Mae tasgau cemeg ymarferol ar raddfa fach ac ar raddfa ficro yn cynnig digon o amrywiaeth a chyfle i fireinio sgiliau arsylwi

Gan ddilyn cyfarwyddiadau integredig, bydd y dysgwyr yn arsylwi trylediad nwy clorin. Darllenwch ein herthygl Sut mae addysgu cyflyrau mater a damcaniaeth gronynnau am ragor o gymorth a syniadau i addysgu’r pwnc hwn.

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi, cydosod a chynnal yr arbrawf hwn gyda'ch dysgwyr:

Amcanion dysgu

  1. Gwneud arsylwadau manwl a chywir o’r newidiadau mewn lliw sy’n gysylltiedig â’r adwaith hwn.
  2. Defnyddio eich arsylwadau i gasglu beth sy’n digwydd yn ystod y broses dryledu.

Cyfarpar (fesul grŵp)

Y cemegion i’w cyflenwi mewn poteli diferydd 10 ml:

  • Hydoddiant cannu sy’n seiliedig ar glorin (hydoddiant 50% neu ~0.25 mol dm-3) neu sodiwm hypoclorit (2.5% w/v), 2 ddiferyn
  • Hydoddiant startsh (hydoddiant 1%), 15 diferyn
  • Asid hydroclorig (1 mol dm-3), 15 diferyn
  • Potasiwm ïodid (0.2 mol dm-3), 15 diferyn
  • Allbrint A4 o’r cyfarwyddiadau integredig (wedi ei lamineiddio neu mewn waled blastig)
  • Pibedau Pasteur x 3
  • Tywelion papur
  • Dysgl Petri a chaead

Cyfarpar diogelwch

  • Cyfarpar amddiffyn y llygaid: sbectol diogelwch EN166 F

Nodiadau iechyd a diogelwch a nodiadau technegol

  • Darllenwch ein canllawiau iechyd a diogelwch safonol a chynnal asesiad risg cyn gwneud unrhyw waith ymarferol byw. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â’r ymgynghorydd iechyd a diogelwch yn eich ysgol.
  • Cyfeiriwch at SSERC/CLEAPSS neu ffynhonnell ddibynadwy arall i gael canllawiau llawn ar asesu risgiau. Gall y dosbarthiad peryglon amrywio yn dibynnu ar y cyflenwr.
  • Drwy ddefnyddio cyfeintiau bach iawn o’r hydoddiannau a chaead dysgl Petri i reoli’r arbrawf, ychydig iawn o nwy clorin sy’n cael ei ryddhau i’r ystafell ddosbarth, ond bydd rhywfaint ohono’n dal i fod yn bresennol yn yr amgylchedd. I leihau’r risg hon, gwnewch yn siŵr eich bod yn gweithio mewn man sydd wedi ei awyru’n dda. Mae nwy clorin yn ocsidio, yn docsig ac yn beryglus i’r amgylchedd, gweler HC022 CLEAPSS.
  • Gwisgwch gyfarpar amddiffyn y llygaid (sbectol diogelwch EN166 F).
  • Golchwch eich dwylo ar ôl cwblhau’r dasg ymarferol.

Darllenwch y nodiadau i dechnegwyr i gael gwybodaeth lawn am ddiogelwch, paratoi a gwaredu.

Rhagor o adnoddau

  • Mae ein casgliad ar raddfa ficro yn cynnwys mwy o wybodaeth ac awgrymiadau, yn ogystal â llawer mwy o arbrofion ar raddfa ficro.
  • Helpwch y dysgwyr i gysylltu’r arsylwadau â’r theori gyda gweithgareddau a dulliau defnyddiol i ddyfnhau eu dealltwriaeth ar lefelau macrosgopig, is-ficrosgopig a symbolaidd.
  • Darllenwch ein herthygl DPP i ddeall sut i ymgorffori’r dasg ymarferol hon pan fyddwch yn addysgu cyflyrau mater.
  • Dysgwch sut mae Giorgia yn defnyddio ei gwybodaeth am gemeg yn ei swydd wrth iddi ddatblygu labeli bwyd clyfar i leihau gwastraff bwyd.

