Adolygwch ddealltwriaeth eich dysgwyr o syniadau, geiriau ac ymadroddion allweddol sy’n ymwneud â bondio
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys tri fersiwn gwahanol o daflen waith ar fondio: un wedi’i sgaffaldio, un wedi’i sgaffaldio’n rhannol ac un heb ei sgaffaldio. Mae taflenni gwaith ychwanegol wedi’u sgaffaldio yn edrych ar fondio cofalent, bondio ïonig a bondio metelig yn unigol. Defnyddiwch y taflenni gwaith i nodi camsyniadau a bylchau yng ngwybodaeth y dysgwyr ar ôl addysgu’r pynciau hyn neu cyn ailedrych arnynt.
-
Lawrlwythwch
Lawrlwythwch yr holl daflenni gwaith o’r dudalen hon fel un bwndel. Mae’r bwndel yn cynnwys y taflenni gwaith bondio wedi’u sgaffaldio’n llawn, wedi’u sgaffaldio’n rhannol a heb eu sgaffaldio, ynghyd â’r taflenni gwaith wedi’u sgaffaldio ar wahân ar fondio cofalent, ïonig a metelig ar ffurf MS Word a pdf.
Mae’r bwndel hefyd yn cynnwys atebion enghreifftiol ar gyfer yr holl daflenni gwaith yn y canllawiau i athrawon.
Gweld a lawrlwytho mwy daflenni gwaith Adolygu fy ngwaith dysgu
Pynciau’r taflenni gwaith bondio
Mae’r taflenni gwaith Bondio yn ymdrin â bondio cofalent, ïonig a metelig, sydd ar gael gyda thair lefel o gymorth: wedi’i sgaffaldio, wedi’i sgaffaldio’n rhannol a heb ei sgaffaldio. Mae atebion enghreifftiol ar gyfer holl lefelau’r taflenni gwaith hyn yn y canllawiau i athrawon.
Mae’r taflenni gwaith Bondio yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
- adnabod bondiau ïonig, cofalent a metelig o ddiagramau
- presenoldeb ïonau mewn bondiau ïonig
- grymoedd electrostatig mewn bondiau ïonig
- rhannu electronau mewn bondiau cofalent
- presenoldeb ïonau metel positif ac electronau negatif mewn bondiau metelig
- y mathau o elfennau sy’n rhan o fondiau ïonig, cofalent a metelig
- egluro pam mae metelau’n dargludo trydan
- egluro’r amodau sydd eu hangen i gyfansoddion ïonig ddargludo trydan
- egluro pam nad yw sylweddau cofalent yn dargludo trydan.
Os bydd y dysgwyr yn ateb cwestiynau am y pynciau hyn yn llwyddiannus, gallant roi cynnig ar y cwestiynau estyn. Yn y cwestiynau hyn mae angen lluniadu diagramau i gynrychioli bondiau ïonig a bondiau cofalent.
Pynciau’r taflenni gwaith bondio cofalent
Mae taflen waith ychwanegol wedi’i sgaffaldio sy’n canolbwyntio ar fondio cofalent ar gael ar ffurf MS Word neu pdf. Bydd y dysgwyr yn dewis geiriau o restr geiriau i gwblhau brawddegau. Defnyddiwch y daflen waith hon ar ddiwedd gwers ar fondio cofalent neu i helpu’r dysgwyr sy’n cael trafferth gyda bondio cofalent. Wedyn, byddai modd annog y dysgwyr hyn i roi cynnig ar y taflenni gwaith bondio sydd wedi’u sgaffaldio’n rhannol er mwyn atgyfnerthu eu dealltwriaeth. Mae atebion enghreifftiol ar gael yn y canllawiau i athrawon sydd hefyd ar gael ar ffurf MS Word neu pdf.
Mae’r daflen waith Bondio cofalent yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
- dehongli diagramau sy’n cynrychioli bondiau cofalent
- rhannu electronau mewn bondiau cofalent
- y mathau o elfennau sy’n rhan o fondio cofalent.
Os bydd y dysgwyr yn ateb cwestiynau am y pynciau hyn yn llwyddiannus, gallant roi cynnig ar y cwestiwn estyn lle gallant gwblhau diagram sy’n cynrychioli ffurfiant bond cofalent.
Pynciau’r taflenni gwaith bondio ïonig
Mae taflen waith ychwanegol wedi’i sgaffaldio sy’n canolbwyntio ar fondio ïonig ar gael ar ffurf MS Word neu pdf. Bydd y dysgwyr yn dewis geiriau o restr geiriau i gwblhau brawddegau. Defnyddiwch y daflen waith hon ar ddiwedd gwers ar fondio ïonig neu i helpu’r dysgwyr sy’n cael trafferth gyda bondio ïonig. Wedyn, byddai modd annog y dysgwyr hyn i roi cynnig ar y taflenni gwaith bondio sydd wedi’u sgaffaldio’n rhannol er mwyn atgyfnerthu eu dealltwriaeth. Mae atebion enghreifftiol ar gael yn y canllawiau i athrawon sydd hefyd ar gael ar ffurf MS Word neu pdf.
