Archwiliwch foleciwlau cofalent syml a hydrocarbonau gyda’r gyfres hon o weithgareddau
Dylai’r adnodd gymryd tua thair awr i’w gwblhau i gyd. Defnyddiwch yr adnodd mewn cyfres o wersi wedi’u hamserlennu, clybiau gwyddoniaeth neu yn ystod diwrnod gweithgaredd. Cafodd ei greu yn wreiddiol ar gyfer dysgwyr 14–16 oed, ond byddai modd ei addasu i gefnogi adolygu neu bontio ar gyfer dysgwyr yn y cam nesaf.
Defnyddiwch yr adnodd mewn cyfres o wersi cemeg wedi’u hamserlennu, clybiau gwyddoniaeth neu yn ystod diwrnod gweithgaredd.
Amcanion dysgu
- Egluro sut mae bond cofalent yn cael ei ffurfio rhwng dau atom.
- Adeiladu modelau ar gyfer o leiaf dri hydrocarbon.
- Lluniadu’r adeileddau graffig ar gyfer tri alcan a thri alcen.
- Cyfrifo’r adeileddau ar gyfer o leiaf ddau grŵp gweithredol ychwanegol a lluniadu eu fformiwlâu graffig.
Canllaw
Defnyddiwch y sleidiau PowerPoint i adolygu bondio cofalent, gan ddefnyddio carbon a hydrogen fel enghreifftiau. Cynhaliwch Weithgareddau 1 a 2 ar hydrocarbonau mewn grwpiau bach i weld beth mae’r dysgwyr yn ei wybod ar ddechrau’r diwrnod, gan ailadrodd y prif ddiffiniadau ac adeileddau.
Mae angen citiau Molymod ar gyfer Gweithgaredd 3. Arddangoswch sut mae’r cit Molymod yn gweithio drwy wneud model o atom hydrogen. Gwnewch y cysylltiad rhwng y fformiwla foleciwlaidd, y fformiwla adeileddol a’r model Molymod wrth ddangos sleid 12. Gwnewch yn siŵr bod y dysgwyr yn gwybod sut mae llenwi’r tabl yn y llyfr gwaith i fyfyrwyr cyn gwneud eu modelau eu hunain o foleciwlau syml. Atgoffwch y dysgwyr sut mae lluniadu cynrychioliad 2D o fformiwla graffig cyn iddynt ddechrau.
Cyflwynwch y syniad o alcanau a chysylltu hyn yn ôl ag olew crai a hydrocarbonau ar ddechrau Gweithgaredd 4. Mewn grwpiau bach, bydd y dysgwyr yn adeiladu modelau o’r pedwar alcan cyntaf ac yn lluniadu eu fformiwlâu graffig. Gofynnwch iddynt adnabod a defnyddio’r patrwm wrth iddynt gynyddu’r atomau carbon a hydrogen.
Erbyn hyn, dylai’r dysgwyr allu cyfrifo’r fformiwla gyffredinol ar gyfer alcan, er y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar rai ohonynt yma. Gallant wedyn ddefnyddio’r fformiwla gyffredinol i ragfynegi’r fformiwlâu ar gyfer pentan, hecsan, heptan ac octan. Gofynnwch iddynt ysgrifennu’r fformiwlâu moleciwlaidd ac adeileddol, ac adeiladu modelau i wirio eu rhagfynegiadau. Anogwch y dysgwyr i gysylltu atomau carbon mewn llinell syth yn gyntaf er mwyn osgoi isomeredd.
Defnyddiwch sleid 34 i drafod adweithiau alcanau gan gynnwys hylosgiad cyflawn ac anghyflawn. Mae Gweithgaredd 5 yn gyfres o arddangosiadau. Rhowch amser i’r dysgwyr gofnodi eu harsylwadau wrth i chi ddangos sut mae defnyddio llosgydd Bunsen, ffrwydrad rheoledig methan a sut mae cynhyrchu swigod methan.
Defnyddiwch y pwyntiau allweddol rhagarweiniol ar gyfer Gweithgaredd 6 yn y sleidiau PowerPoint i egluro beth yw alcenau. Gofynnwch i’r dysgwyr labelu’r bond dwbl mewn alcen ac yna gwneud modelau o alcenau gan ddefnyddio’r citiau Molymod. Gallech gyflwyno isomerau i’r dysgwyr ar y pwynt hwn a dangos rhai o’r adeileddau posibl eraill iddynt, ond nid oes angen iddynt ddeall y cysyniad ar y lefel hon.
Cafodd yr adnodd hwn ei ddatblygu fel rhan o’r prosiect Chemistry for All. Cafodd y prosiect ei sefydlu i archwilio a mynd i’r afael â’r hyn sy’n rhwystro pobl rhag cymryd rhan mewn astudiaeth israddedig cemeg yn y DU drwy brosiect hydredol. Darllenwch y canfyddiadau sy’n berthnasol i athrawon, darparwyr allgymorth, llunwyr polisïau addysg a rhieni yn yr adroddiad cryno, neu lawrlwythwch yr adroddiad ymchwil llawn.
Gallwch gynnal Gweithgaredd 7 fel gwaith ymarferol neu arddangosiad yn y dosbarth o sut mae alcenau’n dadliwio dŵr bromin. Gwnewch yn siŵr bod y dysgwyr yn dilyn yr holl weithdrefnau a’r cyfarwyddiadau diogelwch ar gyfer y gwaith ymarferol yn drylwyr. Defnyddiwch y PowerPoint i grynhoi a thrafod canfyddiadau’r dysgwyr.
Erbyn hyn, dylai’r dysgwyr allu defnyddio’r citiau Molymod yn eithaf hyderus, gan gyfeirio at y fformiwlâu adeileddol a roddir. Efallai fod y term grŵp gweithredol yn newydd i rai dysgwyr, felly cyflwynwch y cysyniad cyn Gweithgaredd 8. Yn y gweithgaredd hwn, gofynnwch i’r dysgwyr adeiladu modelau o foleciwlau gyda gwahanol grwpiau gweithredol ac adnabod pob grŵp drwy roi cylch o’i gwmpas ar y fformiwlâu graffig maent wedi eu lluniadu. Gall y sleidiau PowerPoint helpu i gyflwyno amrywiaeth o gyfansoddion.
Mae’r Cwis cyflym ar ddiwedd y PowerPoint yn crynhoi rhai o’r cysyniadau allweddol. Defnyddiwch y cwestiynau i wirio dealltwriaeth, gyda’r dysgwyr yn ateb ar fyrddau gwyn bach, ar lafar mewn grwpiau bach neu drwy drafodaeth ar gyfer y dosbarth cyfan.
Rhowch y Cwestiynau gwaith cartref i’r dysgwyr eu cwblhau ar ôl y sesiwn.
Dewch o hyd i atebion yr holl weithgareddau yn y nodiadau i athrawon ac ar y sleidiau.
Gyrfaoedd
Roedd y prosiect Chemistry for All wedi canfod bod cydnabod gwerth a phwysigrwydd cemeg, a gwerthfawrogi sut y gall arwain at swyddi diddorol sy’n talu’n dda, yn cysylltu’n gryf â dyheadau dysgwyr yn y dyfodol.
Defnyddiwch y proffiliau swyddi sydd wedi’u hymgorffori yn y PowerPoint i gyflwyno’r dysgwyr i bedwar gwyddonydd sy’n defnyddio eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u cymwysterau cemeg yn eu gyrfaoedd. Rhannwch ein gwefan gyrfaoedd, A Future in Chemistry, gyda dysgwyr er mwyn iddynt weld y gwahanol ddewisiadau astudio sydd ar gael iddynt, dod o hyd i fwy o broffiliau swyddi cemegwyr sy’n gwneud gwahaniaeth, a rhoi cynnig ar ein gêm dewisiadau gyrfa.
Iechyd a diogelwch
Darllenwch ein canllawiau iechyd a diogelwch a chynnal asesiad risg cyn gwneud unrhyw waith ymarferol byw.
Mae’r cyfarpar diogelwch a awgrymir yn cyd-fynd â gofynion CLEAPSS. Gyda sylweddau nad ydynt yn beryglus, gall gwisgo cotiau labordy helpu i amddiffyn dillad. Efallai y bydd y rheolau diogelwch yn wahanol lle rydych chi’n byw felly mae’n werth edrych ar ganllawiau lleol a chanllawiau’r ysgol.
Mae rhagor o brosiectau fel hyn, yn ogystal â gweithgareddau byrrach sy’n addas i wersi gwyddoniaeth sengl neu glybiau, ar gael yn ein Canolfan adnoddau allgymorth.
Downloads
Gweithdy bondiau: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.84 mbGweithdy bondiau: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.84 mbGweithdy bondiau: nodiadau technegydd
Handout | PDF, Size 0.55 mbGweithdy bondiau: sleidiau gwers
Presentation | PDF, Size 2.3 mbGweithdy bondiau: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 1.79 mbGweithdy bondiau: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 1.03 mbGweithdy bondiau: nodiadau technegydd
Editable handout | Word, Size 1.61 mbGweithdy bondiau: sleidiau gwers
Presentation | PowerPoint, Size 2.74 mb
Additional information
Cafodd yr adnodd hwn ei ddatblygu’n wreiddiol gan Brifysgol John Moores Lerpwl i gefnogi gwaith allgymorth a gyflwynwyd fel rhan o brosiect Chemistry for All.




No comments yet