Darllenwch am sut mae ymchwilwyr yn arbrofi â diwteriwm metelig sydd wedi’i ffurfio dan wasgedd uchel ac yn dod i ddeall y byd o’n cwmpas
Mae’r adnodd darllen a deall hwn yn seiliedig ar stori newyddion am ymchwil gwyddoniaeth a ddewiswyd oherwydd ei bod yn berthnasol i’r pwnc cwricwlwm adeiledd a bondio. Bydd y dysgwyr yn mynd ati i ymwneud â thestun syml am erthygl ymchwil.
-
Lawrlwythwch
Taflen waith, sleidiau a thempled sgript darllen a deall ar gyfer y dasg estyn, yn ogystal â nodiadau i athrawon gydag atebion enghreifftiol a chanllawiau.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Adnoddau darllen a deall
Amcanion dysgu
- Defnyddio strategaethau darllen gweithredol i’ch helpu i ddeall stori newyddion am wyddoniaeth.
- Defnyddio’r eirfa i’ch helpu i ddeall geiriau anghyfarwydd.
- Gwybod pa wybodaeth allweddol i chwilio amdani wrth ddarllen stori newyddion am wyddoniaeth.
- Deall sut mae pobl yn ysgrifennu am wyddoniaeth yn wahanol, yn dibynnu ar eu cynulleidfaoedd.
- Ar gyfer y dasg estyn – siarad yn hyderus am y stori newyddion am wyddoniaeth, gan ystyried eich cynulleidfa.
Mae cwestiynau 3–6 ar y daflen i fyfyrwyr yn cefnogi amcanion dysgu 1 a 2. Mae cwestiwn 6 yn cefnogi amcan dysgu 3. Mae cwestiynau 1–3 ‘Her ychwanegol gyda gwaith darllen’ yn cefnogi amcan dysgu 4 ac mae’r dasg estyn ‘Cyflwyno’r newyddion’ yn cefnogi amcan dysgu 5.
Cyflwyniad
Mae Education in Chemistry wedi casglu a chrynhoi cyfoeth o straeon newyddion am ymchwil gwyddoniaeth. Mae’r adnodd darllen a deall hwn yn seiliedig ar un o’r straeon hyn sy’n berthnasol i’r pwnc adeiledd a bondio.
Mae’r adnodd yn cynnwys:
- Taflen waith darllen a deall – crynodeb syml o erthygl ymchwil gyda chwestiynau i brofi dealltwriaeth a geirfa
- Sleidiau cyflwyno’r newyddion – cyfarwyddiadau ar gyfer y dasg estyn, ynghyd ag awgrymiadau a chwestiynau myfyrio
- Sgript Cyflwyno’r newyddion – templed sgript i’r dysgwyr ysgrifennu ynddo mewn grwpiau, a thabl i fyfyrio ar gyflwyniadau’r dosbarth
- Nodiadau i athrawon – gan gynnwys atebion enghreifftiol a chanllawiau ar gyfer pob gweithgaredd
Termau allweddol
Atom, electron, electron dadleoledig, elfen, isotop, metel.
Sut mae defnyddio’r adnodd hwn
Mae rhifau llinellau ar destun y stori er mwyn i chi allu cyfeirio dysgwyr yn hawdd at rannau penodol o’r testun.
Modelu darllen gweithredol
Darllenwch y stori yn uchel gyda’ch dysgwyr a’u hannog drwy gydol y broses i ymwneud yn weithredol â’r testun. Gallwch ofyn:
- ‘Beth ydych chi’n meddwl fydd yn digwydd nesaf?’
- ‘Sut byddech chi’n aralleirio’r hyn sydd newydd gael ei ddweud?’
- ‘Beth yw testun y stori newyddion hon?’
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn Sut mae addysgu darllen mewn gwyddoniaeth.
Ystyriwch ddefnyddio meddalwedd recordio neu chwarae’n ôl, er mwyn i’r dysgwyr allu gwrando ar y testun ar ddyfais wrth iddynt ddarllen.
Mae cwestiwn 6 yn gofyn i’r dysgwyr ysgrifennu crynodeb o’r stori newyddion ar gyfer eu cyd-ddysgwyr. Gallwch weithio drwy’r cwestiwn hwn fel dosbarth yn gyntaf, cyn gofyn i’r dysgwyr dynnu’r wybodaeth angenrheidiol o’r testun yn annibynnol. Gallwch ofyn i’r dysgwyr farcio crynodebau eu cyd-ddysgwyr.
Archwiliwch ein casgliad llythrennedd mewn addysgu gwyddoniaeth
Edrychwch ar ein hadnoddau cymorth llythrennedd diweddaraf ynghyd â’n casgliad gofalus o erthyglau a gweithgareddau sy’n barod ar gyfer yr ystafell ddosbarth i’ch helpu i wreiddio llythrennedd yn y gwersi sydd gennych eisoes.
Geirfa o dermau perthnasol
Mae’r eirfa wedi’i llenwi’n barod â geiriau o’r stori y gallai’r dysgwyr fod angen cymorth â nhw. Mae’r Sefydliad Gwaddol Addysgol yn argymell blaenoriaethu addysgu termau haen 2 a haen 3, y mae dysgwyr yn llai tebygol o’u clywed neu eu darllen y tu allan i’w gwersi gwyddoniaeth.
Mae’r geiriau sydd wedi’u rhestru mewn print trwm yn yr eirfa yn dermau allweddol ac maent yn gysylltiedig â’n hadnoddau cymorth cyfatebol ar gyfer termau allweddol. I roi mwy o her, tynnwch gofnodion allan neu eu golygu, ac yna gofynnwch i’r dysgwyr ymchwilio a llenwi’r eirfa.
