Dod o hyd i wybodaeth am y model bondio metelig ac egluro sut mae hyn yn arwain at briodweddau penodol metelau
Mae’r adnodd hwn yn rhan o’n cymorth ar gyfer llythrennedd mewn addysgu gwyddoniaeth, sy’n gwreiddio llythrennedd yn eich cwricwlwm ac yn datblygu sgiliau’r dysgwyr o ran darllen, ysgrifennu a siarad am wyddoniaeth, a’u dealltwriaeth o iaith wyddonol.
-
Lawrlwythwch
Lawrlwythwch y stribedi strwythur (y mae pump ohonynt wedi eu hargraffu ar bob tudalen), i helpu’r dysgwyr i ddod o hyd i wybodaeth neu ei hadalw ac ysgrifennu’n annibynnol.
Mae atebion enghreifftiol ar gael yn y canllawiau i athrawon.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Stribedi strwythur
Amcanion dysgu
- Disgrifio’r model bondio metelig drwy ddefnyddio geiriau a diagramau.
- Egluro sut mae’r model bondio metelig yn arwain at briodweddau cyffredin metelau.
- Datblygu sgiliau ysgrifennu estynedig.
Cyflwyniad
Mae’n debyg y bydd dysgwyr 14–16 oed yn gallu rhestru llawer o briodweddau metelau o’u dysgu blaenorol. Yn y gweithgaredd hwn, byddant yn defnyddio stribed strwythur i ddisgrifio’r model bondio metelig ac egluro sut mae hyn yn arwain at briodweddau penodol. Gellir defnyddio’r gweithgaredd hwn i gyflwyno’r cysyniad neu i’w adolygu.
Sut mae defnyddio stribedi strwythur
Math o sgaffald yw stribedi strwythur, a gallwch eu defnyddio i helpu’r dysgwyr i adalw gwybodaeth yn annibynnol. Defnyddiwch nhw i gael trosolwg ar ddechrau’r pwnc, i ysgogi gwybodaeth flaenorol, neu i grynhoi’r dysgu ar ddiwedd pwnc addysgu. I gael rhagor o syniadau am sut mae defnyddio stribedi strwythur gyda’ch dysgwyr, edrychwch ar 5 ffordd o ddefnyddio stribedi strwythur yn effeithiol
Mae gan y stribedi strwythur adrannau sy’n cynnwys awgrymiadau, ac mae eu maint yn awgrymu faint mae’n rhaid i’r dysgwyr ei ysgrifennu. Bydd y dysgwyr yn gludo’r stribedi ar ymyl llyfr gwaith ac yn ysgrifennu eu hatebion wrth ymyl yr adrannau, mewn brawddegau llawn. Ar ôl i’r dysgwyr orffen defnyddio’r stribed strwythur, dylai fod ganddynt set o dudalennau A4 yn llawn nodiadau ac enghreifftiau.
Mae pum stribed ar dudalen a bydd angen eu torri i’r maint cywir ar ôl eu hargraffu. Maent ar ail dudalen y daflen i fyfyrwyr.
Sgaffaldio
Mae’n bosibl y bydd angen sgaffaldiau ychwanegol i helpu’r dysgwyr i ateb y cwestiynau. Gallai’r rhain gynnwys rhestr o eiriau allweddol neu dynnu neu ychwanegu awgrymiadau yn y stribed strwythur.
Wrth i’r dysgwyr fagu hyder, mae’n bosibl y byddant yn gallu ateb y cwestiwn heb y stribed strwythur neu roi cynnig ar y cwestiwn yn gyntaf ac yna defnyddio’r stribed strwythur i wella neu i hunanasesu eu hateb.
Metawybyddiaeth
Mae’r gweithgaredd hwn yn helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol yn y tri maes allweddol:
- Cynllunio: mae’r stribedi’n darparu sgaffaldiau i gynllunio’r ymateb ysgrifenedig. Bydd y dysgwyr yn penderfynu o ble i gasglu gwybodaeth (er enghraifft, gwerslyfrau, eu nodiadau eu hunain, gwefannau adolygu). Gofynnwch i’r dysgwyr: a yw’r ffynhonnell wybodaeth rydych chi’n ei defnyddio yn ddibynadwy?
- Monitro: mae’r cwestiynau yn y stribed strwythur yn rhoi awgrymiadau i’r dysgwyr ac maent yn gallu gwirio eu hateb yn erbyn yr awgrymiadau. Gofynnwch i’r dysgwyr: ydych chi wedi rhoi sylw i’r holl gwestiynau yn y lle gwag sydd wedi’i ddarparu? Oes angen i chi newid unrhyw beth er mwyn cwblhau’r dasg?
- Gwerthuso: gall y dysgwyr hunanasesu neu ofyn i gyd-ddysgwr wirio eu gwaith yn erbyn yr atebion. Gofynnwch i’r dysgwyr: wnaethoch chi gyflawni’r hyn roeddech chi’n bwriadu ei gyflawni? Beth gallech chi ei wneud yn wahanol y tro nesaf?
Geiriau allweddol
Bondio, cyfyngiad, dellten, diagram dot a chroes, electron, ïonau, ïonig, negatif, positif.
Cwestiwn dilynol
Caiff y cwestiwn hwn ei ateb ar ôl rhoi cynnig ar y stribed strwythur. Mae’r stribed strwythur yn ysgogi’r wybodaeth ofynnol, y gall y dysgwyr ei defnyddio wedyn i ateb y cwestiwn hwn.
Mae copr yn cael ei ddefnyddio i wneud sosbenni. Defnyddiwch eich dealltwriaeth o’r model bondio metelig a’ch gwybodaeth gyffredinol i egluro’r defnydd hwn o gopr. [4 marc]
Atebion
Rhoddir atebion posibl ar gyfer y gweithgaredd stribed strwythur yn y nodiadau i athrawon y gellir eu lawrlwytho.
Ateb i’r cwestiwn dilynol:
Cynnwys dangosol ar gyfer yr ateb
- Rhaid i sosban fod yn ddargludydd thermol da, sy’n caniatáu i’r gwres o’r popty gyrraedd y cynnwys. (1)
- Metel yw copr.
- Mae gan fetelau fondio metelig sy’n drefniant rheolaidd o haenau o ïonau metel positif (1) wedi’u hamgylchynu gan fôr o electronau dadleoledig (1).
- Mae metelau’n dargludo gwres oherwydd bod yr electronau dadleoledig yn gallu symud drwy’r ddellten (1) a chario’r gwres gyda nhw.
Downloads
Bondio metelig Stribed strwythur: taflen myfyriwr
PDF, Size 0.14 mbBondio metelig Stribed strwythur: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.21 mbBondio metelig Stribed strwythur: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.44 mbBondio metelig Stribed strwythur: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.47 mb









No comments yet