Atgyfnerthu dealltwriaeth eich myfyrwyr o adeiledd a phriodweddau metelau ac aloion

Mae bondio metelig yn fath o fond cemegol cryf sy’n digwydd mewn metelau pur ac aloion.

Lawrlwytho’r adnoddau

Lawrlwytho’r Cyfan
  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hw

    Poster ffeithlun a thaflen ffeithiau

    Arddangoswch y poster yn eich ystafell ddosbarth neu ar daflunydd. Neu gallwch ei argraffu a’i ddefnyddio fel taflen i’w dosbarthu.

  • Tudalennau enghreifftiol sy'n ffurfio'r adnodd hw

    Taflenni gwaith wedi’u sgaffaldio

    Defnyddiwch y gweithgaredd cysylltiedig i asesu dealltwriaeth y dysgwyr o adeiledd a bondio mewn metelau ac aloion gyda chwestiynau cywir ac anghywir, adnabod y gwall, ac ateb hir. Mae’r daflen waith wedi’i sgaffaldio i fyfyrwyr yn cynnwys awgrymiadau a stribed strwythur i gynnig mwy o gymorth i’r dysgwyr.

    • Taflen waith heb ei sgaffaldio i fyfyrwyr ar ffurf MS Word neu pdf
    • Taflen waith wedi’i sgaffaldio i fyfyrwyr ar ffurf MS Word or pdf
    • Yr atebion a’r canllawiau i athrawon ar ffurf MS Word neu pdf

Oeddech chi’n gwybod …?

Dim ond symbol yr elfen yw fformiwla gemegol metel gan nad yw dellt metelig yn cynnwys nifer penodol o atomau – e.e. mae sodiwm yn cael ei gynrychioli fel Na.

Adeiledd a phriodweddau

Mae angen llawer iawn o egni i drechu bondiau metelig, felly mae gan fetelau ac aloion ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau uchel.

Mae metelau’n ddargludyddion trydanol da oherwydd bod yr electronau dadleoledig yn rhydd i symud drwy’r adeiledd a chario gwefr drydanol.

Mae symudiad electronau’n caniatáu i egni thermol basio’n effeithlon drwy fetelau, sy’n golygu eu bod yn ddargludyddion thermol da hefyd.

Oeddech chi’n gwybod …?

Mae ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau metelau yn gysylltiedig â nifer yr electronau plisg allanol. Po fwyaf yw gwefr yr ïon metel, y mwyaf yw nifer yr electronau dadleoledig a’r cryfaf yw’r bondiau.

Oeddech chi’n gwybod …?

Mae aloion alwminiwm yn cael eu defnyddio i wneud awyrennau, oherwydd eu bod yn ysgafn ac yn gryf iawn. Maent hefyd yn gallu gwrthsefyll cyrydiad oherwydd bod alwminiwm yn gallu ffurfio haen amddiffynnol denau o alwminiwm ocsid.

Pob darlun © Dan Bright

 

Eisiau mwy o bosteri ar fondio?

Rhowch gynnig ar y posteri hyn gyda gweithgareddau sy’n barod ar gyfer yr ystafell ddosbarth i ddysgwyr 14–16 oed: