Helpwch y dysgwyr i ysgrifennu am grynodiad hydoddiannau a thitradiadau yn hyderus drwy ddefnyddio’r awgrymiadau ysgrifennu hyn wedi’u sgaffaldio
Gellir defnyddio stribedi strwythur i hyrwyddo ysgrifennu annibynnol. Yn yr adnodd hwn, mae’r dysgwyr yn ysgrifennu am fasau a chyfeintiau nwy gan ddefnyddio geiriau allweddol, yn disgrifio dulliau o fesur cyfaint nwy, ac yn pennu cynnyrch damcaniaethol a chanrannol.
-
Lawrlwythwch
Defnyddiwch y stribedi strwythur y gellir eu golygu i helpu’r dysgwyr i ganfod neu i adalw gwybodaeth ac i ysgrifennu’n annibynnol am grynodiad hydoddiannau a thitradiadau.
Gweld a lawrlwytho rhagor o Stribedi strwythur
Amcanion dysgu
- Defnyddio termau allweddol (hydoddydd, hydoddyn, crynodedig, gwanedig) yn gywir wrth ddisgrifio hydoddiannau.
- Cofio enwau’r prif ddarnau o gyfarpar a ddefnyddir mewn titradiad.
- Egluro pam defnyddir darnau penodol o gyfarpar a dangosyddion mewn titradiad.
- Rhoi’r camau mewn trefn resymegol i ddisgrifio sut mae cael canlyniadau manwl gywir wrth ysgrifennu am ditradu.
Cyflwyniad
Mae llawer o adweithiau cemegol yn digwydd mewn hydoddiant. Mae ïonau a moleciwlau mewn hydoddiant yn gallu symud yn rhydd, gwrthdaro ac felly adweithio. Wrth adweithio sylweddau â’i gilydd, mae angen i ni wybod faint o bob sylwedd sydd gennym, er mwyn sicrhau bod yr adwaith yn gweithio’n effeithlon. Drwy wybod beth yw crynodiad hydoddiant, rydym yn gwybod faint o bob adweithydd sy’n cael ei ddefnyddio.
Mae titradiad yn ddull manwl gywir o ganfod crynodiad hydoddiant anhysbys, drwy ei gymharu â hydoddiant sydd â chrynodiad diffiniedig. Un ffordd o ddefnyddio’r dechneg hon yw titradu asid yn erbyn alcali.
Bydd atebion llwyddiannus i ddwy ran gyntaf y stribed strwythur yn defnyddio’r termau allweddol yn AD1. Mae gweddill y stribed strwythur yn sicrhau bod y dysgwyr yn canolbwyntio ar yr agweddau ar y dull sy’n cynhyrchu canlyniadau manwl gywir ailadroddadwy mewn titradiad, ac yn gallu egluro eu dealltwriaeth o pam mae titradiad yn cael ei wneud fel hyn (AD2, AD3). Mae’r chweched adran yn annog y dysgwyr i gysylltu’r hyn maent yn ei weld (cynrychioliad macrosgopig) â’r hyn sy’n digwydd ar y lefel ïonig (cynrychioliad is-ficrosgopig) (AD3). I archwilio rhagor ar y berthynas rhwng dealltwriaeth facrosgopig ac is-ficrosgopig, edrychwch ar ein casgliad triongl Johnstone.
Mae’r cwestiwn ateb estynedig wedi’i anelu at AD4, gan ofyn i’r dysgwyr gynllunio dull ond gan ganolbwyntio ar y camau y gellir eu cymryd i gael canlyniadau sydd mor atgynyrchadwy â phosibl.
Sut mae defnyddio stribedi strwythur
Math o sgaffald yw stribedi strwythur, a gallwch eu defnyddio i gefnogi’r dysgwyr i adalw gwybodaeth yn annibynnol. Defnyddiwch nhw i gael trosolwg ar ddechrau’r pwnc, i ysgogi gwybodaeth flaenorol, neu i grynhoi’r dysgu ar ddiwedd pwnc addysgu. I gael rhagor o syniadau am sut mae defnyddio stribedi strwythur gyda’ch dysgwyr, edrychwch ar 5 ffordd o ddefnyddio stribedi strwythur yn effeithiol.
