Helpwch y dysgwyr i ddelweddu siâp ac adeiledd moleciwlau cofalent syml gyda’r teils bondio cofalent hyn y gellir eu trin
Ar ôl i’r dysgwyr feistroli’r sgìl o luniadu diagramau ffurfwedd electronau, maent yn barod i symud ymlaen i ddiagramau bondio gan ddefnyddio’r dull dot a chroes. Mae’r adnodd hwn yn helpu’r dysgwyr i ddelweddu safle atomau mewn moleciwlau syml drwy arbrofi â gosodiadau a symud y teils i gwblhau’r bondiau cofalent.
Mae’r adnodd hwn yn cyd-fynd â ffeithlun Education in Chemistry, Sut mae lluniadu diagramau dot a chroes.
Mae’r pedair tasg a amlinellir yn yr adnodd hwn yn enghreifftiau o sut byddai modd defnyddio’r teils i ategu pynciau ar wahanol adegau yn y cwrs cemeg ar gyfer dysgwyr 14-16 oed. Ni ddisgwylir y byddai’r rhain yn cael eu cyflwyno fel rhan o un wers neu ddilyniant. Gall y teils hefyd fod yn ddefnyddiol ar adegau eraill yn y cwrs nad ydynt wedi’u hamlinellu yma.

Cyfarwyddiadau i athrawon
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys dalen o deils bondio cofalent y gellir eu hargraffu a’u torri’n deils unigol i helpu’r dysgwyr wrth gyflwyno bondio cofalent. Mae’r electronau wedi cael eu codio gyda dotiau a chroesau lliw er mwyn helpu’r dysgwyr i adnabod bondiau sengl, dwbl a thriphlyg. Er mwyn osgoi camsyniadau, bydd angen atgoffa’r dysgwyr, er bod symbolau gwahanol yn cael eu defnyddio, eu bod i gyd yn cynrychioli un electron ym mhlisgyn allanol yr atom.
Tasg 1: Adeiladu bondiau
Yn y dasg hon, bydd y dysgwyr yn ymgyfarwyddo â’r teils yn yr adnodd ac yn ymarfer eu trefnu i wneud moleciwlau cofalent syml. Mae’r dasg hon yn fwriadol benagored ac mae llawer o drefniannau posibl ar gyfer pob un o gamau’r dasg. Bydd y dysgwyr yn dod i arfer â dod o hyd i’r teils cywir i gwblhau pob bond a threfniannau’r teils y bydd angen eu gosod ar ongl weithiau.
Tasg 2: Moleciwlau cofalent syml
Yn y dasg hon, gofynnir i’r dysgwyr adeiladu moleciwlau penodol ar sail eu fformiwla gemegol. Yn achos moleciwlau sy’n cynnwys ocsigen, carbon a nitrogen, bydd angen i’r dysgwyr ddewis y deilsen gywir i ddangos bondiau sengl, dwbl neu driphlyg yn ôl yr angen.
Tasg 3: Hydrocarbonau
Yn y dasg hon, bydd y dysgwyr yn defnyddio’r teils i archwilio patrymau yn y gyfres homologaidd o alcanau ac alcenau. Dylai’r dysgwyr eisoes fod yn gyfarwydd â defnyddio’r adnodd (mae’r gwahanol gamau yn nhasg 1 yn helpu i archwilio hyn) cyn cymhwyso’r teils i gysyniadau cemeg. Gellir defnyddio’r teils i ddangos y fformiwlâu cyffredinol ar gyfer yr alcanau a’r alcenau.
Tasg 4: Polymeru
Yn y dasg olaf hon, gofynnir i’r dysgwyr greu animeiddiad stop-symudiad neu GIF i ddangos y broses polymeru. Bydd angen iddynt ddefnyddio creadigrwydd a gwybodaeth gadarn am adeiledd a bondio i gynhyrchu eu hanimeiddiad.

Cyfarwyddiadau i ddysgwyr
Gosodwch y teils i drefnu’r atomau’n foleciwlau. Mae’r electronau wedi cael eu codio â lliw i helpu i adnabod y math o fond a ble fydd y bond. Bydd y dotiau a’r croesau glas yn ffurfio bond cofalent sengl, bydd y dotiau a’r croesau gwyrdd yn ffurfio bond cofalent dwbl a bydd y dotiau a’r croesau coch yn ffurfio bond cofalent triphlyg. Nid yw’r dotiau a’r croesau du yn rhan o’r bondio.

Cyfatebwch y lliwiau ar y teils dot a chroes i gwblhau’r bond.

Pan fyddwch yn hapus gyda threfniant yr atomau yn eich moleciwl, lluniadwch y diagram dot a chroes.

Bydd gan rai o’r atomau wahanol drefniannau yn dibynnu ar y math o fondiau y byddant yn eu ffurfio, a siâp yr adeileddau a fydd yn cael eu creu. Bydd angen i chi ddewis yn ofalus a rhoi cynnig ar wahanol gyfuniadau i ddod o hyd i’r un mwyaf addas ar gyfer eich moleciwl.

Cyfatebwch, symudwch ac archwiliwch wahanol gyfuniadau.
Downloads
Teils bondio cofalent: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.92 mbTeils bondio cofalent: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 3.48 mbTeils bondio cofalent: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 2.57 mbTeils bondio cofalent: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 2.21 mb




No comments yet