Defnyddiwch y pecyn hwn o adnoddau a gweithgareddau i rymuso’r dysgwyr i ddeall yr eirfa sydd ei hangen arnynt i fynd i’r afael â’r pwnc hwn

Cael yr adnoddau

Termau allweddol
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Termau allweddol

    Rhestr o dermau allweddol ar gyfer y pwnc hwn sydd wedi’u dewis yn ofalus, gyda diffiniadau

    Rhestr termau allweddol ar ffurf PDF | MS Word
    Cymorth i athrawon ar ffurf PDF | MS Word
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Geirfa hygyrch

    Ymhelaethwch ar y rhestr termau allweddol gyda delweddau, enghreifftiau, diffiniadau sy’n addas i’r dysgwyr a mwy

    Sleidiau ar ffurf PDF | MS PowerPoint
    Cymorth i athrawon ar ffurf PDF | MS Word
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Modelau Frayer

    Archwiliwch a datblygwch y ddealltwriaeth o dermau allweddol dethol gan ddefnyddio’r fframwaith hwn

    Sleidiau wedi’u sgaffaldio ar ffurf PDF | MS PowerPoint
    Sleidiau heb eu sgaffaladio ar ffurf PDF | MS PowerPoint
    Cymorth i athrawon ar ffurf PDF | MS Word
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Datrys diffiniadau

    Profwch a chyfnerthwch ddealltwriaeth y dysgwyr gyda’r daflen waith hwyliog hon

    Taflen waith i fyfyrwyr ar ffurf PDF | MS Word
    Cymorth i athrawon ar ffurf PDF | MS Word
    Sleidiau ar ffurf PDF | MS PowerPoint

Cyflwyniad 

Bydd y pecyn cymorth termau allweddol hwn yn eich helpu i fod yn glir ynghylch yr eirfa sydd ei hangen ar eich dysgwyr i allu astudio’r pwnc hwn ar y lefel hon a darparu’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i helpu pob dysgwr i wneud hynny.

Rhestr o eirfa sydd wedi’i dewis yn ofalus yw’r adnodd termau allweddol, gyda diffiniadau. Mae’r holl dermau allweddol hyn a’u diffiniadau hefyd ar gael yn yr eirfa hygyrch sy’n cynnwys delweddau, canllawiau ynganu a ffyrdd eraill o ddatgloi dealltwriaeth. Mae grŵp llai o’r un termau allweddol hyn a’u diffiniadau ar gael yn yr adnoddau modelau Frayer a datrys diffiniadau.

Mae’r holl adnoddau’n cael eu darparu mewn fformatau y gellir eu golygu fel y gallwch eu haddasu ar sail gofynion eich dysgwyr a gofynion penodol y cwricwlwm.

Sut mae ddefnyddio’r rhestr o dermau allweddol

Mae’r rhestr o dermau allweddol a diffiniadau yn addas i ddysgwyr 14–16 oed ond nid yw wedi’i llunio’n benodol ar gyfer unrhyw fwrdd arholi na chymhwyster. Gallwch olygu’r diffiniadau i gyd-fynd â’ch gofynion eich hun.

Mae’r termau allweddol yn cael eu grwpio yn ôl is-bwnc ac yn nhrefn yr wyddor. Rhoddir mwy o arweiniad yn y nodiadau i athrawon. 

Syniadau ar gyfer addasu 

  • Beth am gynnwys y geiriau mewn tasg sillafu?
  • Gofynnwch i’r dysgwyr ymchwilio i rai o’r geiriau’n annibynnol.
  • Dilëwch y diffiniadau a gofynnwch i’r dysgwyr eu llenwi wrth gyflwyno pob term.
  • Integreiddiwch sgiliau siarad a gwrando yn y gweithgaredd hwn: modelwch yr ynganiad. Dywedwch y termau allweddol a’r diffiniadau yn uchel a gofynnwch i’r dysgwyr eu hailadrodd fel dosbarth; defnyddiwch y term allweddol yn gywir ac yn anghywir mewn brawddeg a gofynnwch i’r dysgwyr ddyfalu pa un yw pa un.

