Mynd i’r afael â thermau anodd

Rydych chi’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl y gwyliau. Rydych chi’n cael cyfarfod staff sy’n amlinellu amcan addysgu a dysgu’r ysgol gyfan – ‘Gwella ansawdd ein haddysgu er mwyn i ni ddatblygu sgiliau cyfathrebu ein myfyrwyr a gwella eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u defnydd o eirfa academaidd.’ Mae eich rheolwr llinell yn gyn bennaeth yr adran Saesneg ac mae gennych chi ganllawiau’r EEF Gwella Gwyddoniaeth Uwchradd. Mae unrhyw beth yn bosibl. Rydych chi’n derbyn yr her yn fodlon. Dyma drosolwg o sut roeddwn i wedi defnyddio’r canllawiau i wella geirfa fy myfyrwyr i.
This article is also available in English
Read the English language version.
Fel athrawon gwyddoniaeth, rydyn ni’n cyflwyno geiriau newydd i’n dysgwyr bron bob gwers, geirfa haen 3 – geirfa pwnc-benodol. Rwy’n defnyddio canllawiau EEF, yn enwedig 6a a 6b, a’r trefnydd graffig sy’n cael ei alw yn fodel Frayer i fynd i’r afael â’r bwlch geirfa gwyddoniaeth yn fy myfyrwyr.
Mae model Frayer wedi cael ei ddefnyddio mewn ystafelloedd dosbarth ers blynyddoedd (cafodd y syniad ei ddatblygu’n wreiddiol gan Dorothy Frayer a chydweithwyr ym Mhrifysgol Wisconsin). Mae’n fodel syml ond effeithiol i helpu myfyrwyr i drefnu eu dealltwriaeth o ddarn newydd o eirfa.
Fe wnes i addasu model Frayer fel a ganlyn:

Lawrlwythwch enghreifftiau o fodelau Frayer wedi’u haddasu ar ffurf MS Powerpoint neu pdf i’w defnyddio gyda’ch myfyrwyr.
Sut mae’r cyfan yn gweithio?
Yn gyntaf, dewiswch y term allweddol rydych chi am ei astudio – fel rheol mae hwn yn ymwneud â’r pwnc rydych chi’n ei addysgu. Er enghraifft, wrth addysgu cadwraeth màs i flwyddyn 8, y term allweddol roeddwn i eisiau iddyn nhw ei ddeall oedd ‘cadwraeth ’.
7 simple rules to boost science teaching
Click to expand and explore the rules
Build on the ideas that pupils bring to lessons
Help pupils direct their own learning
Use models to support understanding
Support pupils to retain and retrieve knowledge
- Pay attention to cognitive load—structure tasks to limit the amount of new information pupils need to process
- Revisit knowledge after a gap to help pupils retain it in their long-term memory
- Provide opportunities for pupils to retrieve the knowledge that they have previously learnt
- Encourage pupils to elaborate on what they have learnt
Use practical work purposefully and as part of a learning sequence
Develop scientific vocabulary and support pupils to read and write about science
Use structured feedback to move on pupils’ thinking
Cam 1 – Archwilio’r term allweddol
- Mae hyn yn plethu â’r syniad o gyfalaf gwyddoniaeth – ennyn yr hyn mae eich myfyrwyr yn ei wybod yn barod am gysyniad mewn gwyddoniaeth a gwerthfawrogi eu cyfraniad.
- Wrth feddwl am ‘cadwraeth’ fel enghraifft, bydd llawer o’r myfyrwyr wedi clywed y gair cadwraeth, yng nghyd-destun ‘cadwraeth natur’ neu ‘ardal gadwraeth’.
Cam 2 – Archwilio’r term allweddol ymhellach
- Mae hyn yn plethu’n dda â chanllawiau EEF ar ddangos rhannau cyfansawdd geiriau i fyfyrwyr. Rwy’n meddwl ei bod hi’n ddifyr iawn bod y canllawiau’n trafod ‘cyfarwyddyd uniongyrchol’ a ‘dulliau wedi’u harwain gan ymholiad’, ond does dim cefnogaeth i’r naill ddull na’r llall – mae’n dibynnu’n drwm ar y dysgu sy’n digwydd. Serch hynny, mae’r canllawiau’n datgan y dylai athro arwain addysgu rhannau cyfansawdd gair.
- Mae’n debyg mai dyma’r agwedd anoddaf o’r dull addysgu hwn – does gen i ddim Lladin na Groeg, ond mae ychydig o waith chwilio gofalus ar y rhyngrwyd am eich term allweddol wedi’i ddilyn gan etymoleg yn gallu arwain at ganlyniadau difyr iawn – dwi’n gwybod fy mod wedi dysgu lot fawr!
- Mae’r canllawiau yn rhoi enghraifft wych o ‘ffotosynthesis’ ac mae dalen waith ddefnyddiol Help your students decode science vocabulary.
Cam 3 – Egluro ystyr y gair

- Mae hon unwaith eto yn adran sy’n cael ei harwain gan yr athro.
- Gan ddefnyddio’r drafodaeth flaenorol am rannau cyfansawdd y gair, rydyn ni’n diffinio’r ymadrodd ‘cadwraeth màs’.
- Rydyn ni’n gwybod (o archwilio’r gair yng ngham 2) fod cadwraeth yn golygu ‘lle mae rhywbeth yn aros yr un fath’.
- Felly, mae cadwraeth más yn golygu ‘lle mae’r más yn aros yr un fath’.
Rhagor o adnoddau geirfa
- Pedwar cam i ddadansoddi diffiniadau, egluro geirfa haen 3 a chodi hyder eich dysgwyr.
- Helpwch eich holl ddysgwyr i feistroli geirfa wyddonol a chael gafael ar gynnwys yn hyderus gyda’r strategaethau hyn.
- Defnyddiwch fodel Frayer i asesu dealltwriaeth y dysgwyr a’u cyfalaf gwyddoniaeth.
Cam 4 – Atgyfnerthu ystyr y gair
- Dyma pryd bydd gan fyfyrwyr ychydig o amser i ddefnyddio’r darn newydd o eirfa. Efallai y byddan nhw’n ysgrifennu paragraff bach gan ddefnyddio’r gair/ymadrodd. Neu yn yr enghraifft (mae modd ei lawrlwytho isod), nodwch frawddegau lle mae’r gair wedi cael ei ddefnyddio’n gywir ac yn anghywir. Bydden nhw wedyn yn gallu egluro pam eu bod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw.
Mae’n ymwneud â dewis y geiriau’n ofalus, yna eu harchwilio drwy eu rhannu’n ddarnau cyfansawdd a rhoi cyfle i fyfyrwyr atgyfnerthu eu dysgu o’r eirfa newydd.
Mae’r erthygl hon yn rhan o’r gyfres 7 simple rules for science teaching, a ddatblygwyd mewn ymateb ie ganllawiau’r EEF ar wella gwyddoniaeth uwchradd. Mae’n cefnogi rheol 6a, Dewiswch yr eirfa'n ofalus i addysgu ac i ganolbwyntio ar y geiriau anoddaf.
Downloads
Example Frayer models
PowerPoint, Size 0.16 mbExample Frayer models
PDF, Size 75.22 kb




No comments yet