Yn ddelfrydol ar gyfer gwersi ar electrolysis a dadleoli halogenau

This article is also available in English

Gan ddilyn cyfarwyddiadau integredig, bydd dysgwyr yn arsylwi electrolysis copr clorid. Darllenwch ein herthygl How to teach extraction of metals  am ragor o gymorth a syniadau i addysgu’r pwnc hwn. Cysylltwch â fersiwn ar raddfa lawn o’r sesiwn ymarferol hon a dod o hyd i gwestiynau, modelau Frayer a stribed strwythur yn Electrolysis hydoddiannau dyfrllyd.

  • Example pages from the technician notes and integrated instructions that make up this resource

    Lawrlwythwch

    Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi, cydosod a chynnal yr arbrawf hwn gyda'ch dysgwyr:

Amcanion dysgu

  1. Gwneud arsylwadau manwl a chywir o’r hyn sy’n digwydd ar yr electrod positif a negatif.
  2. Defnyddio eich arsylwadau i gasglu beth sy’n digwydd yn ystod electrolysis.

Cyfarpar (fesul grŵp)

  • Copr clorid (0.5 mol dm-3) tua 1 ml
  • Potasiwm ïodid (0.1 mol dm-3), ychydig o ddiferion
  • Potasiwm bromid (0.1 mol dm-3), ychydig o ddiferion
  • Papur litmws glas
  • Dysgl Petri, gyda dau dwll yn yr ochrau i’r electrodau basio drwodd
  • 2 x electrod ffibr carbon, diamedr 1 mm (mae rhodenni barcud yn gweithio’n dda)
  • 2 x glip crocodeil neu flociau cysylltu (wedi eu torri i’r maint cywir)
  • 2 x gebl trydanol
  • Batri 9 V neu gyflenwad pŵer DC 9 V
  • 4 x pibed neu boteli diferydd ar gyfer hydoddiannau
  • Cyfarwyddiadau integredig wedi eu hargraffu

Cyfarpar diogelwch

  • Cyfarpar amddiffyn y llygaid: sbectol diogelwch EN166 F

Cydosod y cyfarpar

I gynnal yr arbrawf hwn, bydd angen dysgl Petri ar bob grŵp gyda dau dwll wedi eu drilio drwy bob dysgl. Os yw’n anodd cael gafael ar ddril, gallwch wneud y tyllau gyda nodwydd boeth wedi ei gwresogi mewn fflam llosgydd Bunsen. Drwy gynnal yr arbrawf hwn ar raddfa micro mewn dysgl Petri, byddwch yn lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu nwy clorin yn sylweddol.

Gallwch hefyd ddefnyddio daliwr wedi ei wneud o Corriflute neu Perspex. Dewisol yw’r dalwyr, ond maent yn rhoi sefydlogrwydd ac yn helpu i ddal yr electrodau yn y safle cywir. Os nad yw’r rhain ar gael, defnyddiwch ddarn bach o bwti gludiog (fel Blu Tack) i gadw’r electrodau yn eu lle.

Gall dysgwyr ddefnyddio allbrint o’r cyfarwyddiadau integredig i’w harwain drwy’r broses o baratoi’r arbrawf.

Diogelwch

  • Darllenwch ein canllawiau iechyd a diogelwch safonol a chynnal asesiad risg cyn gwneud unrhyw waith ymarferol byw.
  • Sylwch, er bod gweithio ar raddfa micro yn lleihau faint o nwy clorin a gynhyrchir, bydd rhywfaint yn dal i fod yn bresennol yn yr amgylchedd. I leihau’r risg hon, gwnewch yn siŵr eich bod yn gweithio mewn man sydd wedi ei awyru’n dda. Mae nwy clorin yn ocsidio, yn wenwynig ac yn beryglus i’r amgylchedd, gweler CLEAPSS Hazcard HC022.

Darllenwch y nodiadau i dechnegwyr i gael gwybodaeth lawn am ddiogelwch, paratoi, gwaredu ac awgrymiadau i dechnegwyr.

