Cyn bo hir, bydd eich dysgwyr 14–16 oed yn yn gallu cynrychioli’r grym electrostatig hwn yn hyderus

A ball and stick model for an ionic crystal

Pan fydd metel ac anfetel yn adweithio, mae’r atom metel yn colli electronau ac yn dod yn ïon â gwefr bositif ac mae’r anfetel yn ennill electronau i ddod yn ïon â gwefr negatif. Bond ïonig yw’r grym atyniad electrostatig cryf rhwng ïon metel ac ïon anfetel oherwydd eu gwefrau dirgroes.

Mae diagram dot a chroes yn un ffordd o fodelu’r trosglwyddo electronau sy’n digwydd yn ystod y broses hon.

Lawrlwytho’r adnoddau

Lawrlwytho’r Cyfan
  • Ionic bonding infographic index image

    Poster ffeithlun a thaflen ffeithiau

    Arddangoswch y poster yn eich ystafell ddosbarth neu ar daflunydd. Neu gallwch ei argraffu a’i ddefnyddio fel taflen i’w dosbarthu.

    • Y poster ar ffurf pdf
    • Y daflen ffeithiau ar ffurf MS Word neu pdf
  • Ionic bonding resources index image

    Adnoddau diagramau dot a chroes bondio ïonig

    Defnyddiwch y matiau cysylltiedig y gellir eu hailddefnyddio a’r daflen waith i roi digon o ymarfer i’ch dysgwyr.

    • Y matiau a’r daflen waith bondio ïonig ar ffurf MS Word neu pdf
    • Yr atebion a’r nodiadau i athrawon ar ffurf MS Word neu pdf

Sut mae lluniadu diagram dot a chroes ar gyfer magnesiwm ocsid

Mae magnesiwm yn fetel yng ngrŵp dau y tabl cyfnodol, felly bydd yn ffurfio ïon 2+. Mae ocsigen yn anfetel yng ngrŵp chwech y tabl cyfnodol, felly bydd yn ffurfio ïon 2-.

Oeddech chi’n gwybod …?

  • Mae rhif y grŵp yn y tabl cyfnodol yn dweud wrthych chi faint o electronau sydd ym mhlisgyn allanol yr atom. Gallwch ddefnyddio hwn i gyfrifo gwefr yr ïon.
  • Mae’r wefr yn cael ei dosbarthu drwy’r ïon i gyd, ac mae’r bachau petryal yn dynodi hyn.
  • Mewn cyfansoddyn ïonig, nid â’r ïon y rhoddodd electronau iddo yn unig y mae’r ïon metel yn ffurfio bond. Mae’n ffurfio bondiau ïonig cryf ag ïonau sydd â gwefr ddirgroes ac sy’n ffitio’n ddigon agos ato yn y ddellten ïonig.
  • Nid yw magnesiwm ocsid yn hydawdd mewn dŵr oherwydd nid yw’r atyniad rhwng y moleciwlau dŵr polar a’r ïonau yn ddigon cryf i dorri’r bondiau ïonig rhwng yr ïonau magnesiwm ac ocsigen.

Lluniadu cyfansoddion ïonig mwy cymhleth

Mewn magnesiwm ocsid, mae’r gwefrau ar yr ïonau metel ac anfetel yn hafal a dirgroes. Beth sy’n digwydd pan nad yw’r gwefrau ar yr ïonau yn hafal o ran maint? Mewn alwminiwm ocsid, y wefr ar yr ïonau metel positif yw 3+ a’r wefr ar yr ïonau ocsid negatif yw 2-. Dyma rai ffyrdd gwahanol o luniadu alwminiwm ocsid (Al2O3).

Pob darlun © Dan Bright

Eisiau rhagor o ganllawiau cam wrth gam? Edrychwch ar yr erthyglau hyn gydag adnoddau ar: