Defnyddiwch y pecyn hwn o adnoddau a gweithgareddau i fynd ati’n ofalus i ddewis yr eirfa i’w haddysgu ac i ganolbwyntio ar y geiriau anoddaf

Helpwch bob dysgwr i feistroli iaith pwnc y model atomig a datblygu dealltwriaeth.

Cael yr adnoddau

LAWRLWYTHO’R PECYN
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Termau allweddol

    Rhestr o dermau allweddol ar gyfer y pwnc hwn sydd wedi’u dewis yn ofalus, gyda diffiniadau

    Rhestr o dermau allweddol ar ffurf PDF | MS Word
    Cymorth i athrawon ar ffurf PDF | MS Word
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Geirfa hygyrch

    Ehangwch ar y rhestr o dermau allweddol gyda delweddau, enghreifftiau, diffiniadau sy’n addas i’r dysgwyr a mwy

    Sleidiau ar ffurf PDF | MS PowerPoint
    Cymorth i athrawon ar ffurf PDF | MS Word
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Modelau Frayer

    Archwiliwch a datblygwch y ddealltwriaeth o dermau allweddol dethol gan ddefnyddio’r fframwaith hwn

    Sleidiau wedi’u sgaffaldio ar ffurf PDF | MS PowerPoint
    Sleidiau heb eu sgaffaldio ar ffurf PDF | MS PowerPoint
    Cymorth i athrawon ar ffurf PDF | MS Word
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hwn

    Datrys diffiniadau

    Profwch a chyfnerthwch ddealltwriaeth y dysgwyr gyda’r daflen waith hwyliog hon

    Taflen waith i fyfyrwyr ar ffurf PDF | MS Word
    Cymorth i athrawon ar ffurf PDF | MS Word
    Sleidiau ar ffurf PDF | MS PowerPoint

Cyflwyniad  

Nod y pecyn cymorth termau allweddol hwn yw eich helpu i fod yn glir am yr eirfa y bydd ei hangen ar eich dysgwyr i allu astudio’r pwnc hwn ar y lefel hon a darparu’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i helpu pob dysgwr i wneud hynny.

Rhestr o eirfa sydd wedi’i dewis yn ofalus yw’r adnodd termau allweddol, gyda diffiniadau. Bydd y dysgwyr yn dod ar draws yr eirfa wrth astudio’r pwnc hwn yn y cyfnod allweddol hwn. Mae’r holl dermau allweddol hyn a’u diffiniadau hefyd ar gael yn yr eirfa hygyrch sy’n cynnwys delweddau, canllawiau ynganu a gwybodaeth arall. Mae grŵp llai o’r un termau allweddol hyn a’u diffiniadau ar gael yn yr adnoddau modelau Frayer a datrys diffiniadau.

Mae’r holl adnoddau’n cael eu darparu mewn fformatau y gellir eu golygu fel y gallwch eu haddasu ar sail gofynion eich dysgwyr a’ch bwrdd arholi.

Sut i ddefnyddio’r rhestr o dermau allweddol

Mae’r rhestr o dermau allweddol a diffiniadau yn addas i ddysgwyr 14–16 oed ond nid yw wedi’i llunio’n benodol ar gyfer unrhyw fwrdd arholi na chymhwyster. Gallwch olygu’r diffiniadau i gyd-fynd â gofynion eich bwrdd arholi.

Mae’r termau allweddol yn cael eu grwpio yn ôl is-bwnc ac yn nhrefn yr wyddor. Rhoddir mwy o arweiniad yn y nodiadau i athrawon

Syniadau ar gyfer addasu

  • Beth am gynnwys y geiriau mewn tasg sillafu?
  • Gofynnwch i’r dysgwyr ymchwilio i rai o’r geiriau’n annibynnol.
  • Dilëwch y diffiniadau a gofynnwch i’r dysgwyr eu llenwi wrth i bob term gael ei gyflwyno.
  • Integreiddiwch sgiliau siarad a gwrando yn y gweithgaredd hwn: modelwch yr ynganiad. Dywedwch y termau allweddol a’r diffiniadau yn uchel a gofynnwch i’r dysgwyr eu hailadrodd fel dosbarth; defnyddiwch y term allweddol yn gywir ac yn anghywir mewn brawddeg a gofynnwch i’r dysgwyr ddyfalu pa un yw pa un.

