Defnyddiwch y pecyn hwn o adnoddau a gweithgareddau i fynd ati’n ofalus i ddewis yr eirfa i’w haddysgu ac i ganolbwyntio ar y geiriau anoddaf

Helpwch bob dysgwr i feistroli iaith adeiledd a bondio a datblygu dealltwriaeth.

Cael yr adnoddau

Lawrlwytho’r pecyn
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Termau allweddol

    Rhestr o dermau allweddol ar gyfer y pwnc hwn sydd wedi’u dewis yn ofalus, gyda diffiniadau

    Rhestr o dermau allweddol ar ffurf PDF | MS Word
    Cymorth i athrawon ar ffurf PDF | MS Word
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Geirfa hygyrch

    Ehangwch ar y rhestr o dermau allweddol gyda delweddau, enghreifftiau, diffiniadau sy’n addas i’r dysgwyr a mwy

    Sleidiau ar ffurf PDF | MS PowerPoint
    Cymorth i athrawon ar ffurf PDF | MS Word
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Modelau Frayer

    Archwiliwch a datblygwch y ddealltwriaeth o dermau allweddol dethol gan ddefnyddio’r fframwaith hwn

    Sleidiau wedi’u sgaffaldio ar ffurf PDF | MS PowerPoint
    Sleidiau heb eu sgaffaldio ar ffurf PDF | MS PowerPoint
    Cymorth i athrawon ar ffurf PDF | MS Word
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Datrys diffiniadau

    Profwch a chyfnerthwch ddealltwriaeth y dysgwyr gyda’r daflen waith hwyliog hon

    Taflen waith i fyfyrwyr ar ffurf PDF | MS Word
    Sleidiau ar ffurf PDF | MS PowerPoint
    Cymorth i athrawon ar ffurf PDF | MS Word

Cyflwyniad

Nod y pecyn cymorth termau allweddol hwn yw eich helpu i fod yn glir am yr eirfa y bydd ei hangen ar eich dysgwyr i allu astudio’r pwnc hwn ar y lefel hon a darparu’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i helpu pob dysgwr i wneud hynny.

Mae’r adnodd termau allweddol yn rhestr o eirfa wedi’i dewis yn ofalus, gyda diffiniadau. Bydd y dysgwyr yn dod ar draws yr eirfa wrth astudio’r pwnc hwn yn y cyfnod allweddol hwn. Mae’r holl dermau allweddol hyn a’u diffiniadau hefyd ar gael yn yr eirfa hygyrch sy’n cynnwys delweddau, canllawiau ynganu a gwybodaeth arall. Mae grŵp llai o’r un termau allweddol hyn a’u diffiniadau ar gael yn yr adnoddau modelau Frayer a datrys diffiniadau.

Mae’r holl adnoddau’n cael eu darparu mewn fformatau y gellir eu golygu fel y gallwch eu haddasu ar sail gofynion eich dysgwyr a’ch bwrdd arholi.

Sut mae defnyddio’r rhestr o dermau allweddol

Mae’r rhestr o dermau allweddol a diffiniadau yn addas i ddysgwyr 14–16 oed ond nid yw wedi’i llunio’n benodol ar gyfer unrhyw fwrdd arholi na chymhwyster. Gallwch olygu’r diffiniadau i gyd-fynd â gofynion eich bwrdd arholi.

Mae’r termau allweddol yn cael eu grwpio yn ôl is-bwnc ac yn nhrefn yr wyddor. Rhoddir mwy o arweiniad yn y nodiadau i athrawon.

Syniadau ar gyfer addasu

  • Beth am gynnwys y geiriau mewn tasg sillafu?
  • Gofynnwch i’r dysgwyr ymchwilio i rai o’r geiriau’n annibynnol.
  • Dilëwch y diffiniadau a gofynnwch i’r dysgwyr eu llenwi wrth gyflwyno pob term.
  • Integreiddiwch sgiliau siarad a gwrando yn y gweithgaredd hwn: modelwch yr ynganiad. Dywedwch y termau allweddol a’r diffiniadau yn uchel a gofynnwch i’r dysgwyr eu hailadrodd fel dosbarth; defnyddiwch y term allweddol yn gywir ac yn anghywir mewn brawddeg a gofynnwch i’r dysgwyr ddyfalu pa un yw pa un.

Archwiliwch ein casgliad llythrennedd mewn addysgu gwyddoniaeth

Edrychwch ar ein hadnoddau cymorth llythrennedd diweddaraf yn ôl pwnc allweddol. Mae pob set yn cynnwys: darllen a deall, gweithgaredd sgwrs strwythuredig, stribedi strwythur a phecyn cymorth termau allweddol.

Gallwch ddod o hyd iddynt gyda’n casgliad gofalus o erthyglau a gweithgareddau sy’n barod ar gyfer yr ystafell ddosbarth i’ch helpu i wreiddio llythrennedd yn y gwersi sydd gennych eisoes.

GWELD Y CASGLIAD

Sut mae defnyddio’r eirfa hygyrch

Mae’r eirfa hygyrch o dermau allweddol yn cynnwys delweddau, canllawiau ynganu a gwybodaeth arall i helpu’r dysgwyr i bontio’r bwlch rhwng termau allweddol a diffiniadau.

Mae pob sleid wedi’i rhannu’n adrannau:

  • Mewn geiriau eraill: diffiniad sy’n fwy addas i’r dysgwyr.
  • Arwyddo: dolenni at eirfa gemeg BSL y Scottish Sensory Centre, sy’n cael ei chynnal gan Brifysgol Caeredin. Dysgwch fwy am Sut gall iaith arwyddion helpu pob dysgwr.
  • Dweud: mae’n helpu’r dysgwyr i wybod sut mae ynganu pob term allweddol.
  • Dadansoddi: pan fo’n ddefnyddiol, mae’r segment hwn yn dadansoddi’r termau allweddol drwy eu hollti’n rhannau geiriau cyfansawdd i ddatgelu rhagor am eu hystyr.
  • Geiriau tebyg: ar lawer o sleidiau, mae’r segment hwn yn rhestru geiriau sydd â’r un ystyron neu ystyron tebyg iawn.
  • Enghraifft: enghraifft o’r gair/y gair mewn cyd-destun a fydd yn debygol o fod yn fwy cyfarwydd i’r dysgwyr.
  • Peidio â drysu â: rhestr o gamsyniadau cyffredin perthnasol i’r dysgwyr fod yn ymwybodol ohonynt.
  • Ystyron eraill: ar rai sleidiau, mae’r segment hwn yn rhestru cyd-destunau eraill lle gallai’r dysgwyr ddod ar draws y gair, er enghraifft mewn ffiseg neu fioleg.

Mae hwn yn adnodd amlbwrpas. Dyma rai syniadau ar sut mae ei ddefnyddio.

  1. Argraffwch ef fel llyfryn a’i roi i gydweithwyr sy’n canolbwyntio ar y Gymraeg/Saesneg fel Iaith Ychwanegol neu Anghenion Addysgol Arbennig. Defnyddiwch yr adnodd gyda’r dysgwyr cyn eu gwersi cemeg i ddysgu geirfa ymlaen llaw.
  2. Rhowch sleidiau penodol mewn cyflwyniadau eraill, i dynnu sylw at y ffaith eich bod yn cyflwyno term newydd i’r dysgwyr.
  3. Defnyddiwch yr adnodd ar gyfer adolygu ar ôl gwers oedd yn cynnwys y term allweddol.
  4. Argraffwch fersiwn o’r adnodd gyda dim ond y ddelwedd a’r diffiniad ‘mewn geiriau eraill’ a defnyddiwch hwn fel sail ar gyfer gweithgaredd rydych chi’n ei greu eich hun.
  5. Gofynnwch i’r dysgwyr ddadansoddi’r diffiniadau o dermau allweddol ymhellach, gan ddefnyddio diagramau wedi’u labelu.
  6. Gallwch greu cardiau fflachio ar gyfer adolygu drwy argraffu sawl sleid ar un ddalen o bapur.

Golygwch y sleidiau i addasu’r cynnwys i weddu orau i’ch dysgwyr, e.e. dileu cynnwys y segmentau a gofyn i’r dysgwyr eu llenwi. Mae hyn yn annog y dysgwyr i ddefnyddio’u cyfalaf gwyddoniaeth a gall ei gwneud hi’n haws i’r dysgwyr rannu gwybodaeth sydd ganddynt yn barod ymysg eu cyd-ddysgwyr cyn i’r cynnwys gael ei drafod yn y dosbarth.

