Cefnogwch y dysgwyr i ysgrifennu am fàs cymharol yn hyderus

Gellir defnyddio stribedi strwythur i hyrwyddo ysgrifennu annibynnol. Yn yr adnodd hwn, bydd y dysgwyr yn defnyddio geiriau allweddol i ysgrifennu am fàs cymharol, gan egluro sut mae cyfrifo masau atomig cymharol a masau fformiwla cymharol.

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Lawrlwythwch

    Gludwch y stribedi strwythur hyn ar ymyl y dudalen i helpu’r dysgwyr i ganfod neu i adalw gwybodaeth ac ysgrifennu’n annibynnol am fàs cymharol. Mae’r adnodd yn cynnwys awgrymiadau ysgrifennu y gellir eu golygu, cwestiwn estyn ac atebion enghreifftiol.

Amcanion dysgu

  1. Egluro pam mae masau cymharol, yn hytrach na masau gwirioneddol, yn cael eu defnyddio’n fwy cyffredin mewn cemeg.
  2. Cyfuno ysgrifennu â chyfrifiadau i roi esboniadau mwy llawn o gysyniadau cemegol.
  3. Disgrifio sut mae masau cymharol atomau unigol, màs atomig cymharol, màs fformiwla cymharol a chyfansoddiad canrannol yn gysylltiedig.

Cyflwyniad

Mae’r adnodd hwn yn gofyn i’r dysgwyr ddangos eu proses feddwl, yn hytrach na defnyddio dulliau y maent wedi’u cofio ar gyfer gwneud cyfrifiadau. Mewn cemeg, rydym yn cymharu masau gronynnau is-atomig, atomau, elfennau a chyfansoddion gan ddefnyddio masau cymharol, yn hytrach na nodi màs gwirioneddol yr endidau mewn gramau. Màs cymharol unrhyw ronyn yw ei fàs wrth gymharu ag 1/12 o fàs un atom Carbon-12 (12C). Mae masau cymharol yn bwysig oherwydd rydym yn cyfrif atomau gan ddefnyddio eu masau am eu bod yn llawer rhy fach i’w gweld.

Sut mae defnyddio stribedi strwythur

Math o sgaffald yw stribedi strwythur, a gallwch eu defnyddio i gefnogi’r dysgwyr i adalw gwybodaeth yn annibynnol. Defnyddiwch nhw i gael trosolwg ar ddechrau’r pwnc, i ysgogi gwybodaeth flaenorol, neu i grynhoi’r dysgu ar ddiwedd pwnc addysgu. I gael rhagor o syniadau am sut mae defnyddio stribedi strwythur gyda’ch dysgwyr, edrychwch ar 5 ffordd o ddefnyddio stribedi strwythur yn effeithiol.

Mae gan y stribedi strwythur adrannau sy’n cynnwys awgrymiadau, ac mae eu maint yn awgrymu faint y mae’n rhaid i’r dysgwyr ei ysgrifennu. Bydd y dysgwyr yn gludo’r stribedi ar ymyl llyfr gwaith ac yn ysgrifennu eu hatebion wrth ymyl yr adrannau, mewn brawddegau llawn. Ar ôl i’r dysgwyr orffen defnyddio’r stribed strwythur, dylai fod ganddynt set o dudalennau A4 yn llawn nodiadau ac enghreifftiau.

Mae pum stribed ar dudalen a bydd angen eu torri i’r maint cywir ar ôl eu hargraffu. Maent ar ail dudalen y daflen i fyfyrwyr

Sgaffaldio

  • Anogwch y dysgwyr i ddefnyddio’r geiriau a’r ymadroddion allweddol a awgrymir yn eu hatebion.
  • Er mwyn rhoi rhagor o gymorth i’r dysgwyr, dylech gynnwys awgrymiadau ychwanegol yn y stribed strwythur. Os yw’r dysgwyr yn cael trafferth ymgysylltu â’r dasg, rhowch ddechrau brawddegau iddynt sydd wedi cael eu creu o’r atebion enghreifftiol.
  • Wrth i’r dysgwyr fagu hyder, gofynnwch iddynt roi cynnig ar y cwestiwn estyn yn gyntaf ac yna defnyddio’r stribed strwythur i wella neu i hunanasesu eu hateb.