Mae gan y stribedi strwythur adrannau sy’n cynnwys awgrymiadau, ac mae eu maint yn awgrymu faint mae’n rhaid i’r dysgwyr ei ysgrifennu. Bydd y dysgwyr yn gludo’r stribedi ar ymyl llyfr gwaith ac yn ysgrifennu eu hatebion wrth ymyl yr adrannau, mewn brawddegau llawn. Ar ôl i’r dysgwyr orffen defnyddio’r stribed strwythur, dylai fod ganddynt set o dudalennau A4 yn llawn nodiadau ac enghreifftiau.
Mae pum stribed ar dudalen a bydd angen eu torri i’r maint cywir ar ôl eu hargraffu. Maent ar ail dudalen y daflen i fyfyrwyr.
Sgaffaldio
- Anogwch y dysgwyr i ddefnyddio’r geiriau a’r ymadroddion allweddol a awgrymir yn eu hatebion.
- Er mwyn rhoi rhagor o gymorth i’r dysgwyr, dylech gynnwys awgrymiadau ychwanegol yn y stribed strwythur. Os yw’r dysgwyr yn cael trafferth ymgysylltu â’r dasg, rhowch ddechrau brawddegau iddynt sydd wedi cael eu creu o’r atebion enghreifftiol.
- Wrth i’r dysgwyr fagu hyder, gofynnwch iddynt roi cynnig ar y cwestiwn estyn yn gyntaf ac yna defnyddio’r stribed strwythur i wella neu i hunanasesu eu hateb.
Geiriau allweddol
Dellten, hydoddydd, hydoddyn, hydoddiant, crynodedig, gwanedig, g/dm3 (a/neu mol/dm3), bwred, pibed, manwl gywir, dangosydd, niwtralu, titr, cydgordiol, adweithydd.
Metawybyddiaeth
Mae’r adnodd hwn yn cefnogi’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol mewn tri maes allweddol.
- Cynllunio: mae’r stribedi’n darparu sgaffaldiau i gynllunio’r ymateb ysgrifenedig. Bydd y dysgwyr yn penderfynu o ble i gasglu gwybodaeth (gwerslyfrau, eu nodiadau eu hunain, gwefannau adolygu). Gofynnwch i’r dysgwyr: ydy’r ffynhonnell wybodaeth rydych chi’n ei defnyddio yn ddibynadwy?
- Monitro: mae’r cwestiynau yn y stribed strwythur yn rhoi awgrymiadau i’r dysgwyr ac maent yn gallu gwirio eu hateb eu hunain yn erbyn yr awgrymiadau. Gofynnwch i’r dysgwyr: ydych chi wedi rhoi sylw i’r holl awgrymiadau yn y lle gwag sydd wedi’i ddarparu? Oes angen i chi newid unrhyw beth er mwyn cwblhau’r dasg?
- Gwerthuso: gall y dysgwyr hunanasesu neu ofyn i gyd-ddysgwr wirio eu gwaith yn erbyn yr atebion. Gofynnwch i’r dysgwyr: wnaethoch chi gyflawni’r hyn yr oeddech chi’n bwriadu ei gyflawni? Beth allech chi ei wneud yn wahanol rhyw dro arall?
Cwestiwn ateb estynedig
Dywedwch wrth y dysgwyr am ateb y cwestiwn ar ôl rhoi cynnig ar y stribed strwythur. Mae’r stribed strwythur yn ysgogi’r wybodaeth ofynnol, y gall y dysgwyr ei defnyddio wedyn i ateb y cwestiwn.
Ystyriwch ailfframio cyd-destun y cwestiwn hwn i un mae eich dysgwyr yn fwy cyfarwydd ag ef, er mwyn eu grymuso i ddatgloi’r cyfalaf gwyddoniaeth sydd ganddynt eisoes. Darllen mwy am gyfalaf gwyddoniaeth.
Mae dysgwr wedi titradu hydoddiant asid hydroclorig gwanedig drwy ddefnyddio hydoddiant sodiwm hydrocsid 1 mol/dm3. Cafodd ditr cyfartalog o 24.6 cm3.