Sut mae ddefnyddio’r eirfa hygyrch

Mae’r eirfa hygyrch o dermau allweddol yn cynnwys delweddau, canllawiau ynganu a gwybodaeth arall i helpu dysgwyr i bontio’r bwlch rhwng termau allweddol a diffiniadau.

Mae pob sleid wedi’i rhannu’n adrannau:

  • Mewn geiriau eraill: diffiniad sy’n fwy addas i ddysgwyr
  • Arwyddo: dolenni at eirfa gemeg BSL y Scottish Sensory Centre, sy’n cael ei chynnal gan Brifysgol Caeredin. Dysgwch fwy am Sut gall iaith arwyddion helpu pob dysgwr
  • Ynganu: arweiniad i’r dysgwyr ar sut mae ynganu pob term allweddol yn seiliedig ar ganllaw Geiriadur Caergrawnt ar Ynganu Saesneg.
  • Dadansoddi: mae’n dadansoddi’r termau allweddol yn rhannau geiriau cyfansawdd i ddatgelu rhagor am eu hystyron
  • Geiriau tebyg: mae’n rhestru geiriau sydd â’r un ystyron neu ystyron tebyg iawn
  • Enghraifft: enghraifft o’r gair yn cael ei ddefnyddio neu’r gair mewn cyd-destun a fydd yn debygol o fod yn fwy cyfarwydd i’r dysgwyr
  • Peidio â drysu â: rhestr o gamsyniadau cyffredin perthnasol i’r dysgwyr fod yn ymwybodol ohonynt
  • Cyd-destunau eraill: cyd-destunau eraill lle gallai’r dysgwyr ddod ar draws y gair, er enghraifft mewn ffiseg neu fioleg.

Syniadau ar gyfer addasu

  1. Argraffwch ef fel llyfryn a’i roi i gydweithwyr sy’n canolbwyntio ar Saesneg fel Iaith Ychwanegol neu Anghenion Addysgol Arbennig. Defnyddiwch yr adnodd gyda’r dysgwyr cyn eu gwersi cemeg i ddysgu geirfa ymlaen llaw.
  2. Rhowch sleidiau penodol mewn cyflwyniadau eraill, i dynnu sylw at y ffaith eich bod yn cyflwyno term newydd i’r dysgwyr.
  3. Defnyddiwch yr adnodd ar gyfer adolygu ar ôl gwers a oedd yn cynnwys y term allweddol.
  4. Argraffwch fersiwn o’r adnodd gyda dim ond y ddelwedd a’r diffiniad ‘mewn geiriau eraill’ a defnyddiwch hwn fel sail ar gyfer gweithgaredd rydych chi’n ei greu eich hun.
  5. Gofynnwch i’r dysgwyr ddadansoddi’r diffiniadau o dermau allweddol ymhellach, gan ddefnyddio diagramau wedi’u labelu.
  6. Gallwch greu cardiau fflach adolygu drwy argraffu sawl sleid ar un ddalen o bapur.

Golygwch y sleidiau i addasu’r cynnwys i weddu orau i’ch dysgwyr, e.e. dileu cynnwys y segmentau a gofyn i’r dysgwyr eu llenwi. Mae hyn yn annog y dysgwyr i ddefnyddio’u cyfalaf gwyddoniaeth a gall ei gwneud hi’n haws i’r dysgwyr rannu gwybodaeth sydd ganddynt yn barod ymysg eu cyd-ddysgwyr cyn i’r cynnwys gael ei drafod yn y dosbarth.

Sut mae defnyddio modelau Frayer

Mae modelau Frayer yn ffordd effeithiol o ddatblygu dealltwriaeth y dysgwyr o ddarn newydd o eirfa. Byddwch yn gweld beth mae eich dysgwyr yn ei wybod yn barod ac yn adnabod unrhyw gamsyniadau sydd ganddynt. Rhoddir y term allweddol yng nghanol pedwar pedrant; gofynnwch i’r dysgwyr lenwi’r pedrantau yn eu tro.