Archwiliwch ein casgliad llythrennedd mewn addysgu gwyddoniaeth

Edrychwch ar ein hadnoddau cymorth llythrennedd diweddaraf ynghyd â’n casgliad dethol o erthyglau a gweithgareddau sy’n barod ar gyfer yr ystafell ddosbarth i’ch helpu i wreiddio llythrennedd yn eich gwersi presennol.

GWELD Y CASGLIAD

Sut i ddefnyddio’r eirfa hygyrch

Mae’r eirfa hygyrch o dermau allweddol yn cynnwys delweddau, canllawiau ynganu a gwybodaeth arall i helpu’r dysgwyr i bontio’r bwlch rhwng termau allweddol a diffiniadau.

Mae pob sleid wedi’i rhannu’n adrannau:

  • Mewn geiriau eraill: diffiniad sy’n fwy addas i’r dysgwyr.
  • Arwyddo: dolenni at eirfa gemeg BSL y Scottish Sensory Centre, sy’n cael ei chynnal gan Brifysgol Caeredin. Dysgwch fwy am Sut gall iaith arwyddion helpu pob dysgwr.
  • Dweud: mae’n helpu’r dysgwyr i wybod sut mae ynganu pob term allweddol.
  • Dadansoddi: pan fo’n ddefnyddiol, mae’r segment hwn yn dadansoddi’r termau allweddol drwy eu hollti’n rhannau geiriau cyfansawdd i ddatgelu rhagor am eu hystyr.
  • Geiriau tebyg: ar rai sleidiau, mae’r segment hwn yn rhestru geiriau sydd â’r un ystyron neu ystyron tebyg iawn.
  • Enghraifft: enghraifft o’r gair/y gair mewn cyd-destun a fydd yn debygol o fod yn fwy cyfarwydd i’r dysgwyr.
  • Peidio â drysu â: rhestr o gamsyniadau cyffredin perthnasol i’r dysgwyr fod yn ymwybodol ohonynt.
  • Ystyron eraill: ar rai sleidiau, mae’r segment hwn yn rhestru cyd-destunau eraill lle gallai’r dysgwyr ddod ar draws y gair, er enghraifft mewn ffiseg neu fioleg.

Mae hwn yn adnodd amlbwrpas. Dyma rai syniadau ar sut mae ei ddefnyddio.

  1. Argraffwch ef fel llyfryn a’i roi i gydweithwyr sy’n canolbwyntio ar y Gymraeg fel Iaith Ychwanegol neu Anghenion Addysgol Arbennig. Defnyddiwch yr adnodd gyda’r dysgwyr cyn eu gwersi cemeg i ddysgu geirfa ymlaen llaw.
  2. Rhowch sleidiau penodol mewn cyflwyniadau eraill, i dynnu sylw at y ffaith eich bod yn cyflwyno term newydd i’r dysgwyr.
  3. Defnyddiwch yr adnodd ar gyfer adolygu ar ôl gwers a oedd yn cynnwys y term allweddol.
  4. Argraffwch fersiwn o’r adnodd gyda dim ond y ddelwedd a’r diffiniad ‘mewn geiriau eraill’ a defnyddiwch hwn fel sail ar gyfer gweithgaredd rydych chi’n ei greu eich hun.
  5. Gofynnwch i’r dysgwyr ddadansoddi’r diffiniadau o dermau allweddol ymhellach, gan ddefnyddio diagramau wedi’u labelu.
  6. Gallwch greu cardiau fflach adolygu drwy argraffu sawl sleid ar un ddalen o bapur.

Golygwch y sleidiau i addasu’r cynnwys i weddu orau i’ch dysgwyr, e.e. dileu cynnwys y segmentau a gofyn i’r dysgwyr eu llenwi. Mae hyn yn annog y dysgwyr i ddefnyddio’u cyfalaf gwyddoniaeth a gall ei gwneud hi’n haws i’r dysgwyr rannu gwybodaeth sydd ganddynt yn barod ymysg eu cyd-ddysgwyr cyn i’r cynnwys gael ei drafod yn y dosbarth.

Sut mae defnyddio modelau Frayer

Mae modelau Frayer yn ffordd syml ond effeithiol o ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o eirfa newydd. Byddwch yn gweld beth mae eich dysgwyr yn ei wybod yn barod ac yn adnabod unrhyw gamsyniadau sydd ganddynt. Rhoddir y term allweddol yng nghanol pedwar pedrant; gofynnwch i’r dysgwyr lenwi’r pedrantau yn eu tro.

  • Archwilio: cysylltwch hyn â chyfalaf gwyddoniaeth a gweld beth mae’r dysgwyr yn ei ddeall am y term yn barod.
  • Dadansoddi: edrychwch ar rannau cyfansawdd y gair i ddeall ei ystyr yn fanylach.
  • Egluro: cyflwynwch y diffiniad. Mae dwy ran i’r adran hon. Yn gyntaf, gofynnwch i’r dysgwyr ddiffinio’r term eu hunain ac yna gofynnwch iddynt gopïo’r diffiniad o’r rhestr o dermau allweddol.
  • Cyfnerthu: gofynnwch i’r dysgwyr ddefnyddio eu gwybodaeth am y term drwy ateb cwestiwn.

Darllenwch fwy am fodelau Frayer a’u defnydd yn Teaching challenging vocabulary a A model for success.

Awgrymiadau i addasu modelau Frayer

Mae’r adnoddau hyn ar gael mewn fformat heb ei sgaffaldio ac wedi’i sgaffaldio. I rai dysgwyr, mae’r pedrant archwilio yn arbennig o heriol, felly rhowch ragor o amser, cymorth a chyfarwyddiadau penodol iddynt er mwyn defnyddio’r modelau hyn. Peidiwch â phoeni os nad yw’n gweithio’r tro cyntaf.

  • Tynnwch sylw at ragddodiaid, ôl-ddodiaid a chyfieithiadau cyffredin. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i’r dysgwyr.
  • Cysylltwch y termau â geiriau tebyg i helpu’r dysgwyr i awgrymu ystyron posibl.
  • Yn y pedrant egluro, rhowch ddiagramau, enghreifftiau perthnasol ac enghreifftiau amherthnasol.
  • Ychwanegwch gwestiwn ymestynnol at y pedrant cyfnerthu i ddyfnhau’r ddealltwriaeth.

Sut i ddefnyddio datrys diffiniadau

Mae datrys diffiniadau yn ffordd hwyliog o brofi a chyfnerthu dealltwriaeth y dysgwyr o’r termau allweddol a’r diffiniadau. Dywedwch wrth y dysgwyr roi’r diffiniadau o dermau allweddol at ei gilydd ac wedyn defnyddio’u dealltwriaeth o’r termau i gwblhau brawddegau. Rhoddir yr atebion yn y nodiadau i athrawon ac maent yn cael eu darparu fel sleidiau hefyd. Fel y modelau Frayer cysylltiedig, mae datrys diffiniadau yn ymchwilio i ddealltwriaeth y dysgwyr ac yn targedu’r termau anoddach yn y rhestr o dermau allweddol. Darllenwch fwy am ddatrys diffiniadau a’u defnydd yn Closing the word gap.

Syniadau ar gyfer addasu

Integreiddiwch sgiliau siarad a gwrando yn y gweithgaredd hwn:

  • Argraffwch y grid datrys diffiniadau a thorri o amgylch y blychau unigol. Gofynnwch i’r dysgwyr gymryd blwch yr un a threfnu eu hunain – fel dosbarth neu grŵp – i greu’r gwahanol ddiffiniadau. Pan fydd pawb yn barod, gofynnwch i bob dysgwr ddarllen ei ran ei hun o’r diffiniad yn ei dro.
  • Gofynnwch i’r dysgwyr ddarllen y sleid cwblhau’r cysylltiad yn llawn.
  • Fel addasiad cyflymach o’r dasg, ystyriwch gynnal gweithgaredd ‘meddwl, paru, rhannu’ lle mae’r dysgwyr yn trafod ac yn penderfynu ar y diffiniadau cywir mewn parau neu grwpiau bach.

Rhowch fwy o gymorth drwy gysylltu’r term yng ngholofn A â’r cofnod cywir yng ngholofn B ac efallai’r cofnod yng ngholofn B â’r cofnod cywir yng ngholofn C, ar gyfer yr ychydig dermau allweddol cyntaf yn y grid.

Downloads