Rydych chi’n cael ail hydoddiant asid hydroclorig gwanedig sydd â chrynodiad anhysbys.
Cynlluniwch arbrawf i ganfod a yw’r ail sampl o asid hydroclorig yn fwy neu’n llai crynodedig na’r cyntaf.
- Disgrifiwch beth fyddwch chi’n ei wneud i gael canlyniadau manwl gywir.
- Eglurwch sut byddwch chi’n defnyddio’r canlyniadau i bennu a yw’r ail hydoddiant yn fwy neu’n llai crynodedig na’r cyntaf.
Cewch ddefnyddio diagram wedi’i labelu i ategu eich ateb.
Atebion
Rhoddir atebion posibl ar gyfer y gweithgaredd stribed strwythur yn y nodiadau i athrawon y gellir eu lawrlwytho.
Ateb i’r cwestiwn estyn
Bydd atebion y dysgwyr yn amrywio. Mae disgrifiad isod o’r dull a ddefnyddir i gael canlyniadau manwl gywir. Gall y diagramau gynnwys rhywfaint o’r wybodaeth hon ar ffurf labeli.
Dull
Llenwch fwred gyda’r asid hydroclorig sydd â chrynodiad anhysbys a chofnodwch ddarlleniad cychwynnol. Gwnewch yn siŵr bod y fwred yn cael ei darllen ar lefel y llygaid er mwyn cael darlleniad manwl gywir.
Mesurwch 25 cm3 o’r hydoddiant sodiwm hydrocsid 1 mol/dm3 drwy ddefnyddio pibed a’i drosglwyddo i fflasg gonigol. Ychwanegwch ddau neu dri diferyn o ddangosydd ffenolffthalein. Rhowch y fflasg ar deilsen wen i’w gwneud hi’n haws arsylwi’r lliw a’i rhoi o dan y fwred.
Ychwanegwch yr asid o’r fwred ychydig ar y tro at yr alcali yn y fflasg, gan chwyrlïo cynnwys y fflasg yn dda gyda phob ychwanegiad. Daliwch ati i ychwanegu’r alcali tan yr eiliad bydd y lliw pinc yn diflannu. Cofnodwch y darlleniad terfynol a chyfrifwch y titr a ychwanegwyd. Mesur bras yw hwn.
Rinsiwch y fflasg gonigol a defnyddiwch y bibed i fesur 25 cm3 o sodiwm hydrocsid eto ac ychwanegwch fwy o ddangosydd. Yn gyflym rhedwch gyfaint o asid 2 cm3 neu 3 cm3 yn llai na’r titr bras i’r fflasg a’i chwyrlïo’n dda. Ychwanegwch yr asid ddiferyn ar y tro, gan chwyrlïo’r fflasg drwy’r amser tan yr eiliad mae’r lliw yn newid. Cofnodwch ddarlleniad newydd o’r fwred a chyfrifwch y titr manwl gywir.
Ailadroddwch y titradiad manwl gywir i gasglu dau ganlyniad cydgordiol. Cyfrifwch eu cyfartaledd.
Defnyddio’r canlyniadau i bennu’r crynodiad
Cymharwch gyfartaledd y canlyniad â’r titr o 24.6 cm3 a gafwyd o’r sampl cyntaf o asid hydroclorig (sydd wedi cael ei gynnwys yn y cwestiwn). Os yw titr y sampl anhysbys yn fwy na 24.6 cm3, yna mae’r asid anhysbys yn llai crynodedig na’r hydoddiant cyntaf. Os yw’n llai na 24.6 cm3, mae’r hydoddiant newydd yn fwy crynodedig oherwydd bod angen llai o’r sampl i niwtralu’r un cyfaint o sodiwm hydrocsid.
Downloads
Crynodiad hydoddiannau a thitradiadau Stribed strwythur: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.19 mbCrynodiad hydoddiannau a thitradiadau Stribed strwythur: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.26 mbCrynodiad hydoddiannau a thitradiadau Stribed strwythur: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.45 mbCrynodiad hydoddiannau a thitradiadau Stribed strwythur: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.44 mb




No comments yet