Mae David Paterson yn argymell agwedd ymarferol at waith ymarferol

A photo of drip bottles around a grid of different coloured drops of liquid

Ffynhonnell: © David Paterson

Y raddfa ficro – mae gan gemeg ar raddfa fach bosibiliadau mawr wrth addysgu

Beth yw cemeg? Pam ydym ni’n dysgu cemeg i bob myfyriwr? Beth ddylem ni ei ddysgu iddynt? Pam mae rhai cysyniadau yn rhan o’r cwricwlwm, ac eraill ddim? Sut mae ennyn diddordeb ein myfyrwyr yn y pwnc yr ydym ni’n ei garu?

Mae’r holl gwestiynau hyn ar fy meddwl byth a hefyd. Rydw i’n credu y dylai pob athro (nid dim ond athrawon cemeg) fod yn gofyn y cwestiynau yma iddo’i hun ac i’w gydweithwyr o bryd i’w gilydd – yn enwedig yng nghyd-destun newid mawr i’r hyn yr ydym ni’n ei wneud o ddydd i ddydd.

Roedd y pandemig a’r symud dros nos i ddysgu o bell yn ysgogiad arall i mi feddwl am y cwestiynau hyn. Ac, yn benodol, sut mae gwaith ymarferol yn cyd-fynd â’r ffordd rydw i’n addysgu a’r ffordd mae’r myfyrwyr yn dysgu.

Annatod neu aneffeithiol?

Mae gwaith cemeg ymarferol yn gallu pegynu barn. Weithiau, dadleuir ei fod yn rhan annatod o’r pwnc; dro arall, mae’n cael ei ddirmygu, gan honni nad yw’n ddim mwy na chadw at hen draddodiad aneffeithiol o ddilyn ryseitiau. Gallwch gyfeirio at ymchwil sy’n dangos diffygion gwaith ymarferol, ac at ymchwil sy’n dangos sut y gellir ei ddefnyddio’n effeithiol. Mae’r darlun yr un mor gymhleth â’r gwaith ei hun!

Beth yw fy safbwynt i? Rydw i’n cefnogi gwaith ymarferol yn frwd, ac yn credu’n gryf yn ei allu i addysgu myfyrwyr, ennyn eu diddordeb, a gwella’u dealltwriaeth o syniadau haniaethol am sut mae’r byd yn gweithio. Ac rydw i’n credu bod cemeg ar raddfa ficro yn gwneud y gwaith hwnnw’n llawer haws.

Mae cemeg ar raddfa ficro yn gwneud y dysgu, a thaith myfyrwyr unigol i ddarganfod cemeg, yn fwy personol, yn llai brawychus, yn haws ei ail-greu, ac yn fwy hyblyg

Ystyriwch blant 11 oed sydd newydd ddechrau yn yr ysgol, yn syfrdan ac yn llawn cynnwrf oherwydd eu bod mewn labordy gwyddoniaeth ‘go iawn’. Ac yna edrychwch arnynt bum mlynedd yn ddiweddarach, yn paratoi (o bosibl …) ar gyfer eu harholiadau: a yw’r brwdfrydedd hwnnw wedi cael ei gynnal? A ddiflannodd wrth iddynt dyfu? Ynteu a gafodd ei golli oherwydd nad ydym wedi rhoi’r cyfle iddynt feddwl o ddifrif am eu harsylwadau a’u sgiliau? A yw’r broses o gyrraedd yr arsylwadau hynny wedi eu llethu?

Dyna pam rydw i wrth fy modd ag adweithiau ar y raddfa ficro. Ychydig ddiferion o ddŵr a dangosydd cyffredinol, yna ychydig grisialau o asid citrig ar un ochr, a sodiwm carbonad ar yr ochr arall. Beth maent yn ei weld? Dychmygwch arddangosiad yr enfys fyrlymog mewn diferyn – y myfyrwyr yn treulio ychydig funudau mewn byd o ddarganfod yn creu eu henfys â’u dwylo eu hunain. Mae’r hyn y maent yn ei arsylwi yn cael ei gyfyngu i ychydig gentimetrau sgwâr, ac nid yw’r athro na’u ffrindiau na’r darn cymhleth yna o lestr gwydr yn tarfu cymaint arnynt. Mae eu harsylwadau’n digwydd dros amser – mae’r ochr yna wedi troi’n goch, mae’r ochr yna wedi troi’n las, mae’r lliwiau’n symud at ei gilydd, aros funud … ai swigod sy’n ffurfio yn y fan yna? Pam? Beth sy’n digwydd? Sut ydw i’n egluro hyn?

Mae cemeg ar raddfa ficro yn gwneud y dysgu, a thaith myfyrwyr unigol i ddarganfod cemeg, yn fwy personol, yn llai brawychus, yn haws ei ail-greu, ac yn fwy hyblyg.

Mae electrolysis copr clorid yn ffefryn arall gennyf. Dim pecynnau pŵer na biceri, dim cyfeintiau mawr a drud a dim angen llenwi’r ystafell â chlorin. Dim ond dysgl Petri, ychydig ddiferion o electrolyt a batri 9 V. Mae’n fwy diogel (llai o glorin), mae’n gyflymach (mae’n cael ei ddosbarthu mewn blychau a’i gydosod mewn munudau), mae modd gwneud mwy o arsylwadau a gwell arsylwadau (gallwn weld yr hydoddiant yn dadliwio, gallwn weld y crisialau copr yn tyfu at yr electrod positif), ac mae modd ei ailadrodd yn hawdd er mwyn atgyfnerthu’r dysgu (dim ond munudau y mae’n ei gymryd i’w gwblhau a’i glirio).

Rhagor o adnoddau

  • Defnyddiwch ein tudalen hafan cemeg ar raddfa ficro i ddod o hyd i erthyglau eraill ac adnoddau wedi’u diweddaru ar gyfer gwaith ymarferol ar raddfa ficro.
  • Dysgwch pam mae athrawon dan hyfforddiant ac athrawon sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd yn troi at y raddfa ficro i wneud gwaith ymarferol yn symlach ac yn fwy diddorol.

Ennyn diddordeb a chynnig profiad

Er fy mod yn argymell defnyddio gwaith ymarferol ar raddfa ficro yn gryf, rydw i hefyd yn bragmatig am y byd yr ydym yn addysgu ynddo ar hyn o bryd. Rhaid i ni baratoi ein myfyrwyr ar gyfer eu hasesiadau terfynol, a bydd llawer o’r cwestiynau ymarferol yn seiliedig ar waith ymarferol ‘traddodiadol’. Rydw i’n defnyddio llawer o’r gwaith hwnnw hefyd wrth addysgu – mae amrywiaeth gyfoethog yn well na dogma sy’n cael ei bennu o’r canol.

Os mai gweithwyr proffesiynol ydym ni, yn hytrach na dim ond y rhai sy’n cyflawni’r fanyleb, dylem fod yn gwneud y penderfyniadau hyn ein hunain, gan ddefnyddio tystiolaeth a phrofiad yn sail iddynt. Mae fy myfyrwyr yn ymgysylltu’n well â chemeg pan fyddant yn gwneud gwaith ymarferol, maent yn deall yn gliriach pan fyddant wedi cynhyrchu’r arsylwadau eu hunain ac maent yn profi’r llawenydd all ddod wrth ddefnyddio’u dwylo, eu pen a’u calon ynghyd i ddatblygu eu gwybodaeth bersonol.