Darllenwch am newid cyflwr prinder dŵr i ddeall y byd o’n cwmpas
Mae’r adnodd darllen a deall hwn yn seiliedig ar stori newyddion am ymchwil gwyddoniaeth a ddewiswyd oherwydd ei bod yn berthnasol i bwnc cwricwlwm y model atomig. Bydd y dysgwyr yn mynd ati i ymwneud â thestun syml am erthygl ymchwil.
-
Lawrlwythwch
Taflen waith, sleidiau a thempled sgript darllen a deall ar gyfer y dasg estyn, yn ogystal â nodiadau i athrawon gydag atebion enghreifftiol a chanllawiau.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Adnoddau darllen a deall
Amcanion dysgu
- Defnyddio strategaethau darllen gweithredol i’ch helpu i ddeall stori newyddion am wyddoniaeth.
- Defnyddio’r eirfa i’ch helpu i ddeall geiriau anghyfarwydd.
- Gwybod pa wybodaeth allweddol i chwilio amdani wrth ddarllen stori newyddion am wyddoniaeth.
- Deall sut mae pobl yn ysgrifennu am wyddoniaeth yn wahanol, yn dibynnu ar eu cynulleidfaoedd.
- Ar gyfer estyn – siarad yn hyderus am y stori newyddion am wyddoniaeth, gan ystyried eich cynulleidfa.
Mae cwestiynau 1–3 ar y daflen i fyfyrwyr yn cefnogi amcanion dysgu 1 a 2. Mae cwestiwn 6 yn cefnogi amcan dysgu 3. Mae cwestiynau 7–9 yn cefnogi amcan dysgu 4 ac mae’r dasg estyn ‘Cyflwyno’r newyddion’ yn cefnogi amcan dysgu 5.
Cyflwyniad
Mae Education in Chemistry wedi casglu a chrynhoi cyfoeth o straeon newyddion am ymchwil gwyddoniaeth. Mae’r adnodd darllen a deall hwn yn seiliedig ar un o’r straeon hyn sy’n berthnasol i bwnc y model atomig.
Mae’r adnodd yn cynnwys:
- Taflen waith darllen a deall – crynodeb syml o erthygl ymchwil gyda chwestiynau i brofi dealltwriaeth a geirfa
- Sleidiau Cyflwyno’r newyddion – cyfarwyddiadau ar gyfer y dasg estyn, ynghyd ag awgrymiadau a chwestiynau myfyrio.
- Sgript Cyflwyno’r newyddion – templed sgript i’r dysgwyr ysgrifennu ynddo mewn grwpiau, a thabl i fyfyrio ar gyflwyniadau’r dosbarth
- Nodiadau i athrawon – gan gynnwys atebion enghreifftiol a chanllawiau ar gyfer pob gweithgaredd
Termau allweddol
Cyddwyso, crisial, nwy, gronyn, solid, sychdarthau.
Archwiliwch ein casgliad llythrennedd mewn addysgu gwyddoniaeth
Edrychwch ar ein hadnoddau cymorth llythrennedd diweddaraf ynghyd â’n casgliad gofalus o erthyglau a gweithgareddau sy’n barod ar gyfer yr ystafell ddosbarth i’ch helpu i wreiddio llythrennedd yn y gwersi sydd gennych eisoes.
Sut mae defnyddio’r adnodd hwn
Mae rhifau llinellau ar destun y stori er mwyn i chi allu cyfeirio dysgwyr yn hawdd at rannau penodol o’r testun.
Modelu darllen gweithredol
Darllenwch y stori yn uchel gyda’ch dysgwyr a’u hannog drwy gydol y broses i ymwneud yn weithredol â’r testun. Gallwch ofyn:
- ‘Beth ydych chi’n meddwl fydd yn digwydd nesaf?’
- ‘Sut byddech chi’n aralleirio’r hyn sydd newydd gael ei ddweud?’
- ‘Beth yw testun y stori newyddion hon?’
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn How to teach reading in science.
Ystyriwch ddefnyddio meddalwedd recordio neu chwarae’n ôl, er mwyn i’r dysgwyr allu gwrando ar y testun ar ddyfais wrth iddynt ddarllen.
Mae cwestiwn 6 yn gofyn i’r dysgwyr ysgrifennu crynodeb o’r stori newyddion ar gyfer eu cyd-ddisgyblion. Gallwch weithio drwy’r cwestiwn hwn fel dosbarth yn gyntaf, cyn gofyn i’r dysgwyr dynnu’r wybodaeth angenrheidiol o’r testun yn annibynnol. Gallwch ofyn i’r dysgwyr farcio crynodebau eu cyd-ddysgwyr.
Geirfa o dermau perthnasol
Mae’r eirfa wedi’i llenwi’n barod â geiriau o’r stori y gallai’r dysgwyr fod angen cymorth â hwy. Mae’r Sefydliad Gwaddol Addysgol yn argymell blaenoriaethu addysgu termau haen 2 a haen 3, y mae dysgwyr yn llai tebygol o’u clywed neu eu darllen y tu allan i’w gwersi gwyddoniaeth.
Mae’r geiriau sydd wedi’u rhestru mewn print trwm yn yr eirfa yn dermau allweddol ac maent yn gysylltiedig â’n hadnoddau cymorth cyfatebol ar gyfer termau allweddol. I roi mwy o her, tynnwch gofnodion allan neu golygwch hwy, ac yna gofynnwch i’r dysgwyr ymchwilio a llenwi’r eirfa.