Sut mae defnyddio modelau Frayer

Mae modelau Frayer yn ffordd syml ond effeithiol o ddatblygu dealltwriaeth y dysgwyr o ddarn newydd o eirfa. Byddwch yn gweld beth mae eich dysgwyr yn ei wybod yn barod ac yn adnabod unrhyw gamsyniadau sydd ganddynt. Rhoddir y term allweddol yng nghanol pedwar pedrant; gofynnwch i’r dysgwyr lenwi’r pedrannau yn eu tro.

  • Archwilio: cysylltwch hyn â chyfalaf gwyddoniaeth a gweld beth mae’r dysgwyr yn ei ddeall am y term yn barod.
  • Dadansoddi: edrychwch ar rannau cyfansawdd y gair i ddeall ei ystyr yn fanylach.
  • Egluro: cyflwynwch y diffiniad. Mae dwy ran i’r adran hon. Yn gyntaf, gofynnwch i’r dysgwyr ddiffinio’r term eu hunain ac yna gofynnwch iddynt gopïo’r diffiniad o’r rhestr o dermau allweddol.
  • Cyfnerthu: gofynnwch i’r dysgwyr ddefnyddio eu gwybodaeth am y term drwy ateb cwestiwn.

Darllenwch fwy am fodelau Frayer a’u defnydd yn Teaching challenging vocabularyA model for success.

Awgrymiadau i addasu modelau Frayer

Mae’r adnoddau hyn ar gael mewn fformat heb ei sgaffaldio ac wedi ei sgaffaldio. I rai dysgwyr, mae’r pedrant archwilio yn arbennig o heriol, felly rhowch ragor o amser, cymorth a chyfarwyddiadau penodol iddynt er mwyn defnyddio’r modelau hyn. Peidiwch â phoeni os nad yw’n gweithio’r tro cyntaf.

  • Tynnwch sylw at ragddodiaid, ôl-ddodiaid a chyfieithiadau cyffredin. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i’r dysgwyr.
  • Cysylltwch y termau â geiriau tebyg i helpu’r dysgwyr i awgrymu ystyron posibl.
  • Yn y pedrant egluro, rhowch ddiagramau, enghreifftiau perthnasol ac enghreifftiau amherthnasol.
  • Ychwanegwch gwestiwn ymestynnol at y pedrant cyfnerthu i ddyfnhau’r ddealltwriaeth.

Sut mae defnyddio datrys diffiniadau

Mae datrys diffiniadau yn ffordd hwyliog o brofi a chyfnerthu dealltwriaeth y dysgwyr o’r termau allweddol a’r diffiniadau. Dywedwch wrth y dysgwyr roi’r diffiniadau o dermau allweddol at ei gilydd ac wedyn defnyddio eu dealltwriaeth o’r termau i gwblhau brawddegau. Rhoddir yr atebion yn y nodiadau i athrawon ac maent yn cael eu darparu ar ffurf sleidiau hefyd. Fel y modelau Frayer cysylltiedig, mae datrys diffiniadau yn ymchwilio i ddealltwriaeth y dysgwyr ac yn targedu’r termau anoddach yn y rhestr o dermau allweddol. Darllenwch fwy am ddatrys diffiniadau a’u defnydd yn Closing the word gap.

Syniadau ar gyfer addasu

Integreiddiwch sgiliau siarad a gwrando yn y gweithgaredd hwn:

  • Argraffwch y grid datrys diffiniadau a thorrwch o amgylch y blychau unigol. Gofynnwch i’r dysgwyr gymryd blwch yr un a threfnu eu hunain – fel dosbarth neu grŵp – i greu’r gwahanol ddiffiniadau. Pan fydd pawb yn barod, gofynnwch i bob dysgwr ddarllen ei ran ei hun o’r diffiniad yn ei dro.
  • Gofynnwch i’r dysgwyr ddarllen y sleid cwblhau’r cysylltiad yn llawn.
  • Fel addasiad cyflymach o’r dasg, ystyriwch gynnal gweithgaredd ‘meddwl, paru, rhannu’ lle mae’r dysgwyr yn trafod ac yn penderfynu ar y diffiniadau cywir mewn parau neu grwpiau bach.

Rhowch fwy o gymorth drwy gysylltu’r term yng ngholofn A â’r cofnod cywir yng ngholofn B ac efallai’r cofnod yng ngholofn B â’r cofnod cywir yng ngholofn C, ar gyfer yr ychydig dermau allweddol cyntaf yn y grid.

Downloads