Mae’r daflen waith Bondio ïonig yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
- dehongli diagramau sy’n cynrychioli bondiau ïonig
- presenoldeb ïonau mewn bondiau ïonig
- grymoedd electrostatig mewn bondiau ïonig
- y mathau o elfennau sy’n rhan o fondio ïonig.
Os bydd y dysgwyr yn ateb cwestiynau am y pynciau hyn yn llwyddiannus, gallant roi cynnig ar y cwestiwn estyn lle gallant gwblhau diagram sy’n cynrychioli ffurfiant bond ïonig.
Pynciau’r taflenni gwaith bondio metelig
Mae taflen waith ychwanegol wedi’i sgaffaldio sy’n canolbwyntio ar fondio metelig ar gael ar ffurf MS Word neu pdf. Bydd y dysgwyr yn dewis geiriau o restr geiriau i gwblhau brawddegau. Defnyddiwch y daflen waith hon ar ddiwedd gwers ar fondio metelig neu i helpu’r dysgwyr sy’n cael trafferth gyda bondio metelig. Wedyn, byddai modd annog y dysgwyr hyn i roi cynnig ar y taflenni gwaith bondio sydd wedi’u sgaffaldio’n rhannol er mwyn atgyfnerthu eu dealltwriaeth. Mae atebion enghreifftiol ar gael yn y canllawiau i athrawon sydd hefyd ar gael ar ffurf MS Word neu pdf.
Mae’r daflen waith Bondio metelig yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
- dehongli diagramau sy’n cynrychioli bondiau metelig
- presenoldeb ïonau metel positif ac electronau dadleoledig negatif mewn bondiau metelig
- grymoedd electrostatig mewn bondiau metelig
- egluro pam mae metelau’n dargludo trydan.
Os bydd y dysgwyr yn ateb cwestiynau am y pynciau hyn yn llwyddiannus, gallant roi cynnig ar y cwestiwn estyn lle gallant gwblhau diagramau sy’n cynrychioli ffurfio bondiau metelig.
Sut mae defnyddio’r adnodd hwn
Gellir defnyddio’r taflenni gwaith mewn sawl ffordd:
- i asesu gwybodaeth y dysgwyr ar ddechrau neu ddiwedd cyfnod o addysgu. Parwch lefel y daflen waith ag anghenion cymorth y dysgwyr;
- i asesu gwybodaeth yn ystod cyfnod o addysgu ar ôl i’r dysgwyr gwblhau’r pwnc perthnasol;
- fel rhan o’r adolygu;
- fel ymarfer gloywi ar gyfer athrawon neu bobl nad ydynt yn arbenigo yn y pwnc.
Sgaffaldio
Mae tair lefel o gymorth ar gael, gan ddarparu opsiynau yn dibynnu ar anghenion cymorth amrywiol y dysgwyr. Darperir fersiwn y gellir ei olygu o bob taflen waith, gan roi rhagor o gyfleoedd i addasu’r adnoddau i ddiwallu anghenion dysgu unigolion. Hefyd, mae modd cynyddu lefel y taflenni gwaith a ddefnyddir, wrth i’r dysgwyr symud ymlaen drwy eu cwricwlwm.
Dysgu annibynnol a metawybyddiaeth
Mae tudalen ‘Beth ydw i’n ei ddeall?’ yn cael ei chynnwys ym mhob taflen waith. Mae’r dysgwyr yn cael eu hannog i ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol a gallant ddefnyddio eu myfyrdod fel canllaw ar gyfer adolygu. Bydd yr adborth hefyd yn eich helpu i adnabod meysydd y mae angen rhoi sylw iddynt gyda’r dosbarth cyfan.
Downloads
Bondio: taflen myfyriwr wedi ei rhannol sgaffaldio
Handout | PDF, Size 0.49 mbBondio: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Handout | PDF, Size 0.53 mbBondio: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.56 mbBondio: taflen myfyriwr
Handout | PDF, Size 0.41 mbBondio cofalent: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Handout | PDF, Size 0.3 mbBondio cofalent: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.31 mbBondio ïonig: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Handout | PDF, Size 0.41 mbBondio ïonig: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.3 mbBondio metelig: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Handout | PDF, Size 0.34 mbBondio metelig: nodiadau i athrawon
Handout | PDF, Size 0.28 mbBondio: taflen myfyriwr wedi ei rhannol sgaffaldio
Handout | Word, Size 0.52 mbBondio: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Editable handout | Word, Size 0.56 mbBondio: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.49 mbBondio: taflen myfyriwr
Editable handout | Word, Size 0.4 mbBondio cofalent: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Editable handout | Word, Size 0.23 mbBondio cofalent: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.2 mbBondio ïonig: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Editable handout | Word, Size 0.41 mbBondio ïonig: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.22 mbBondio metelig: nodiadau i athrawon
Editable handout | Word, Size 0.21 mbBondio metelig: taflen myfyriwr wedi ei sgaffaldio
Editable handout | Word, Size 0.29 mb




No comments yet