harsylwi, eu mesur a’u cofnodi.
  • Is-ficrosgopig: llai nag y gallwn ei weld. Meddyliwch am y lefel ronynnol neu atomig.
  • Symbolaidd: cynrychioliadau. Meddyliwch sut rydym yn cynrychioli syniadau cemegol gan gynnwys symbolau a diagramau.

Mae’r lefelau’n gysylltiedig â’i gilydd: er enghraifft, mae’r dysgwyr angen cynrychioliad gweledol o’r lefel is-ficrosgopig er mwyn datblygu modelau meddyliol o’r lefel gronynnau neu’r lefel atomig. Ein dull gweithredu yw defnyddio eiconau ar gyfer y cwestiynau yn seiliedig ar yr hyn y dylai’r dysgwyr fod yn meddwl amdano.

Mae’n bosibl y bydd y cwestiynau wedi’u labelu â dau eicon neu â phob un o’r tri eicon, sy’n dangos y bydd y dysgwyr yn meddwl ar fwy nag un lefel. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhannau unigol o’r cwestiwn yn gofyn i’r dysgwyr feddwl am ddim ond un neu ddwy lefel benodol ar y tro.

Cefnogaeth

Mae’r daflen waith hon yn un raddol, felly mae’r cwestiynau cynharach yn fwy hygyrch. Mae’r gweithgaredd yn dod yn fwy heriol yn y cwestiynau diweddarach. Gallwch roi esboniadau ychwanegol ar gyfer y cwestiynau mwy heriol. Os ydych yn cwblhau’r daflen waith fel gweithgaredd yn y dosbarth, mae’n well oedi o bryd i’w gilydd a gwneud yn siŵr bod pawb yn deall, gan fod y cwestiynau’n adeiladu ar sail y cwestiwn blaenorol yn aml.

Mae’n ddefnyddiol i’r dysgwyr arsylwi priodweddau macrosgopig drostynt eu hunain. Gallech rannu enghreifftiau o sylweddau o gwmpas yr ystafell ddosbarth, cynnal adwaith cemegol ymarferol yn y dosbarth, neu roi arddangosiad athro o’r priodweddau.

Rhowch fodelau ffisegol i’r dysgwyr eu defnyddio a’u trin, fel cit Molymod™ neu gownteri.

Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar unrhyw ddysgwyr sy’n dal yn ddihyder yn defnyddio’r cynrychioliad symbolaidd gofynnol, er enghraifft drwy rannu ac egluro diagram neu efelychiad sy’n gallu dangos ymsymudiad y gronynnau.

Atebion a chanllawiau

Mae pedwar cwestiwn aml-ran yn y daflen waith i fyfyrwyr. Mae’r cwestiwn cyntaf yn cyfnerthu dealltwriaeth y dysgwyr o leoliad a nifer pob math o ronyn is-atomig mewn atom (dealltwriaeth is-ficrosgopig). Mae cwestiwn 2 yn datblygu gallu’r dysgwyr i ddehongli rhifau atomig (dealltwriaeth symbolaidd).

Mae cwestiwn 3 yn datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o’r hyn sy’n debyg a’r hyn sy’n wahanol yn nifer y protonau, y niwtronau a’r electronau mewn atomau a’u hïonau ac mewn gwahanol isotopau (dealltwriaeth is-ficrosgopig). Mae’r cwestiwn olaf yn datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o sut i wahaniaethu rhwng isotopau’r un elfen ac isotop elfen wahanol gan ddefnyddio gwybodaeth am nifer y protonau a’r niwtronau (dealltwriaeth is-ficrosgopig).