Newyddion am y priodweddau amddiffynnol sy’n cael eu creu drwy ychwanegu calsiwm at fagnesiwm

Oherwydd bod magnesiwm yn ysgafn, yn gryf a bod digonedd ohono ar gael yng nghramen y Ddaear, mae’n cael ei ddefnyddio’n eang mewn meysydd modurol, awyrofod, electronig, biofeddygol a storio ynni. Mae pwysau magnesiwm yn ei wneud yn ddeniadol o safbwynt cynaliadwy – mae’n llawer ysgafnach nag alwminiwm, felly gallai disodli alwminiwm â magnesiwm gwrthstaen mewn ceir ac awyrennau olygu bod angen defnyddio llai o danwydd ac felly bydd llai o allyriadau carbon deuocsid. Fodd bynnag, mae defnyddio magnesiwm ar raddfa ddiwydiannol wedi’i gyfyngu oherwydd ei fod yn cyrydu mewn amgylcheddau dyfrllyd.
Mae gwyddonwyr wedi creu aloi sydd â chyfradd gyrydu eithriadol o isel drwy gymysgu magnesiwm pur gyda symiau bach iawn o galsiwm. Cafodd magnesiwm pur a chalsiwm pur eu hymdoddi ar dymheredd uchel mewn crwsibl dur. Yna, cafodd y sylwedd tawdd ei arllwys i mewn i fowld a’i oeri.
Rhowch hyn mewn cyd-destun
Ychwanegwch gyd-destun a thynnwch sylw at yrfaoedd amrywiol gyda’n fideos gyrfa byr sy’n dangos sut mae cemeg yn gwneud gwahaniaeth. Hefyd, anogwch eich dysgwyr i fynd ymlaen i ysbrydoli eraill gyda’n proffil swydd, sef Alice, athro gwyddoniaeth mewn ysgol uwchradd.
Drwy ddefnyddio dim ond symiau bach iawn o galsiwm, mae’r aloi newydd yn cadw priodweddau magnesiwm pur. Fodd bynnag, gall yr aloi wrthsefyll cyrydiad oherwydd mae’r calsiwm yn caniatáu i haen amddiffynnol ddatblygu ar yr arwyneb ac yn sefydlogi amhureddau (fel haearn a silicon) yn yr aloi. Mae ychwanegu calsiwm hefyd yn ehangu’r defnydd o aloion magnesiwm mewn mewnblaniadau, gan nad yw calsiwm yn niweidiol i’r corff dynol.
Darllenwch y stori lawn yn Chemistry World.
Downloads
Yr aloi eithriadol nad yw’n cyrydu: sleidiau dosbarth
Presentation | PDF, Size 0.13 mbYr aloi eithriadol nad yw’n cyrydu: sleidiau dosbarth
Presentation | PowerPoint, Size 0.19 mb




No comments yet