Helpu’r dysgwyr i gysylltu diagramau 2D â modelau 3D o ddellt ïonig  

Mae’r daflen waith hon yn rhan o gyfres adnoddau triongl Johnstone, sydd wedi’i dylunio i helpu’r dysgwyr i symud rhwng gwahanol lefelau cysyniadol o feddwl mewn pynciau cemeg allweddol.  

Amcanion dysgu 

  1. Adnabod diagram sy’n dangos adeiledd sodiwm clorid. 
  2. Lluniadu diagramau adeiledd electronig ar gyfer ïonau cyffredin. 
  3. Defnyddio’r syniad o lefelau egni electronau i gymharu maint ïonau. 
  4. Dehongli diagramau o ddellt ïonig ar gyfer cyfansoddyn ïonig anghyfarwydd. 

Sut mae defnyddio’r adnodd hwn 

Nod yr adnodd hwn yw datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o adeileddau ïonig. Bydd gallu meddwl am ïonau mewn gwahanol ffyrdd yn helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o adeileddau ïonig. O ganlyniad, dylai’r dysgwyr ddatblygu modelau meddyliol mwy cadarn i helpu eu ffyrdd o feddwl am y pwnc hwn.  

  • Pryd i ddefnyddio’r adnodd? Defnyddiwch y daflen waith ar ôl yr addysgu cychwynnol neu’r drafodaeth gychwynnol ar y pwnc hwn i ddatblygu syniadau ymhellach. Gallwch hefyd ei defnyddio fel gweithgaredd adolygu. 
  • Maint y grŵp? Mae’n addas ar gyfer gwaith annibynnol yn y dosbarth neu gartref. Neu defnyddiwch y cwestiynau ar gyfer trafodaethau grŵp neu ddosbarth. 
  • Pa mor hir? 15–30 munud 

Triongl Johnstone 

Model o’r tair lefel gysyniadol wahanol mewn cemeg yw triongl Johnstone: macrosgopig, symbolaidd ac is-ficrosgopig. Gallwch ddefnyddio triongl Johnstone i feithrin dealltwriaeth gadarn o syniadau cemegol ymhlith eich dysgwyr. 

Cyflwynwch driongl Johnstone i’r dysgwyr gyda’n taflen waith bondio ïonig: triongl Johnstone, sy’n dangos sut mae cysylltu priodweddau macrosgopig halen bwrdd â dealltwriaeth is-ficrosgopig o NaCl fel cyfansoddyn ïonig. 

Darllen pellach  

Darllenwch fwy am sut mae defnyddio triongl Johnstone yn eich gwaith addysgu gyda’r erthyglau hyn: 

Mae llyfr Norman Reid, The Johnstone Triangle: The Key to Understanding Chemistry yn rhoi trosolwg manylach, ac mae’r bennod gyntaf ar gael i’w darllen ar-lein. 

Triongl Johnstone a’r adnodd hwn 

Mae’r eiconau ar yr ymylon yn dangos pa lefel o ddealltwriaeth mae pob cwestiwn yn ei datblygu i helpu i annog y dysgwyr i feddwl. 

  • Macrosgopig: beth allwn ni ei weld. Meddyliwch am y priodweddau y gallwn eu harsylwi, eu mesur a’u cofnodi. 
  • Is-ficrosgopig: llai nag y gallwn ei weld. Meddyliwch am lefel gronyn neu atom. 
  • Symbolaidd: cynrychioliadau. Meddyliwch sut rydym yn cynrychioli syniadau cemegol gan gynnwys symbolau a diagramau. 

Mae’r lefelau’n gysylltiedig â’i gilydd, er enghraifft, mae angen i’r dysgwyr gael cynrychioliad gweledol o’r lefel is-ficrosgopig er mwyn datblygu modelau meddyliol o’r lefel ronynnol neu’r lefel atomig. Ein dull gweithredu yw defnyddio eiconau ar gyfer y cwestiynau yn seiliedig ar yr hyn y dylai’r dysgwyr fod yn meddwl amdano. 

Mae’n bosibl y bydd y cwestiynau wedi’u labelu â dau eicon neu â phob un o’r tri eicon, sy’n dangos y bydd y dysgwyr yn meddwl ar fwy nag un lefel. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhannau unigol o’r cwestiwn yn gofyn i’r dysgwyr feddwl am ddim ond un neu ddwy lefel benodol ar y tro. 

Cymorth 

Mae’r daflen waith hon yn un raddol, felly mae’r cwestiynau cynharach yn fwy hygyrch. Mae’r gweithgaredd yn dod yn fwy heriol wrth i’r cwestiynau fynd yn eu blaenau. Gallwch roi esboniadau ychwanegol ar gyfer y cwestiynau mwy heriol. Os ydych yn cwblhau’r daflen waith fel gweithgaredd yn y dosbarth, mae’n well oedi o bryd i’w gilydd a gwneud yn siŵr bod pawb yn deall, gan fod y cwestiynau’n adeiladu ar sail y cwestiwn blaenorol yn aml. 

Mae’n ddefnyddiol i’r dysgwyr arsylwi priodweddau macrosgopig drostynt eu hunain. Gallech rannu enghreifftiau o sylweddau o gwmpas yr ystafell ddosbarth, cynnal adwaith cemegol ymarferol yn y dosbarth, neu roi arddangosiad gan athro o’r priodweddau. 

Rhowch fodelau ffisegol i’r dysgwyr eu defnyddio a’u trin, fel cit Molymod™ neu gownteri. 

Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar unrhyw ddysgwyr sy’n dal yn ddihyder yn defnyddio’r cynrychioliad symbolaidd gofynnol, er enghraifft drwy rannu ac egluro diagram neu efelychiad sy’n gallu dangos symudiad y gronynnau. 

Atebion a chanllawiau 

Lawrlwythwch y nodiadau i athrawon i ddod o hyd i’r atebion i daflen waith y myfyrwyr. 

Mae pedwar cwestiwn aml-ran yn y daflen waith i fyfyrwyr. Mae cwestiwn 1 yn tybio bod y dysgwyr eisoes yn gyfarwydd â diagramau gronynnau sylfaenol o elfennau a chyfansoddion mewn gwahanol gyflyrau. Mae cwestiwn 2 yn helpu’r dysgwyr i gymharu darlun o adeiledd 3D dellten ïonig â’r diagram o ronynnau 2D y gallent fod yn fwy cyfarwydd ag ef. 

Mae cwestiwn 3 yn galluogi’r dysgwyr i gyfnerthu sut mae llunio diagramau ffurfwedd electronau cyn cysylltu’r rhain â chynrychioliad ïonau fel sfferau gwahanol faint. Mae’r cwestiwn olaf yn dangos i’r dysgwyr sut gellir defnyddio un cynrychioliad o ddellten ïonig i helpu i egluro’r gwahaniaeth rhwng adeiledd dau gyfansoddyn ïonig. Mae hefyd yn helpu’r dysgwyr i gymharu dau gynrychioliad gwahanol o ddellten ïonig y gallent ddod ar eu traws.