Dadansoddiad geocemegol yn datgelu gwybodaeth annisgwyl am lwybrau masnach cynnar yr Iwerydd

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Defnyddiwch y stori hon a’r sleid grynhoi ategol i roi cyd-destun byd go iawn wrth astudio aloion gyda’ch dysgwyr 14–16 oed.

    Lawrlwythwch y stori ar ffurf MS Word neu PDF a’r sleid grynhoi ar ffurf MS PowerPoint neu PDF.

Mae geocemegwyr wedi cadarnhau bod y rhan fwyaf o efyddau Benin – pennau, placiau a ffigurynnau wedi’u cerflunio gan y bobl Edo yng Ngorllewin Affrica rhwng yr 16eg a’r 19eg ganrif – wedi’u gwneud o bres â’i darddiad filoedd o filltiroedd i ffwrdd, yn y Rheindir yn yr Almaen.

Mae’r darganfyddiad annisgwyl wedi taflu goleuni newydd ar y gwaith celf, llawer ohono wedi’i ysbeilio gan luoedd Prydain yn ystod taith filwrol 1897 a ddaeth â Theyrnas Benin y bobl Edo i ben. Mae Teyrnas Benin ar wahân i weriniaeth fodern Benin, a chafodd ei thiriogaethau eu hymgorffori yn Nigeria yn y pen draw.

Mae efyddau Benin yn gofnod hanesyddol pwysig o Deyrnas Benin

Source: © Werner Forman/Universal Images Group/Getty Images

Amcangyfrifir bod 5,000 o efyddau Benin yn cael eu cadw mewn casgliadau celf ledled y byd, gan gynnwys yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain a’r Met yn Efrog Newydd. Mae Nigeria wedi gofyn iddynt gael eu dychwelyd, ond llai na 100 sydd wedi’u dychwelyd hyd yma.

Ditectifs metel

Tobias Skowronek, geocemegydd yn y Technische Hochschule Georg Agricola yn Bochum, yr Almaen, a arweiniodd yr astudiaeth newydd. Mae’n dweud bod amheuaeth ers tro byd mai metel o freichledau y daeth y Portiwgaliaid â nhw i Orllewin Affrica a gafodd ei doddi a’i ddefnyddio i greu’r gweithiau celf. Ond yn ôl Tobias, doedden ni ddim yn gwybod ble cafodd y breichledau hyn eu prynu’n wreiddiol, na ble cafodd y metel ei fwyngloddio.

Breichledi siâp pedol wedi’u gwneud o aloi copr yw’r rhain. Roeddent yn cael eu defnyddio fel arian yng Ngorllewin Affrica gan gaethfasnachwyr a masnachwyr Ewropeaidd o’r 16eg ganrif ymlaen. Roedd y copr fel arfer yn cael ei gymysgu â sinc i wneud pres. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd pobl yn cyfeirio at y metel fel ‘efydd’ yn aml, enw a oedd yn cael ei ddefnyddio’n fwy cyffredin i ddisgrifio aloion copr–tun.

Source: © Ana Maria Benito Dominguez

Rhai o’r 313 o freichledau wedi’u cloddio o longddrylliadau yn yr Iwerydd ac a gafodd eu defnyddio yn y dadansoddiad geocemegol

I bennu tarddiad y metel yn efyddau Benin, dadansoddodd Tobias a’i gydweithwyr 67 breichled roeddent yn gwybod eu bod wedi cael eu defnyddio ym masnach gynnar Portiwgal. Cafodd y breichledau eu hadfer o bum llongddrylliad yn yr Iwerydd a thri safle ar y tir yn Ewrop ac Affrica. Fe wnaeth y gwyddonwyr bennu arwyddion isotopau plwm y breichledau, a phennu swm yr amhureddau hybrin eraill yn y pres fel antimoni, arsenig, nicel a bismwth.

Gwelodd tîm Tobias debygrwydd cryf rhwng y breichledau roeddent yn eu hastudio a’r metel a oedd wedi’i ddefnyddio mewn mwy na 700 o efyddau Benin gyda chyfansoddiadau cemegol wedi’u cyhoeddi’n flaenorol. Roedd y tîm hefyd wedi canfod bod cyfansoddiad cemegol y copr yn y breichledau yn cyfateb i’r mwynau copr wedi’u mwyngloddio yng ngogledd Ewrop, sy’n awgrymu mai’r Almaen fodern, yn benodol y Rheindir, oedd prif ffynhonnell y metel.

Mae’r erthygl hon yn addasiad o waith Tom Metcalfe yn Chemistry World.

Nina Notman

Cyfeiriadau

T B Skowronek et al, PLOS ONE, 2023, DOI: 10.1371/journal.pone.0283415

Download this

Sleid grynhoi gyda chwestiynau ac erthygl i roi cyd-destun wrth addysgu dosbarthiadau o fyfyrwyr 14–16 oed am aloion metel: rsc.li/43ReZAP

Downloads