Cydosod y cyfarpar

Sicrhewch fod y cannydd yn gymysgedd sy’n seiliedig ar glorin yn hytrach na hydoddiant sy’n seiliedig ar ocsigen ac nad yw’n cynnwys hydrocsidau, sy’n gallu lleihau cynhyrchiant clorin. Cofiwch wirio’r labeli rhybudd perygl sydd ar yr hydoddiant cannu penodol rydych chi’n ei ddefnyddio, ac asesu’r risg yn unol â hynny.

Sylwch mai oes silff gyfyngedig sydd gan sodiwm hypoclorit ac y bydd ei grynodiad yn gostwng dros amser, yn enwedig os caiff ei gadw mewn amgylchedd cynnes. Gwiriwch fod yr arbrawf yn cynhyrchu digon o nwy clorin i allu arsylwi newid lliw. Os nad ydyw, gallwch gynyddu nifer y diferion o sodiwm hypoclorit 2.5% (w/v) cyn belled â bod yr hydoddiannau’n ffitio yn llestr yr adwaith.

Os nad oes digon o glorin yn cael ei gynhyrchu a bod llestr yr adwaith yn llawn, defnyddiwch hydoddiant 5% (w/v) o sodiwm hypoclorit i’r athro ei ddosbarthu, gan nad yw hwn yn addas i ddysgwyr o dan flwyddyn 12. Cynhaliwch asesiad risg diwygiedig gydag addasiadau digonol i’r mesurau rheoli, fel gwisgo goglau diogelwch i amddiffyn y llygaid neu gynnal yr arbrawf fel arddangosiad o dan ddelweddwr.

Gall y dysgwyr gynnal yr arbrawf ar gopi wedi ei lamineiddio o’r cyfarwyddiadau integredig, ar gopi wedi ei roi mewn waled blastig, neu mewn dysgl Petri sydd wedi ei gosod dros y daflen. Mae gan allbrint A4 y tu mewn i waled blastig well tyniant arwyneb o’i gymharu â thempled wedi ei lamineiddio.

Dull

  1. Ychwanegwch un diferyn o botasiwm ïodid at bob cylch gwyn.
  2. Yna, ychwanegwch un diferyn o startsh at bob cylch gwyn. Dangosydd yw startsh, a bydd yn troi’n ddu-las wrth iddo adweithio â’r ïodin sy’n cael ei ddadleoli gan y nwy clorin.
  3. Ychwanegwch ddau ddiferyn o hydoddiant cannu at y cylch llwyd.
  4. Ychwanegwch ddau ddiferyn o asid hydroclorig at y cylch llwyd.
  5. Ewch ati’n ofalus i roi dysgl Petri wedi ei throi drosodd (neu gaead os ydych chi’n defnyddio dysgl Petri dros y cyfarwyddiadau integredig) dros y grid, ac arsylwi.

Canlyniadau disgwyliedig

The completed experiment: the three drops nearest the grey circle are dark blue/black, around them the drops are lighter in colour - the furthest drops are colourless

Ffynhonnell: Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol

Ar ôl ychydig funudau, gall y dysgwyr arsylwi’r graddiant tryledu

Cynhyrchir nwy clorin o’r diferyn cannydd/asid, ac mae’n tryledu i ffwrdd o’r cylch llwyd. Mae’r clorin yn hydoddi i’r diferion ïodid/startsh. Mae clorin yn dadleoli’r ïodin, gan ffurfio’r cymhlygyn ïodin/startsh glas tywyll/du. Dylai’r dysgwyr arsylwi’r diferion ïodid/startsh cyfagos yn troi’n hollol las/du. Mae’r diferion sydd ymhellach i ffwrdd o’r cylch llwyd yn cymryd mwy o amser i newid lliw ac yn newid llai, gan ddangos y graddiant tryledu.

Gwybodaeth am waredu

Pan fydd yr adwaith wedi dod i ben, sychwch y diferion â thywel papur a chael gwared ar y tywel papur drwy ddulliau casglu gwastraff y labordy.

Cyngor i dechnegwyr: rhowch y tywelion papur/cadachau mewn bwced o ddŵr cyn cael gwared arnynt. Mae hyn yn gwanedu’r clorin ac yn atal y myfyrwyr neu’r athrawon rhag mewnanadlu ychydig o glorin yn ddamweiniol wrth agor caead y bin.

Downloads