Adolygwch ddealltwriaeth eich dysgwyr o syniadau, geiriau ac ymadroddion allweddol sy’n ymwneud â chemeg feintiol
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys tri fersiwn o daflen waith ar gemeg feintiol: un wedi’i sgaffaldio, un wedi’i sgaffaldio’n rhannol ac un heb ei sgaffaldio. Defnyddiwch y taflenni gwaith i nodi camsyniadau a bylchau yng ngwybodaeth y dysgwyr ar ôl addysgu’r pynciau hyn neu cyn ailedrych arnynt. Dysgwch ragor am sut mae defnyddio’r adnodd hwn neu lawrlwythwch y taflenni gwaith nawr.
-
Lawrlwythwch
Lawrlwythwch y taflenni gwaith wedi eu sgaffaldio, wedi eu sgaffaldio’n rhannol a heb eu sgaffaldio i fyfyrwyr.
Mae atebion enghreifftiol ar gael yn y canllawiau i athrawon.
Gweld a lawrlwytho rhagor o daflenni gwaith Adolygu fy nysgu
Pynciau’r cwricwlwm
Mae’r taflenni gwaith cemeg feintiol yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
- atomau a moleciwlau
- elfennau a chyfansoddion
- adweithyddion a chynhyrchion mewn hafaliad cemegol
- fformiwla gemegol syml
- deddf cadwraeth màs
- ysgrifennu hafaliadau geiriau syml
- ysgrifennu hafaliadau symbolau cytbwys syml
- cyfrifo màs adweithydd neu gynnyrch mewn adwaith cemegol gan wybod yr holl fasau eraill sy’n adweithio.
Os bydd y dysgwyr yn ateb cwestiynau am y pynciau hyn yn llwyddiannus, gallant roi cynnig ar y cwestiynau estyn. Mae’r rhain yn cynnwys:
- defnyddio’r tabl cyfnodol i ganfod masau atomig cymharol elfennau a enwir
- cyfrifo màs fformiwla cymharol.
Sut mae defnyddio’r adnodd hwn
Gellir defnyddio’r taflenni gwaith mewn sawl ffordd:
- i asesu gwybodaeth y dysgwyr ar ddechrau neu ddiwedd cyfnod o addysgu. Parwch lefel y daflen waith ag anghenion cymorth y dysgwyr;
- i asesu gwybodaeth yn ystod cyfnod o addysgu ar ôl i’r dysgwyr gwblhau’r pwnc perthnasol;
- fel rhan o’r adolygu;
- fel ymarfer gloywi ar gyfer athrawon neu bobl nad ydynt yn arbenigo yn y pwnc.
Sgaffaldio
Mae tair lefel o gymorth ar gael, gan ddarparu opsiynau yn dibynnu ar anghenion cymorth amrywiol y dysgwyr. Darperir fersiwn y gellir ei olygu o bob taflen waith, gan roi rhagor o gyfleoedd i addasu’r adnoddau i ddiwallu anghenion dysgu unigolion. Hefyd, mae modd cynyddu lefel y taflenni gwaith a ddefnyddir, wrth i’r dysgwyr symud ymlaen drwy eu cwricwlwm.
Dysgu annibynnol a metawybyddiaeth
Mae’r dudalen ‘Beth ydw i’n ei ddeall?’ yn cael ei chynnwys ym mhob taflen waith. Mae’r dysgwyr yn cael eu hannog i ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol a gallant ddefnyddio eu myfyrdod fel canllaw ar gyfer adolygu. Bydd yr adborth hefyd yn eich helpu i adnabod meysydd y mae angen rhoi sylw iddynt gyda’r dosbarth cyfan.
Atebion
Mae’r canllawiau i athrawon yn rhoi atebion enghreifftiol ar gyfer pob taflen waith, yn ogystal ag arweiniad ar gamsyniadau cyffredin y dysgwyr. Gall y dysgwyr ddefnyddio’r atebion enghreifftiol i hunanasesu neu i asesu eu cyd-ddysgwyr.
Rhagor o adnoddau
- Edrychwch ar gadwraeth màs gyda dau arbrawf yn y fideo hwn a’r adnoddau ategol sy’n archwilio’r cysyniad.
- Defnyddiwch yr arddangosiad hwn i ymarfer pwyso nwyon i gyfrifo eu masau moleciwlaidd cymharol gan ddefnyddio’r hafaliad nwy delfrydol
- Rhowch fwy o gyd-destun ac ysbrydolwch eich dysgwyr gyda’n fideos gyrfaoedd byr sy’n dangos sut mae cemeg yn Gwneud gwahaniaeth.
Downloads
Cemeg feintiol: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.36 mbCemeg feintiol: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.42 mbCemeg feintiol: taflen myfyriwr wedi ei rhannol sgaffaldio
Handout | PDF, Size 0.45 mbCemeg feintiol: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Handout | PDF, Size 0.53 mbCemeg feintiol: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.19 mbCemeg feintiol: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.23 mbCemeg feintiol: taflen myfyriwr wedi ei rhannol sgaffaldio
Editable handout | Word, Size 0.24 mbCemeg feintiol: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Editable handout | Word, Size 0.27 mb




No comments yet