  • Archwilio: cysylltwch â chyfalaf gwyddoniaeth a gweld beth mae’r dysgwyr yn ei ddeall am y term yn barod.
  • Dadansoddi: edrychwch ar rannau cyfansawdd y gair i ddeall ei ystyr yn fanylach.
  • Egluro: cyflwynwch y diffiniad. Mae dwy ran i’r adran hon. Yn gyntaf, gofynnwch i’r dysgwyr ddiffinio’r term eu hunain ac yna gofynnwch iddynt gopïo’r diffiniad o’r rhestr o dermau allweddol.
  • Cyfnerthu: gofynnwch i’r dysgwyr ddefnyddio eu gwybodaeth am y term drwy ateb cwestiwn.

Darllenwch fwy am fodelau Frayer a’u defnydd yn Teaching challenging vocabulary a A model for success.

Syniadau ar gyfer addasu

Mae’r adnoddau hyn ar gael mewn fformat heb ei sgaffaldio ac wedi’i sgaffaldio. I rai dysgwyr, mae’r pedrant archwilio yn arbennig o heriol, felly rhowch ragor o amser, cymorth a chyfarwyddiadau penodol iddynt er mwyn defnyddio’r modelau hyn.

  • Tynnwch sylw at ragddodiaid, ôl-ddodiaid a chyfieithiadau cyffredin. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i’r dysgwyr.
  • Cysylltwch y termau â geiriau tebyg i helpu’r dysgwyr i awgrymu ystyron posibl.
  • Yn y pedrant egluro, rhowch ddiagramau, enghreifftiau perthnasol ac enghreifftiau amherthnasol.
  • Ychwanegwch gwestiwn ymestynnol at y pedrant cyfnerthu i ddyfnhau’r ddealltwriaeth.

Sut i ddefnyddio datrys diffiniadau

Mae datrys diffiniadau yn ffordd hwyliog o brofi a chyfnerthu dealltwriaeth y dysgwyr o’r termau allweddol a’r diffiniadau. Dywedwch wrth y dysgwyr roi’r diffiniadau o dermau allweddol at ei gilydd ac wedyn defnyddio’u dealltwriaeth o’r termau i gwblhau brawddegau. Rhoddir atebion yn y nodiadau i athrawon ac maent yn cael eu darparu fel sleidiau hefyd. Fel y modelau Frayer cysylltiedig, mae datrys diffiniadau yn ymchwilio i ddealltwriaeth y dysgwyr ac yn targedu’r termau anoddach yn y rhestr o dermau allweddol. Darllenwch fwy am ddatrys diffiniadau a’u defnydd yn Closing the word gap.

Syniadau ar gyfer addasu

Integreiddiwch sgiliau siarad a gwrando yn y gweithgaredd hwn:

  • Argraffwch y grid datrys diffiniadau a thorri o amgylch y blychau unigol. Gofynnwch i’r dysgwyr gymryd blwch yr un a threfnu eu hunain – fel dosbarth neu grŵp – i greu’r gwahanol ddiffiniadau. Pan fydd pawb yn barod, gofynnwch i bob dysgwr ddarllen ei ran ei hun o’r diffiniad yn ei dro
  • Gofynnwch i’r dysgwyr ddarllen y sleid cwblhau’r cysylltiad yn llawn
  • Fel addasiad cyflymach o’r dasg, ystyriwch gynnal gweithgaredd ‘meddwl, paru, rhannu’ lle mae’r dysgwyr yn trafod ac yn penderfynu ar y diffiniadau cywir mewn parau neu grwpiau bach.

Rhowch fwy o gymorth drwy gysylltu’r term yng ngholofn A â’r cofnod cywir yng ngholofn B ac efallai’r cofnod yng ngholofn B â’r cofnod cywir yng ngholofn C, ar gyfer yr ychydig dermau allweddol cyntaf yn y grid.

Downloads