Mae isotopau anarferol elfennau yn cynnig cipolwg ar y grymoedd sy’n dal niwclysau at ei gilydd

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Defnyddiwch y stori hon a’r sleid grynhoi ategol i roi cyd-destun byd go iawn wrth astudio adeiledd atomig ac isotopau gyda’ch dysgwyr 14–16 oed.

    Lawrlwythwch y stori ar ffurf MS Word neu PDF a’r sleid grynhoi ar ffurf MS PowerPoint neu PDF.

Mae ymchwilwyr wedi creu ocsigen-28, sef yr isotop ocsigen trymaf erioed, mewn cyflymydd gronynnau yn Japan. Mae eu harbrofion yn awgrymu nad yw’r isotop hwn mor sefydlog â’r hyn a ragfynegwyd o’r blaen.

Oxygen-28 CYM

Source: © Royal Society of Chemistry

Gwyddonwyr yn creu ocsigen-28, sef yr isotop trymaf, ac yn darganfod ei ansefydlogrwydd annisgwyl. Beth mae hyn yn ei olygu o ran ein dealltwriaeth o niwclysau?

Yosuke Kondo, o Sefydliad Technoleg Tokyo, a arweiniodd y tîm rhyngwladol mawr a gynhyrchodd ocsigen-28 yn y cyflymydd gronynnau yng Nghanolfan Nishina Riken. Gwnaeth yr ymchwilwyr yr isotop drwy beledu targed beryliwm â chalsiwm-48, sy’n isotop naturiol prin iawn o galsiwm. Achosodd y gwrthdrawiadau i rywfaint o’r niwclysau calsiwm-48 chwalu, gan gynhyrchu niwclysau fflworin-29. Mae gan y niwclysau fflworin-29 yr un nifer o niwtronau ag ocsigen-28.

Yna, taniodd y gwyddonwyr y niwclysau fflworin-29 at darged hydrogen hylifol. Cafodd y broses hon wared ar broton o rai o’r niwclysau fflworin-29 i gynhyrchu niwclysau ocsigen-28.

Cipolwg sydyn

Drwy astudio isotopau sydd â chymarebau anarferol o niwtronau i brotonau, gall ymchwilwyr gael gwybodaeth am adeiledd niwclysau a’r grymoedd sy’n eu dal at ei gilydd. O ddiddordeb arbennig mae niwclysau sydd â ‘niferoedd hudol’ o brotonau neu niwtronau, sy’n anarferol o sefydlog o’u cymharu ag isotopau eraill o’r un elfen.

A large yellow machine with cables, pipes, tubes and other equipment attached

Ffynhonnell: © Newscom/Alamy Stock Photo

Dadorchuddio dirgelion yn y labordy: ocsigen-28 yn dod i’r amlwg mewn cyflymydd gronynnau yn Sefydliad Technoleg Tokyo

Roedd ymchwilwyr wedi rhagfynegi y byddai niwclysau ocsigen-28 ‘ddwywaith yn fwy hudol’ oherwydd bod ganddynt nifer hudol o niwtronau (20) a nifer hudol o brotonau (wyth). O ganlyniad, dylent fod hyd yn oed yn fwy sefydlog na niwclysau sydd ag un nifer hudol yn unig. Fodd bynnag, datgelodd arbrofion tîm Yosuke mai dim ond am gyfnod byr mae niwclysau ocsigen-28 yn para. O fewn ffracsiwn o eiliad, maent yn colli pedwar niwtron yn gyflym i ffurfio niwclysau ocsigen-24.

Mae’r darganfyddiad hwn yn dangos bod bylchau yn ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n gwneud niwclysau ddwywaith yn fwy hudol ac yn amlygu bod angen rhagor o ymchwil sylfaenol arnom i ddeall yn well sut mae niwtronau a phrotonau’n cael eu dal at ei gilydd mewn niwclysau.

 

Mae’r erthygl hon yn addasiad o waith Jamie Durrani yn Chemistry World.

Nina Notman

Reference

Y Kondo et al, Nature, 2023, DOI: 10.1038/s41586-023-06352-6

Download this

Summary slide with questions and the article for context when teaching 14–16 classes on atomic structure and isotopes: rsc.li/3Svu606

Downloads