Anogwch eich myfyrwyr gyda’r dull cam wrth gam hwn ar gyfer bondio cofalent

Modelau moleciwl cartŵn a diagramau plisgyn electronau

Source: © Dan Bright

Ar ôl iddynt feistroli diagramau ffurfwedd electronau, dangoswch i’ch dysgwyr sut maent yn gallu eu haddasu i ddangos adeiledd a bondio mewn cyfansoddion cofalent ac ïonig. Mae’r diagramau adeileddol hyn yn darlunio electronau’r plisgyn allanol, neu’r electronau falens, yn unig. Eu henw yw diagramau dot a chroes. Mae electronau o wahanol atomau yn defnyddio symbolau eiledol, dot a chroes fel arfer, i ddangos o ba atom daw’r electronau.

Dewch i ni edrych yn fanylach ar rai cyfansoddion sy’n cynnwys nitrogen. Cofiwch fod gan nitrogen bum electron yn ei blisgyn allanol.

Sut mae lluniadu diagram dot a chroes ar gyfer amonia

Mewn NH3, neu amonia fel mae’n cael ei alw’n gyffredin, mae nitrogen yn ffurfio tri bond cofalent sengl gyda thri atom hydrogen.

Y dull hwn yw’r hawsaf ar gyfer bondiau cofalent sengl gan nad oes llawer o le ar gyfer lluniadu llawer o barau o electronau lle mae plisg yr atomau’n cyffwrdd.

Lawrlwytho’r adnoddau

Lawrlwytho’r Cyfan
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Poster ffeithlun a thaflen ffeithiau

    Arddangoswch y poster yn eich ystafell ddosbarth neu ar daflunydd. Neu gallwch ei argraffu a’i ddefnyddio fel taflen i’w dosbarthu.

    • Y poster ar ffurf pdf
    • Y daflen ffeithiau ar ffurf MS Word neu pdf
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Covalent bonding tiles worksheet

    Defnyddiwch y daflen ffeithiau gysylltiedig a’r daflen waith i gael eich myfyrwyr i ymarfer diagramau dot a chroes. Ewch i’r adnodd cysylltiedig i gael rhagor o wybodaeth am sut mae defnyddio’r Teils bondio cofalent

    • Y daflen waith teils bondio cofalent i fyfyrwyr ar ffurf MS Word neu pdf
    • Yr atebion a’r nodiadau i athrawon ar gyfer teils bondio cofalent ar ffurf MS Word neu pdf

Sut mae lluniadu bondiau dwbl a thriphlyg

Mae’r dull cyntaf (cefndir glas) yn ddefnyddiol ar gyfer bondiau dwbl a thriphlyg gan ei fod yn rhoi mwy o le i luniadu electronau. Mae’r ail ddull (cefndir pinc) yn ddefnyddiol ar gyfer gwneud yn siŵr eich bod wedi lluniadu’r nifer cywir o electronau ym mhlisgyn allanol pob atom.

Hoffech chi gael canllaw cam wrth gam arall ar luniadu bondiau? Edrychwch ar yr erthygl hon sy’n cynnwys adnoddau ar luniadau diagramau dot a chroes ar gyfer bondio ïonig.

Pob darlun © Dan Bright