Rhowch hwb i hyder eich myfyrwyr 14–16 oed wrth luniadu diagramau ffurfwedd electronau gyda’r camau hawdd eu dilyn hyn

Mae diagram ffurfwedd electronau yn fodel sy’n darlunio safle electronau wrth iddynt orbitio niwclews atom. Cynrychiolir yr electronau gan ddotiau neu groesau ac maent wedi’u lleoli mewn lefelau egni, neu ‘blisg’, o amgylch y niwclews canolog. Gelwir hwn weithiau’n fodel Bohr, neu’n fodel ‘cysawd yr haul’.

Lawrlwytho’r adnoddau

Lawrlwytho’r Cyfan
  • Index image electron configuration CYM

    Poster ffeithlun a thaflen ffeithiau

    Arddangoswch y poster yn eich ystafell ddosbarth neu ar daflunydd. Neu gallwch ei argraffu a’i ddefnyddio fel taflen i’w dosbarthu.

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Taflenni gwaith Ffwdan ffurfwedd

    Defnyddiwch y taflenni gwaith cysylltiedig i addysgu eich myfyrwyr i luniadu diagramau ffurfwedd

    • Ffwdan ffurfwedd – taflen waith i fyfyrwyr fe MS Word neu pdf
    • Atebion Ffwdan ffurfwedd fel MS Word neu pdf

Ym model Bohr, mae rhai rheolau a fydd yn eich helpu i luniadu diagramau cywir.

  • Rhaid i electronau fod yn y plisgyn isaf sydd ar gael, yr un agosaf at y niwclews.
  • Uchafswm yr electronau a all lenwi pob plisgyn yw:
    • dau yn y plisgyn cyntaf,
    • wyth yn yr ail blisgyn,
    • wyth yn y trydydd plisgyn.
  • Mae gan galsiwm, yr 20fed elfen, ddau electron arall sy’n mynd i’r pedwerydd plisgyn.

Yn y nodiant llaw-fer ar gyfer ffurfwedd electronau, gellir ysgrifennu nifer yr electronau ym mhob plisgyn yn hytrach na’u lluniadu. Caiff pob plisgyn ei wahanu gan atalnod llawn neu goma. Ar gyfer nitrogen, byddai hyn yn 2.5 neu 2,5 ac ar gyfer calsiwm byddai hyn yn 2.8.8.2 neu 2,8,8,2.

Oeddech chi’n gwybod …?

Mae trefniant electronau elfen yn dweud wrthych ymhle y mae’r elfen wedi’i lleoli yn y tabl cyfnodol. Mae nifer y plisg yn dangos ym mha gyfnod, neu res, y mae’r elfen ac mae nifer yr electronau yn y plisgyn allanol yn dangos ym mha grŵp y mae’r elfen.

Sut i luniadu diagram ffurfwedd electronau

Yn awr, lluniadwch yr 20 elfen gyntaf

Hoffech chi gael canllawiau cam wrth gam eraill ar luniadu bondiau? Edrychwch ar yr erthyglau hyn sy’n cynnwys adnoddau ar luniadu diagramau dot a chroes ar gyfer:

Pob darlun © Dan Bright