Method

  1. Trefnwch yr electrodau fel eu bod yng nghanol y ddysgl Petri tua 1 cm ar wahân. Rhowch y ddysgl Petri ar ben diagram wedi ei labelu er mwyn ei gwneud yn haws cofnodi eich arsylwadau. Noder: peidiwch â’i gysylltu â’r cyflenwad pŵer nes byddwch chi’n barod i ddechrau’r arbrawf, oherwydd gallai nwy clorin gael ei ryddhau i’r ystafell.
  2. Ychwanegwch ddau ddiferyn o hydoddiant potasiwm bromid at un ochr i’r ddysgl Petri.
  3. Ychwanegwch ddau ddiferyn o hydoddiant potasiwm ïodid at y ddysgl Petri. Dylai hyn fod ar yr un ochr â’r potasiwm bromid ond ni ddylai fod yn ddigon agos i’r cemegion gymysgu.
  4. Rhowch ddarn o bapur litmws glas llaith ar ochr arall y ddysgl Petri.
  5. Ychwanegwch dri neu bedwar diferyn o hydoddiant copr clorid at y cynhwysydd adweithio fel ei fod yn gorchuddio’r ddau electrod.
  6. Rhowch y caead ar y ddysgl Petri.
  7. Yn olaf, cysylltwch y gwifrau â’r cyflenwad pŵer. Clipiwch y clipiau crocodeil ar yr electrodau (neu defnyddiwch flociau cysylltu) ac arsylwch beth sy’n digwydd.

Showing the set up of this experiment. A Petri dish is placed on top of a print out of the integrated instructions which acts as a guide to place the litmus paper, electrodes and drops of solution. The lid is on the petri dish a 9 V battery is attached

Ffynhonnell: Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol

Mae’r cyfarwyddiadau integredig yn arwain y dysgwyr wrth iddynt greu’r arbrawf hwn

Canlyniadau disgwyliedig

  • Gellir gweld solid oren/brown yn ffurfio ar yr electrod negatif. Yn yr arbrawf hwn, copr yw’r solid sy’n cael ei gynhyrchu.
  • Gellir arsylwi swigod ar yr electrod positif sy’n dangos bod nwy yn ffurfio. Yn yr enghraifft hon, clorin yw’r nwy.
  • Mae’r diferyn o botasiwm bromid yn gweithredu fel dangosydd, sy’n newid o ddi-liw i oren wrth i glorin ddisodli’r ïonau bromid a chynhyrchu bromin.
  • Mae’r diferyn o botasiwm ïodid hefyd yn gweithredu fel dangosydd, gan newid o ddi-liw i frown wrth i glorin ddisodli’r ïonau ïodid a chynhyrchu ïodin.
  • Mae’r papur litmws glas llaith wedi ei gannu, sy’n dangos presenoldeb clorin.

Gwaredu

Ar ddiwedd yr arbrawf:

  • Glanhewch yr electrod negatif naill ai gyda phapur tywod neu wlân dur, os oes angen, i dynnu’r dyddodion copr.
  • Rhowch y ddysgl Petri mewn bwced o ddŵr. Tywalltwch y dŵr i lawr draen dŵr budr.

Rhagor o adnoddau

  • Archwiliwch gyfres adweithedd metelau gyda’r gyfres hon o arbrofion ac adnoddau ategol.
  • Helpwch eich dysgwyr 14-16 oed i feistroli’r pwnc anodd hwn gyda’n hawgrymiadau addysgu ar gyfer egluro electrolysis.
  • Helpwch eich dysgwyr i oresgyn camsyniadau cyffredin am electrolysis ac adnabod electrodau’n gywir gyda’r daflen waith i fyfyrwyr a nodiadau i athrawon, gan gynnwys yr atebion.
  • Dewch i gwrdd â Gemma, rheolwr datblygu cynnyrch a phrosesau yn Tata Steel.

Downloads