Gwyddonwyr yn olrhain yr asteroid oedd yn debygol o fod yn gyfrifol am ddifodiant torfol y dinosoriaid

  • sleidiau dosbarth

    Download this

    Defnyddiwch y stori hon a’r sleid grynhoi ategol i roi cyd-destun byd go iawn wrth astudio isotopau gyda’ch dysgwyr 14–16 oed.

    Lawrlwythwch y stori ar ffurf MS Word neu PDF a’r sleid grynhoi ar ffurf MS PowerPoint neu PDF.

Mae gwaith dadansoddi isotopau wedi datgelu mai math prin o asteroid o’r enw condrit carbonaidd oedd yn gyfrifol am yr ardrawiad a arweiniodd bron yn sicr at ddifodiant y dinosoriaid.

Dinosaurs watch a meteor hit the Earth

Ffynhonnell: © Steve Munsinger/Science Photo Library

Yn ôl ymchwilwyr, fe welodd y dinosoriaid gondrit carbonaidd

Nid oes symiau sylweddol o fetelau gwerthfawr fel platinwm, paladiwm a rwtheniwm yng nghramen y ddaear. Ceir llawer mwy o’r metelau hyn mewn asteroidau a meteoritau. Gall gwyddonwyr bennu amseriad ardrawiadau meteorit drwy chwilio am gynnydd mawr yn symiau’r metel gwerthfawr yn haenau gwahanol cramen y Ddaear. Gall rwtheniwm hefyd roi cliwiau ynghylch tarddiad y meteorit; mae gan rwtheniwm saith isotop sefydlog ac mae gan wahanol wrthrychau allfydol wahanol gymarebau o’r isotopau hyn.

Teithio’n bell

Digwyddodd ardrawiad Chicxulub, y tybir ei fod yn gyfrifol am y difodiant torfol 66 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ychydig bellter o arfordir Mecsico, a gwasgarodd lwch ledled y byd. Dadansoddodd ymchwilwyr dan arweiniad Mario Fischer-Gödde ym Mhrifysgol Köln yn yr Almaen gymarebau isotopau rwtheniwm mewn samplau o gramen y Ddaear sy’n deillio o’r cyfnod hwn. Casglwyd y samplau hyn ar draws Denmarc, yr Eidal a Sbaen.

Canfu’r gwyddonwyr fod y cymarebau isotopau rwtheniwm ar gyfer y samplau o’r gramen i gyd yn cyfateb i’r arwyddion cymhareb ar gyfer condritau carbonaidd. Mae’r rhain yn fath prin o graig llawn carbon sydd o ddiddordeb arbennig oherwydd bod llawer o gosmogemegwyr yn meddwl eu bod yn dangos beth oedd cyfansoddiad cynnar cysawd yr haul. Er bod y mwyafrif helaeth o feteoritau a darodd y Ddaear yn tarddu o’r gwregys asteroidau presennol rhwng orbitau Mawrth ac Iau, ffurfiwyd y condritau carbonaidd mewn rhannau o gysawd yr haul sy’n llawer pellach i ffwrdd.

Mae’r erthygl hon yn addasiad o waith Tim Wogan yn Chemistry World.

 

Ychwanegwch gyd-destun gyrfaoedd gyda’r proffiliau swyddi hyn ar A Future in Chemistry: cemegydd atmosfferig ac astrogemegydd.

Nina Notman

Reference

M Fischer-Gödde et al, Science, 2024, DOI: 10.1126/science.adk4868

Sleid crynodeb gyda chwestiynau ac erthygl i roi cyd-destun wrth addysgu gwersi ar isotopau i fyfyrwyr 14–16 oed: rsc.li/3U5xleS