Mae fformiwlâu a hafaliadau yn ffordd i gemegwyr gyfleu gwybodaeth gemegol yn effeithlon

This resource is also available in English

Mae’r adnodd hwn yn cyd-fynd â’r erthygl How to teach chemical formulas and equations yn Education in Chemistry.

Bydd y gweithgaredd gwers PowerPoint yn eich helpu i gyflwyno enwau a fformiwlâu cyfansoddion anfetel i ddysgwyr ynghyd â’r wybodaeth gemegol sydd ynddyn nhw. Mae’r gweithgaredd yn cynnwys:

  • sut mae enw sylwedd yn gallu dangos yr elfennau sydd mewn cyfansoddyn
  • deall y rhagddodiaid mono-, deu-, tri- ac ati.
  • cyfansoddion sydd ag enwau cyffredin y mae angen eu dysgu, ee, methan
  • cysylltiadau rhwng yr enw a’r fformiwla gemegol a sut mae dod i gasgliad am y naill o’r llall
  • ymarfer rhoi cynnig arni, gydag atebion.

Mae’r ymarfer rhoi cynnig arni ar gael hefyd fel taflen y gellir ei golygu.

Dewch o hyd i fwy o adnoddau addysgu yn y Gymraeg yma.

Downloads