Adnoddau ategol
I ateb cwestiynau 7 ac 8, bydd angen i’r dysgwyr allu gweld y fersiwn hirach a mwy cymhleth o’r testun darllen a deall. Gallwch ei lawrlwytho a’i argraffu neu ei weld ar-lein yma. Bydd angen i’r dysgwyr gael fersiwn wedi’i argraffu er mwyn ei anodi yng nghwestiwn 7.
Tasg estyn: cyflwyno’r newyddion
Dywedwch wrth y dysgwyr am gyflwyno’r stori newyddion am wyddoniaeth y maent wedi’i darllen fel eitem mewn rhaglen newyddion.
Rhannwch y dysgwyr yn grwpiau o dri neu bedwar a rhoi un o dair rôl i bob un ohonynt – cyflwynydd newyddion, gohebydd, neu wyddonydd. Os oes mwy na thri dysgwr ym mhob grŵp, rhowch y rôl gwyddonydd i fwy nag un dysgwr. Mae’n bwysig bod pawb yn dweud rhywbeth yn ystod y cyflwyniad.
- Tafluniwch y sleidiau ‘Cyflwyno’r newyddion’ ar y bwrdd gwyn. Eglurwch y dasg (sleid 2) a rhowch allbrintiau i’r dysgwyr o’r hyn y mae angen i bob rôl ei wneud (sleidiau 3–5).
- Trafodwch y sleid sydd â’r teitl ‘Sut beth yw cyflwyniad da?’ (sleid 6) cyn gwahodd y grwpiau i wneud eu cyflwyniadau (caniatewch bum munud i bob grŵp).
- Rhowch y templed sgript i’r dysgwyr a’u cyfarwyddo i fynd ati fel grŵp i baratoi’r hyn y maent eisiau ei ddweud yn y cyflwyniad. Bydd hyn yn cynnwys darllen y cyflwyniad yn y templed sgript yn gyntaf, a gallwch wneud hyn fel dosbarth os oes angen. Fel canllaw bras, caniatewch tua 45 munud i’r dysgwyr baratoi.
- Dywedwch wrth y dysgwyr lenwi’r daflen adborth ar y templed sgript tra bydd eu cyd-ddysgwyr yn cyflwyno. Ar ôl i bob grŵp wneud eu cyflwyniadau, gofynnwch am fyfyrdodau a gwnewch nodiadau o unrhyw wersi a ddysgwyd ar gyfer y gweithgaredd siarad a gwrando nesaf.
Mae Fframwaith sgiliau llafaredd Oracy Cambridge yn rhoi rhagor o wybodaeth am sgiliau siarad a gwrando.
Metawybyddiaeth
Mae’r adnodd hwn yn helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol mewn tri maes allweddol.
Cynllunio
- Mae cwestiwn 6 yn rhoi cyfres o awgrymiadau i’r dysgwyr i sgaffaldio eu crynodeb o’r stori newyddion am wyddoniaeth.
- Mae cyflwyniad y sgript ‘cyflwyno’r newyddion’ yn cynnwys cwestiynau i’r dysgwyr eu gofyn iddyn nhw eu hunain wrth gynllunio’r cyflwyniad, er enghraifft am ddefnyddio delweddau a sut mae cadw at yr amser.
Monitro
- Gofynnwch gwestiynau i’r dysgwyr wrth ddarllen y testun yn uchel (gweler yr adran o’r enw ‘modelu darllen gweithredol’) i’w hannog i fonitro eu dealltwriaeth drwy gydol y dasg.
- Mae’r cwestiynau sy’n profi dealltwriaeth yn annog y dysgwyr i asesu i ba raddau y mae’r strategaethau darllen gweithredol yn eu helpu i ddeall y testun, a pha strategaethau eraill y gallant eu defnyddio i’w helpu i ddeall.
Gwerthuso
- Gofynnwch am adborth ar atebion i’r cwestiynau metawybyddol (yn y blychau coch) ac ewch ati fel dosbarth i lunio ‘canllaw cyflym’ ar strategaethau darllen. Edrychwch eto ar y canllaw cyflym hwn y tro nesaf y byddwch yn gwneud gweithgaredd darllen a deall.
- Wedi iddo gael ei lenwi, defnyddiwch y tabl adborth i fyfyrio fel dosbarth ar gryfderau’r cyflwyniadau a nodwch bethau i weithio arnynt y tro nesaf y byddwch yn gwneud gweithgaredd siarad a gwrando fel dosbarth.
Atebion enghreifftiol a chanllawiau
Mae atebion enghreifftiol ar gyfer pob cwestiwn ar y daflen waith, awgrymiadau uwcholeuo ar gyfer cwestiwn 7 a sgript enghreifftiol i gyflwyno’r newyddion i gyd wedi’u cynnwys yn y nodiadau i athrawon.
Downloads
Adeiledd a bondio Darllen a deall: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.39 mbAdeiledd a bondio Darllen a deall: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.37 mbAdeiledd a bondio Darllen a deall: templed sgript
Handout | PDF, Size 0.18 mbAdeiledd a bondio Darllen a deall: sleidiau gwers
Presentation | PDF, Size 0.68 mbAdeiledd a bondio Darllen a deall: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.8 mbAdeiledd a bondio Darllen a deall: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.72 mbAdeiledd a bondio Darllen a deall: templed sgript
Editable handout | Word, Size 0.84 mbAdeiledd a bondio Darllen a deall: sleidiau gwers
Presentation | PowerPoint, Size 0.85 mb









No comments yet