Helpu’r dysgwyr i adalw gwybodaeth am y diagramau a ddefnyddir i gynrychioli bondiau cofalent a’u cyfyngiadau

Mae’r adnodd hwn yn rhan o’n cymorth ar gyfer llythrennedd mewn addysgu gwyddoniaeth, sydd wedi’i ddylunio i wreiddio llythrennedd yn eich cwricwlwm a datblygu sgiliau’r dysgwyr o ran darllen, ysgrifennu a siarad am wyddoniaeth, a’u dealltwriaeth o iaith wyddonol.

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Lawrlwythwch y stribedi strwythur (y mae pump ohonynt wedi eu hargraffu ar bob tudalen), i helpu’r dysgwyr i ddod o hyd i wybodaeth neu ei hadalw ac ysgrifennu’n annibynnol.

    Mae atebion enghreifftiol ar gael yn y canllawiau i athrawon.

Amcanion dysgu

  1. Diffinio’r term bond cofalent.
  2. Adnabod, defnyddio a dehongli gwahanol fathau o ddiagramau o fondio cofalent mewn moleciwlau bach.
  3. Nodi cyfyngiadau modelau bondio cofalent.

Cyflwyniad

Mae bondio cofalent yn digwydd pan fydd electronau’n cael eu rhannu. Mae llawer o wahanol sylweddau sydd â bondio cofalent. Gellir cynrychioli bondio cofalent mewn gwahanol fathau o ddiagramau. Yn y gweithgaredd hwn, bydd y dysgwyr yn dod i ddeall y diagramau hyn a’u cyfyngiadau.

Sut mae defnyddio stribedi strwythur

Math o sgaffald yw stribedi strwythur, a gallwch eu defnyddio i helpu’r dysgwyr i adalw gwybodaeth yn annibynnol. Defnyddiwch nhw i gael trosolwg ar ddechrau’r pwnc, i ysgogi gwybodaeth flaenorol, neu i grynhoi’r dysgu ar ddiwedd pwnc addysgu. I gael rhagor o syniadau am sut mae defnyddio stribedi strwythur gyda’ch dysgwyr, edrychwch ar 5 ffordd o ddefnyddio stribedi strwythur yn effeithiol

Mae gan y stribedi strwythur adrannau sy’n cynnwys awgrymiadau, ac mae eu maint yn awgrymu faint mae’n rhaid i’r dysgwyr ei ysgrifennu. Bydd y dysgwyr yn gludo’r stribedi ar ymyl llyfr gwaith ac yn ysgrifennu eu hatebion wrth ymyl yr adrannau, mewn brawddegau llawn. Ar ôl i’r dysgwyr orffen defnyddio’r stribed strwythur, dylai fod ganddynt set o dudalennau A4 yn llawn nodiadau ac enghreifftiau.

Mae pum stribed ar dudalen a bydd angen eu torri i’r maint cywir ar ôl eu hargraffu. Maent ar ail dudalen y daflen i fyfyrwyr.

Sgaffaldio

Er mwyn rhoi rhagor o gymorth i’r dysgwyr i ateb y cwestiynau, gallwch gynnwys rhestr o eiriau allweddol neu ychwanegu awgrymiadau at y stribed strwythur.

Wrth i’r dysgwyr fagu hyder, mae’n bosibl y byddant yn gallu ateb y cwestiwn heb y stribed strwythur neu roi cynnig ar y cwestiwn yn gyntaf ac yna defnyddio’r stribed strwythur i wella neu i hunanasesu eu hateb.

Metawybyddiaeth

Mae’r gweithgaredd hwn yn helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol mewn tri maes allweddol.

  • Cynllunio: mae’r stribedi’n darparu sgaffaldiau i gynllunio’r ymateb ysgrifenedig. Bydd y dysgwyr yn penderfynu o ble i gasglu gwybodaeth (gwerslyfrau, eu nodiadau eu hunain, gwefannau adolygu). Gofynnwch i’r dysgwyr: ydy’r ffynhonnell wybodaeth rydych chi’n ei defnyddio yn ddibynadwy?
  • Monitro: mae’r cwestiynau yn y stribed strwythur yn rhoi awgrymiadau i’r dysgwyr ac maent yn gallu gwirio eu hateb yn erbyn yr awgrymiadau. Gofynnwch i’r dysgwyr: ydych chi wedi rhoi sylw i’r holl gwestiynau yn y lle gwag sydd wedi’i ddarparu? Oes angen i chi newid unrhyw beth er mwyn cwblhau’r dasg?
  • Gwerthuso: gall y dysgwyr hunanasesu neu ofyn i gyd-ddysgwr wirio eu gwaith yn erbyn yr atebion. Gofynnwch i’r dysgwyr: wnaethoch chi gyflawni’r hyn roeddech chi’n bwriadu ei gyflawni? Beth gallech chi ei wneud yn wahanol y tro nesaf?

Geiriau allweddol

Bondio, cofalent, cyfyngiad, moleciwl, polymer.

Cwestiwn dilynol

Dylai’r dysgwyr ateb y cwestiwn hwn ar ôl iddynt roi cynnig ar y stribed strwythur. Mae’r stribed strwythur yn ysgogi’r wybodaeth ofynnol y gall y dysgwyr ei defnyddio wedyn i ateb y cwestiwn.

Mae’r ffotograff yn dangos moleciwl bach wedi’i adeiladu gyda Molymods®.

ethane_U1A8797

Source: Royal Society of Chemistry

Rhowch fformiwla’r moleciwl a lluniadwch y moleciwl ar ffurf:

(a) Diagram dot a chroes

(b) Diagram pêl a ffon

(c) Fformiwla sgerbydol neu adeileddol

Atebion

Rhoddir atebion posibl ar gyfer y gweithgaredd stribed strwythur yn y nodiadau i athrawon y gellir eu lawrlwytho

Atebion i’r cwestiwn dilynol:

Fformiwla ethan yw C2H6. (gwnewch yn siŵr bod y dysgwyr yn rhoi’r rhifau ar ffurf is-nodau)

(a) Diagram dot a chroes:

Ethane-01

Source: Royal Society of Chemistry

(b) Diagram pêl a ffon: 

IMAGE 2 SS Covalent bonding CYM

Source: Royal Society of Chemistry

(c) Fformiwla sgerbydol neu adeileddol:

2_ethane

Source: Royal Society of Chemistry