Geiriau allweddol

Proton, niwtron, electron, ffurf safonol, isotop, màs atomig cymharol, cyfartaledd pwysol, màs fformiwla cymharol, canran.

Metawybyddiaeth

Mae’r adnodd hwn yn cefnogi’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau metawybyddol mewn tri maes allweddol.

  • Cynllunio: mae’r stribedi’n darparu sgaffaldiau i gynllunio’r ymateb ysgrifenedig. Bydd y dysgwyr yn penderfynu o ble i gasglu gwybodaeth (gwerslyfrau, eu nodiadau eu hunain, gwefannau adolygu). Gofynnwch i’r dysgwyr: ydy’r ffynhonnell wybodaeth rydych chi’n ei defnyddio yn ddibynadwy?
  • Monitro: mae’r cwestiynau yn y stribed strwythur yn rhoi awgrymiadau i’r dysgwyr ac maent yn gallu gwirio eu hateb eu hunain yn erbyn yr awgrymiadau. Gofynnwch i’r dysgwyr: ydych chi wedi rhoi sylw i’r holl awgrymiadau yn y lle gwag sydd wedi’i ddarparu? Oes angen i chi newid unrhyw beth er mwyn cwblhau’r dasg?
  • Gwerthuso: gall y dysgwyr hunanasesu neu ofyn i gyd-ddysgwr wirio eu gwaith yn erbyn yr atebion. Gofynnwch i’r dysgwyr: wnaethoch chi gyflawni’r hyn yr oeddech chi’n bwriadu ei gyflawni? Beth allech chi ei wneud yn wahanol rhyw dro arall?

Cwestiwn ateb estynedig

Dywedwch wrth y dysgwyr am ateb y cwestiwn ar ôl rhoi cynnig ar y stribed strwythur. Mae’r stribed strwythur yn ysgogi’r wybodaeth ofynnol, y gall y dysgwyr ei defnyddio wedyn i ateb y cwestiwn.

Ystyriwch ailfframio cyd-destun y cwestiwn hwn i un y mae eich dysgwyr yn fwy cyfarwydd ag ef, er mwyn eu grymuso i ddatgloi’r cyfalaf gwyddoniaeth sydd ganddynt eisoes. Darllen mwy am gyfalaf gwyddoniaeth.

Atebion

Rhoddir atebion posibl ar gyfer y gweithgaredd stribed strwythur yn y nodiadau i athrawon y gellir eu lawrlwytho. 

Atebion i’r cwestiwn ateb estynedig

Màs fformiwla cymharol bromin yw 80 + 80 = 160.

Mae bromin yn bodoli fel dau isotop. Mae atomau bromin sydd â màs cymharol o 79 yn cynnwys 35 proton a 44 niwtron yn eu niwclysau, tra mae atomau bromin sydd â màs cymharol o 81 hefyd yn cynnwys 35 proton ond bod ganddynt 46 niwtron.

Mae màs atomig cymharol elfen yn cael ei gyfrif fel cyfartaledd pwysol yn seiliedig ar y canrannau o’i isotopau sy’n digwydd yn naturiol. Mae’r ffaith bod màs atomig cymharol bromin union yn y canol rhwng masau cymharol ei ddau isotop yn awgrymu bod yr un faint o’r naill a’r llall yn bodoli’n naturiol.

Mae màs fformiwla cymharol bromin yn wahanol i’w fàs atomig cymharol oherwydd nid yw atomau bromin byth i’w canfod ar eu pen eu hunain. Yn hytrach, yn yr elfen, mae’r atomau bob amser yn paru i greu moleciwlau, felly mae màs y ddau atom yn cael eu hadio i roi’r màs fformiwla cymharol.

Eisiau rhagor o adnoddau llythrennedd?

Mae rhagor o adnoddau llythrennedd ar gael yn ein cymorth ar gyfer llythrennedd mewn addysgu gwyddoniaeth, sydd wedi’i ddylunio i wreiddio llythrennedd yn eich cwricwlwm a datblygu sgiliau’r dysgwyr o ran darllen, ysgrifennu a siarad am wyddoniaeth, a’u dealltwriaeth o iaith wyddonol.