Dangos i’r myfyrwyr sut gall graffen leihau difrod lliw o ganlyniad i belydriad ac ocsidiad

Crynodeb un sleid o’r erthygl hon gyda chwestiynau i’w defnyddio gyda’ch myfyrwyr 14–16 oed: rsc.li/3lvOAWk

Gall haen dryloyw o graffen, dim ond ychydig o atomau o drwch, atal pigmentau mewn paentiadau rhag pylu drwy eu hamddiffyn rhag golau uwchfioled, lleithder a llygryddion yn yr aer.

Mae ymchwilwyr yn awgrymu y gall gorchudd graffen atal hyd at 70% o liw rhag pylu. Er bod union lefel yr amddiffyniad yn dibynnu ar y lliwiau ac is-haen y pigmentau, ‘mae hyn yn cyfateb i tua 200 mlynedd o aramlygiad o dan yr amodau a geir mewn amgueddfeydd’, meddai arweinydd yr astudiaeth, Costas Galiotis o Sefydliad Ymchwil a Thechnoleg Hellas yng Ngwlad Groeg.

‘Mae graffen yn amsugno cryn dipyn o olau uwchfioled, yn dibynnu ar nifer yr haenau, ac mae’n rhwystr da iawn yn erbyn ocsigen a lleithder,’ eglura Costas. ‘Mae’n atal y lliwiau rhag pylu drwy leihau pelydriad niweidiol yn ogystal ag atal trylediad cyfryngau ocsidio.’

Defnyddiodd yr ymchwilwyr beiriant i roi’r gorchudd ar baentiad gan ddefnyddio dellt graffen atomig-denau a gafodd eu tyfu drwy ddyddodi anwedd ar is-haen gopr a’u trosglwyddo i haen adlynol. Mae dau roler yn gwasgu’r paentiad a’r ffilm at ei gilydd yn ysgafn, ac yna’n tynnu’r ffilm, gan adael dim ond yr haen graffen.

I brofi’r gorchudd, aeth yr ymchwilwyr ati i greu proses heneiddio artiffisial: gan ddod â disgiau lliw wedi’u hamddiffyn gan haenau o graffen i gysylltiad â lefelau uchel o olau, cynhesrwydd a lleithder. Fe wnaethant hefyd archwilio’r effeithiau ar baentiad – inc Indiaidd ar bapur sgleiniog – gan orchuddio un hanner gyda’u gorchudd graffen a gadael yr hanner arall heb ei amddiffyn. Ar ôl i’r llun gael ei adael yn y siambr heneiddio am fwy na 1000 awr, roedd lliwiau’r hanner heb amddiffyniad yn amlwg wedi pylu amlwg ond roedd y lliwiau a amddiffynnwyd gan y gorchudd graffen wedi aros yn gryf.

Rhowch hyn mewn cyd-destun

Ychwanegwch gyd-destun a thynnu sylw at yrfaoedd amrywiol gyda’n fideos gyrfa byr sy’n dangos sut mae cemeg yn gwneud gwahaniaeth. Hefyd, gadewch i’ch dysgwyr gael eu hysbrydoli gan gemegwyr fel Lucia, gwyddonydd mewn amgueddfa.

Darllenwch y stori lawn yn Chemistry World.

Downloads