Adnoddau ategol
I ateb cwestiynau 7 ac 8, bydd angen i’r dysgwyr allu gweld y fersiwn hirach a mwy cymhleth o’r testun darllen a deall. Gallwch ei lawrlwytho a’i argraffu neu ei weld ar-lein yma. Bydd angen i’r dysgwyr gael fersiwn wedi’i argraffu er mwyn ei anodi yng nghwestiwn 7.
Tasg estyn: cyflwyno’r newyddion
Dywedwch wrth y dysgwyr am gyflwyno’r stori newyddion gwyddoniaeth y maent wedi’i darllen fel eitem mewn rhaglen newyddion.
Rhannwch y dysgwyr yn grwpiau o dri neu bedwar a rhoi un o dair rôl i bob un ohonynt – cyflwynydd newyddion, gohebydd, neu wyddonydd. Os oes mwy na thri dysgwr ym mhob grŵp, pennwch fwy nag un gwyddonydd. Mae’n bwysig bod pawb yn dweud rhywbeth yn ystod y cyflwyniad.
- Tafluniwch y sleidiau ‘Cyflwyno’r newyddion’ ar y bwrdd gwyn. Eglurwch y dasg (sleid 2) a rhowch allbrintiau i’r dysgwyr o’r hyn y mae angen i bob rôl ei wneud (sleidiau 3–5).
- Trafodwch y sleid sydd â’r teitl ‘Sut beth yw cyflwyniad da?’ (sleid 6) cyn gwahodd y grwpiau i wneud eu cyflwyniadau (caniatewch bum munud i bob grŵp).
- Rhowch y templed sgript i’r dysgwyr a’u cyfarwyddo i fynd ati fel grŵp i baratoi’r hyn y maent eisiau ei ddweud yn y cyflwyniad. Bydd hyn yn cynnwys darllen y cyflwyniad yn y templed sgript yn gyntaf, a gallwch wneud hyn fel dosbarth os oes angen. Fel canllaw bras, caniatewch tua 45 munud i’r dysgwyr baratoi.
- Dywedwch wrth y dysgwyr lenwi’r daflen adborth ar y templed sgript tra bydd eu cyd-ddisgyblion yn cyflwyno. Ar ôl i bob grŵp wneud eu cyflwyniadau, gofynnwch am fyfyrdodau a gwnewch nodiadau o unrhyw wersi a ddysgwyd ar gyfer y gweithgaredd siarad a gwrando nesaf.
Mae Fframwaith sgiliau llafaredd Oracy Cambridge yn rhoi rhagor o wybodaeth am sgiliau siarad a gwrando.
Metawybyddiaeth
Mae’r adnodd hwn yn cefnogi’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol mewn tri maes allweddol.
Cynllunio
- Mae cwestiwn 6 yn rhoi cyfres o awgrymiadau i’r dysgwyr i sgaffaldio eu crynodeb o’r stori newyddion am wyddoniaeth.
- Mae cyflwyniad y sgript ‘cyflwyno’r newyddion’ yn cynnwys cwestiynau i’r dysgwyr eu gofyn iddynt hwy eu hunain wrth gynllunio’r cyflwyniad, er enghraifft am ddefnyddio delweddau a sut mae cadw at yr amser.
Monitro
- Gofynnwch gwestiynau i’r dysgwyr wrth ddarllen y testun yn uchel (gweler yr adran o’r enw ‘modelu darllen gweithredol’) i’w hannog i fonitro eu dealltwriaeth drwy gydol y dasg.
- Mae’r cwestiynau sy’n profi dealltwriaeth yn annog y dysgwyr i asesu i ba raddau y mae’r strategaethau darllen gweithredol yn eu helpu i ddeall y testun, a pha strategaethau eraill y gallant eu defnyddio i’w helpu i ddeall.
Gwerthuso
- Gofynnwch am adborth ar atebion i’r cwestiynau metawybyddol (yn y blychau coch) ac ewch ati fel dosbarth i lunio ‘canllaw cyflym’ ar strategaethau darllen. Edrychwch eto ar y canllaw cyflym hwn y tro nesaf y byddwch yn gwneud gweithgaredd darllen a deall.
- Wedi iddo gael ei lenwi, defnyddiwch y tabl adborth i fyfyrio fel dosbarth ar gryfderau’r cyflwyniadau a nodwch bethau i weithio arnynt y tro nesaf y byddwch yn gwneud gweithgaredd siarad a gwrando fel dosbarth.
Atebion enghreifftiol a chanllawiau
Mae atebion enghreifftiol ar gyfer pob cwestiwn ar y daflen waith, awgrymiadau uwcholeuo ar gyfer cwestiwn 7 a sgript enghreifftiol i gyflwyno’r newyddion i gyd wedi’u cynnwys yn y nodiadau i athrawon.
Downloads
Y model atomig Darllen a deall: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.23 mbY model atomig Darllen a deall: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.35 mbY model atomig Darllen a deall: templed sgript
Handout | PDF, Size 0.18 mbY model atomig Darllen a deall: sleidiau dosbarth
Presentation | PDF, Size 0.66 mbY model atomig Darllen a deall: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.68 mbY model atomig Darllen a deall: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.62 mbY model atomig Darllen a deall: templed sgript
Editable handout | Word, Size 0.84 mbY model atomig Darllen a deall: sleidiau dosbarth
Presentation | PowerPoint, Size 1.05 mb









No comments yet