Helpwch y dysgwyr i adalw gwybodaeth am y diagramau a ddefnyddir i gynrychioli bondio ïonig
Mae’r adnodd hwn yn rhan o’n cymorth ar gyfer llythrennedd mewn addysgu gwyddoniaeth, sydd wedi’i ddylunio i wreiddio llythrennedd yn eich cwricwlwm a datblygu sgiliau’r dysgwyr o ran darllen, ysgrifennu a siarad am wyddoniaeth, a’u dealltwriaeth o iaith wyddonol.
-
Lawrlwythwch
Lawrlwythwch y stribedi strwythur (y mae pump ohonynt wedi eu hargraffu ar bob tudalen), i helpu’r dysgwyr i ddod o hyd i wybodaeth neu ei hadalw ac ysgrifennu’n annibynnol.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Stribedi strwythur
Amcanion dysgu
- Disgrifio ffurfiant ïonau.
- Lluniadu diagramau dot a chroes o fondio ïonig ac egluro sut mae dellten ïonig yn cael ei dal at ei gilydd.
- Nodi cyfyngiadau amrywiaeth o fodelau a ddefnyddir i gynrychioli bondio ïonig
Cyflwyniad
Mae bondio ïonig yn digwydd pan fo atomau’n colli ac yn ennill electronau i ffurfio ïonau ac yna mae’r ïonau â gwefr bositif a negatif yn cael eu hatynnu at ei gilydd. Yn y gweithgaredd hwn, bydd y dysgwyr yn dod i ddeall y modelau a’r diagramau a ddefnyddir i gynrychioli hyn, a’u cyfyngiadau.
Sut mae defnyddio stribedi strwythur
Math o sgaffald yw stribedi strwythur, a gallwch eu defnyddio i helpu’r dysgwyr i adalw gwybodaeth yn annibynnol. Defnyddiwch nhw i gael trosolwg ar ddechrau’r pwnc, i ysgogi gwybodaeth flaenorol, neu i grynhoi’r dysgu ar ddiwedd pwnc addysgu. I gael rhagor o syniadau am sut mae defnyddio stribedi strwythur gyda’ch dysgwyr, edrychwch ar 5 ffordd o ddefnyddio stribedi strwythur yn effeithiol
Mae gan y stribedi strwythur adrannau sy’n cynnwys awgrymiadau, ac mae eu maint yn awgrymu faint mae’n rhaid i’r dysgwyr ei ysgrifennu. Bydd y dysgwyr yn gludo’r stribedi ar ymyl llyfr gwaith ac yn ysgrifennu eu hatebion wrth ymyl yr adrannau, mewn brawddegau llawn. Ar ôl i’r dysgwyr orffen defnyddio’r stribed strwythur, dylai fod ganddynt set o dudalennau A4 yn llawn nodiadau ac enghreifftiau.
Mae pum stribed ar dudalen a bydd angen eu torri i’r maint cywir ar ôl eu hargraffu. Maent ar ail dudalen y daflen i fyfyrwyr.
Sgaffaldio
Er mwyn rhoi rhagor o gymorth i’r dysgwyr i ateb y cwestiynau, gallwch gynnwys rhestr o eiriau allweddol neu ychwanegu awgrymiadau at y stribed strwythur.
Wrth i’r dysgwyr fagu hyder, mae’n bosibl y byddant yn gallu ateb y cwestiwn heb y stribed strwythur neu roi cynnig ar y cwestiwn yn gyntaf ac yna defnyddio’r stribed strwythur i wella neu i hunanasesu eu hateb.
Metawybyddiaeth
Mae’r gweithgaredd hwn yn helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol yn y tri maes allweddol:
- Cynllunio: mae’r stribedi’n darparu sgaffaldiau i gynllunio’r ymateb ysgrifenedig. Bydd y dysgwyr yn penderfynu o ble i gasglu gwybodaeth (er enghraifft, gwerslyfrau, eu nodiadau eu hunain, gwefannau adolygu). Gofynnwch i’r dysgwyr: a yw’r ffynhonnell wybodaeth rydych chi’n ei defnyddio yn ddibynadwy?
- Monitro: mae’r cwestiynau yn y stribed strwythur yn rhoi awgrymiadau i’r dysgwyr ac maent yn gallu gwirio eu hateb yn erbyn yr awgrymiadau. Gofynnwch i’r dysgwyr: ydych chi wedi rhoi sylw i’r holl gwestiynau yn y lle gwag sydd wedi’i ddarparu? Oes angen i chi newid unrhyw beth er mwyn cwblhau’r dasg?
- Gwerthuso: gall y dysgwyr hunanasesu neu ofyn i gyd-ddysgwr wirio eu gwaith yn erbyn yr atebion. Gofynnwch i’r dysgwyr: wnaethoch chi gyflawni’r hyn roeddech chi’n bwriadu ei gyflawni? Beth gallech chi ei wneud yn wahanol y tro nesaf?
Geiriau allweddol
Bondio, cyfyngiad, dellten, diagram dot a chroes, electron, ïonau, ïonig, negatif, positif.
Cwestiwn dilynol
Bydd y dysgwyr yn ateb y cwestiwn hwn ar ôl rhoi cynnig ar y stribed strwythur. Mae’r stribed strwythur yn ysgogi’r wybodaeth ofynnol, y gall y dysgwyr ei defnyddio wedyn i ateb y cwestiwn hwn.
Lluniadwch ddiagram dot a chroes i ddangos beth sy’n digwydd pan fo atomau sodiwm ac ocsigen yn adweithio i gynhyrchu sodiwm ocsid. Trafodwch fanteision a chyfyngiadau’r diagram dot a chroes ar gyfer y cyfansoddyn hwn.
Atebion
Rhoddir atebion posibl ar gyfer y gweithgaredd stribed strwythur yn y nodiadau i athrawon y gellir eu lawrlwytho.
Atebion i’r cwestiwn dilynol:

Egluro’r gwefrau: Mae pob ïon sodiwm wedi colli un electron. Nawr mae ganddo 11 proton (gwefr +) a 10 electron (gwefr -), felly mae ganddo wefr gyffredinol o +1 sy’n golygu bod gan yr ïonau wefr o 1+.
Mae’r ïon ocsid wedi ennill dau electron (un o bob un o’r ddau atom sodiwm). Nawr mae ganddo 8 proton (gwefr +) a 10 electron (gwefr -) felly mae ganddo wefr gyffredinol o -2 sy’n golygu bod gan yr ïon wefr o 2-.
Gwerthuso’r modelau: Mae diagramau dot a chroes yn dda gan eu bod yn dangos beth sydd wedi digwydd o ran trosglwyddo electronau ac yn ei gwneud yn glir bod electronau wedi cael eu colli a’u hennill. Maent yn gyfyngedig oherwydd nid ydynt yn dangos yr adeiledd dellten enfawr.
Downloads
Bondio ïonig stribed strwythur: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.19 mbBondio ïonig stribed strwythur: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.37 mbBondio ïonig stribed strwythur: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.46 mbBondio ïonig stribed strwythur: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.61 mb









No comments yet